Pontardawe
Mae gan y ward amrywiaeth o gynefinoedd. Mae tref Pontardawe yn wyrdd iawn gyda llawer o goed a gerddi mawr ar y stryd. Mae camlas Tawe’n rhedeg drwy'r de-ddwyrain. I'r gorllewin mae Gwarchodfa Natur Leol Glyn Cwm Du a Phlanhigfa Glanrhyd. Ar y llwyfandir uwchben hyn mae SBCN Mynydd Gellionnen a ddynodwyd ar gyfer ei frithwaith o gynefinoedd. Mae afonydd Egel a Chlydach Uchaf a'u hisafonydd yn darparu coridorau glannau afon. Mae SoDdGA Frondeg wedi'i ddynodi ar gyfer ei laswelltiroedd niwtral, ei weirgloddiau a'i laswelltir gwlyb; mae'n gynefin cynyddol brin yn yr iseldiroedd. Mae SoDdGA Cefn Gwrhyd yn enghraifft o gyforgors a chynefinoedd cysylltiedig. Mae SoDdGA Gwrhyd a Glaswelltiroedd Hafod Wennol yn gyfres helaeth o ddolydd a phorfeydd gwlyb. Mae SoDdGA Coed Cwm Du Cilmaengwyn yn goetir derw mes di-goes. Mae'r rhan fwyaf o'r SBCN wedi'u dynodi ar gyfer eu brithwaith o gynefinoedd, yn enwedig ar y tiroedd comin.
Mae'r afonydd a'u hisafonydd yn bwysig ar gyfer dyfrgwn, trochwyr, gleision y dorlan ac ystlumod. Mae'r coetiroedd yn gartref i deloriaid yr helyg. Gellir dod o hyd i ysgyfarnogod brown ac ehedyddion ar y tir ffermio. Mae moch daear yn ymweld â gerddi ger coetiroedd. Ar dir comin yr ucheldir gallwch weld barcutiaid coch, boncathod a chigfrain. Gyda'r cyfnos efallai y cewch gipolwg ar dylluan wen. Mae’r cynefin yma’n cynnwys grug, llusi duon bach, gwlithlys a phlu'r gweunydd.
Camau Gweithredu
- Mae ein gwenoliaid duon mewn trafferthion a gallwch helpu. Ewch ati i nodi adeiladau yn y ward lle gellir codi blychau nythu ar gyfer gwenoliaid duon i gymryd lle'r rhai a gollwyd pan ailwampiwyd hen adeiladau. Mae prosiect gwenoliaid duon yn cael ei gynnal eleni i ariannu'r blychau hyn, cysylltwch â'r tîm i gael gwybod mwy.
- Chwiliwch am leoliadau Caru Gwenyn CNPT o amgylch y ward h.y. safleoedd lle byddai blodau'n tyfu pe na bai'r gwair yn cael ei dorri ar gyfer yr haf
- Mae rhywogaethau planhigion anfrodorol ymledol yn broblem yn y ward hon. Mae trefnu i gael gwared ar ffromlys neu gynyddu ymwybyddiaeth o sut i wneud hyn (mae'n hawdd iawn!) yn ffordd dda o helpu i fynd i'r afael â'r mater.