Caru Gwenyn CNPT
Yng Nghastell-nedd Port Talbot rydym yn annog blodau gwyllt ar yr ymylon drwy newid y ffordd rydym yn rheoli'r glaswelltiroedd.
Mewn rhai mannau, rydym yn dodi'r peiriannau torri gwair i gadw dros fisoedd yr haf er mwyn caniatáu i'r blodau dyfu. Yna byddwn yn defnyddio'r peiriannau torri a chasglu yn yr hydref i dorri a chasglu'r toriadau, gan gadw lefelau maeth y pridd yn isel.
Drwy annog blodau gwyllt i dyfu, rydym yn cefnogi peillwyr fel gwenyn ac ieir bach yr haf.
Mae’r safleoedd hyn yn cynnwys:
- Mynedfa Coed Hirwaun
- Llain Ganol yr A48, Margam
- Ffordd Harbwr
- Cylchfan Saltings
- Cylchfan Ffordd Stratton
- Cyfnewidfa Llandarcy, Pen-yr-Heol
- A4109
- Fabian Way
- Ymyl Tegeirian Lawnt Fowlio'r Cymer
Yn absenoldeb unrhyw esgeuluster neu dor-dyletswydd gan y cyngor, rydych yn archwilio’r safleoedd hyn ar eich menter eich hun.
Rydyn ni’n gweithio gyda’r cynghorwyr yn eich ward i benderfynu ar y mannau mwyaf priodol lle gallwn ni roi rhwydd hynt i natur ffynnu yn eich ardal leol ac rydyn ni’n awyddus i glywed gan unrhyw gymuned leol ynghylch sut maen nhw’n meddwl y gallant ein helpu gyda’r dull gweithredu ecolegol hwn o reoli lleiniau ymyl ffordd yn eu hardal. Gofynnwn i chi roi gwybod i ni os hoffech wirfoddoli i’n helpu ni i ofalu am un o Leiniau Ymyl Ffordd arbennig Caru Gwenyn CNPT.
Cadwch lygad ar agor am arwyddion Caru Gwenyn CNPT ar draws y sir!
Cysylltwch â ni yn y cyfeiriad environment@npt.gov.uk – Pennawd y Neges ‘Caru Gwenyn CNPT