Trebannws
Mae ardaloedd trefol y ward hon yn wyrdd iawn gyda llawer o goed a gerddi mawr ar y stryd. Mae rhan o SBCN Camlas Tawe yn y ward hon. Mae ardaloedd o goetir hynafol lled-naturiol a choetir brodorol wedi'u plannu ar safleoedd sbwriel pyllau glo. Mae'r rhan fwyaf o'r ward yn dir ffermio.
Mae'r coridorau gwyrdd yn yr ardaloedd trefol yn dda ar gyfer adar y to, sydd wedi dirywio'n ddramatig yn y DU dros y degawdau diwethaf. Mae SBCN Camlas Tawe wedi'i ddynodi'n gamlas nodweddiadol gyda phlanhigion sy'n codi o'r dŵr fel llysiau’r milwr coch a gold y gors. Mae'r coetiroedd hynafol yn gartref i dylluanod brych, cnocellod brith mwyaf a theloriaid y coed. Mae'r tir fferm yn dda ar gyfer ysgyfarnogod brown, moch daear a draenogod.
Camau Gweithredu
- Cynyddwch ymwybyddiaeth o fywyd gwyllt yn y ward e.e. trwy gynnal teithiau cerdded bywyd gwyllt ar hyd y gamlas
- Anogwch tirfeddianwyr i reoli tir mewn ffordd sy'n sensitif i natur. Efallai y bydd rhai am ymuno â'r Grŵp Dolydd lleol, cysylltwch â'r tîm i gael gwybod mwy.
- Chwiliwch am leoliadau Caru Gwenyn CNPT o amgylch y ward h.y. safleoedd lle byddai blodau'n tyfu pe na bai'r gwair yn cael ei dorri ar gyfer yr haf