Cwestiynau cyffredin Caru Gwenyn
Yn anffodus, nid yw glaswellt byr o fudd neu nemor ddim budd i natur. Mae peillwyr mewn trafferthion ledled y Deyrnas Unedig oherwydd pwysau fel defnyddio plaleiddiaid a cholli cynefinoedd. Er enghraifft, ers diwedd y rhyfel, mae 97% o ddolydd blodau gwyllt wedi’u colli yn y Deyrnas Unedig, sy’n ystadegyn arswydus. Rydym yn dibynnu ar bryfed peillio ar gyfer ein cadwyn cyflenwi bwyd ac mae angen i ni ddarparu cartrefi a mannau bwydo ar eu cyfer er mwyn sicrhau eu bod yn goroesi.
Mae’r Cyngor yn rheoli cryn dipyn o dir ar leiniau ymyl ffordd trwy dorri’r glaswellt ac mae cyfle pwysig i wella bioamrywiaeth a darparu cartrefi i’r peillwyr hyn yn y sir trwy newid y dull rheoli yn rhai o’r ardaloedd hyn.
Mae’n bwysig cyfrannu at daclo argyfwng natur a’r hinsawdd trwy wella natur ar dir cyhoeddus lle gallwn ni. Mae gan y cyngor ddyletswydd hefyd i ddiogelu, cadw a gwella ein hamgylchedd naturiol o dan delerau’r Cynllun Corfforaethol, y Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth, Cynllun Gweithredu Adfer Natur CNPT a Chynllun Gweithredu Pryfed Peillio Cymru.
Bydd gwella amrediad a chyflwr glaswelltir blodau gwyllt o fudd hefyd i lesiant cymunedau, gan fod gwaith ymchwil wedi profi bod cyswllt agos â natur yn gwella iechyd meddwl a llesiant.
Mae casglu torion yn gostwng lefelau maethynnau ac yn atal gorchudd trwchus rhag ffurfio. Mae hyn yn caniatáu i hadau blodau gwyllt egino ac yn atal rhywogaethau cryf, cystadleuol rhag cael y lle blaenaf. Gydag amser, bydd clirio’r torion yn golygu bod lleiniau ymyl ffordd yn haws eu rheoli gan fod lefelau maethynnau is yn golygu bod rhywogaethau o flodau sy’n tyfu’n arafach yn dechrau tyfu yn lle glaswellt toreithiog.
Na fydd. Diogelwch fydd y flaenoriaeth bob amser, sy’n golygu y bydd rhai ardaloedd yn dal i gael eu torri’n rheolaidd fel lleiniau gwelededd.
Ddim o gwbl. Er y gallai’r dull gweithredu hwn arwain at arbedion cost i Gyngor CNPT yn y pen draw, dylai lleihau amlder y gwaith torri sy’n ofynnol ganiatáu i ni ganolbwyntio rhagor o adnoddau ar anghenion eraill o ran gofal stryd, fel codi sbwriel a glanhau arwyddion. Yn y tymor byr, er y gallem weld llai o dorri glaswellt mewn ardaloedd penodol ar adegau penodol o’r flwyddyn, bydd costau o hyd, yn gysylltiedig â chodi’r torion, cynnal a chadw’r peiriannau, a chlirio’r torion o’r safle mewn rhai achosion. Ni fydd y cyngor yn arbed arian ar unwaith yn sgîl y cynllun.
Mae natur, yn ei hanfod, yn anniben! Bydd hi’n anoddach i rai ddod i arfer â gweld ardaloedd yn cael llonydd i dyfu. Fodd bynnag, credwn y dylem fod yn gwneud popeth a allwn i helpu peillwyr a’n nod fydd ‘torri ymylon’ mewn rhai ardaloedd, lle bydd ymylon llwybrau a ffyrdd yn cael eu torri i’w cadw’n daclus.
Cynllun newydd yw Caru Gwenyn CNPT (ers 2021) ac mae’n bosib nad ydym yn gwybod am yr ardal. Cysylltwch â ni i awgrymu’r safle trwy anfon neges e-bost i biodiversity@npt.gov.uk
Am y rhesymau a ddisgrifiwyd yn Adran 5 o’r ddogfen hon, rydym yn ffafrio newid dull rheoli yn hytrach na gor-hau neu blannu lle bydd modd, er mwyn annog y gronfa o hadau brodorol i ffynnu heb gyflwyno rhywogaethau estron neu rywogaethau nad ydynt yn digwydd yn naturiol yn yr ardal.
Os na fydd arwydd bod yr amrywiaeth o flodau gwyllt yn cynyddu, ar ôl tair blynedd o waith rheoli trwy dorri a chasglu, gallem ystyried helpu blodau gwyllt i sefydlu trwy ddefnyddio planhigion plwg, gwair gwyrdd neu hadau o ffynonellau lleol. Cysylltwch â’r Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt i gael gwybodaeth am hyn neu i fynegi diddordeb mewn helpu gyda’r gwaith hwn os bydd gofyn.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd ardaloedd Toriad Dôl yn cael eu nodi â Logo Caru Gwenyn CNPT ond os nad yw hwnnw i’w weld, cysylltwch â ni i wirio a yw ardal wedi’i chynnwys yn y cynllun.
Na fydd. Glaswellt sy’n achosi clefyd y gwair yn bennaf a bydd rheoli â pheiriannau torri a chasglu yn lleihau’r maethynnau ac yn arwain at lai o weiriau a mwy o flodau gwyllt. Pryfed yn hytrach na’r gwynt sy’n peillio blodau gwyllt, felly nid ydynt yn rhyddhau paill yn yr un ffordd â gwair a choed.
Wrth gwrs! Cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost. Cofiwch fod cyfyngiadau a allai ein hatal rhag cynnwys yr ardal yn y cynllun, gan gynnwys rhesymau diogelwch neu amwynder. Ar ben hynny, dim ond tir sy’n eiddo i’r awdurdod lleol y gellir ei gynnwys.
Wrth gwrs. Os hoffech drafod hyn yng nghyswllt ardal benodol, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Er bod gwenyn mêl yn wych ar gyfer cynhyrchu bwyd neu les, yn anffodus, dan rai amgylchiadau, gall cychod gwenyn wedi'u rheoli gael effaith niweidiol ar fioamrywiaeth. Nid yw'r wenynen fêl yn rhywogaeth sydd mewn perygl, ac yn CNPT mae gennym boblogaethau bach o beillwyr gwyllt sydd mewn perygl fel y Gardwenynen Feinllais (Bombus sylvarum). Mae pryder cynyddol bod y trwch anarferol o uchel o wenyn mêl yn gwaethygu'r dirywiad mewn peillwyr gwyllt sy'n gysylltiedig â rhai ffurfiau ar gadw gwenyn*.
Mae'n hysbys bod gwenyn mêl cadw yn effeithio ar beillwyr gwyllt mewn dwy brif ffordd: cystadleuaeth am adnoddau blodeuol ac ymlediad clefydau **. Mae pob cwch gwenyn yn cyflwyno 35,000 i 40,000 o wenyn i ardal, ac felly, dylai gwenynwyr greu adnoddau blodeuol sylweddol ar gyfer pob cwch gwenyn er mwyn lleihau'r pwysau ar wenyn gwyllt sydd eisoes yn bresennol yn ardal y cwch gwenyn.
Er mwyn atal straen diangen ar ein poblogaethau gwenyn gwyllt, ni fyddwn yn gosod cychod gwenyn ein hunain, nac yn caniatáu i gychod gwenyn gael eu gosod ar dir sy'n eiddo i'r cyngor dan Gynllun Caru Gwenyn CNPT. Gallwch ddarllen rhagor am wenyn mêl a chadwraeth yn y datganiad sefyllfa ar wefan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Gwenyn (Yn Saesneg).
Cyfeiriadau:
*Roubik 1978, Goulson 2003, Paini 2004, Fürst et al 2014, Geslin et al 2016, Torné-Noguera et al 2016, Cane & Tepedino 2017, Mallinger et al 2017, Geldman & González-Varo 2018, Wojcik et al 2018
** Paini 2004, Van der Spek 2012, Mallinger et al 2017, Kleijn et al 2018