De Castell-nedd
Mae ardaloedd trefol y ward hon yn wyrdd iawn gyda llawer o goed a gerddi mawr ar y stryd. Mae rhan o SBCN y Waun yn y ward sydd wedi'i dynodi ar gyfer ei brithwaith o gynefinoedd, gan gynnwys glaswelltir a rhostir asidig. Ochr yn ochr â hyn mae ardal o dir ffermio. Mae gwrychoedd sydd wedi'u cysylltu'n dda’n darparu coridorau i rywogaethau symud ar hyd y dirwedd. Mae rhan o Warchodfa Natur Leol Cwm Cryddan yn y ward, gan gynnwys rhai coetiroedd derw hynafol. Mae rhannau o Gomin Cimla yn cael eu rheoli ar gyfer blodau gwyllt dan gynllun Caru Gwenyn CNPT. Mae'r ward gyfan mewn B-Line.
Rydym yn rhannu’n hardaloedd trefol â llawer o rywogaethau. Mae'r rhain yn cynnwys adar y to sydd wedi dirywio'n fawr yn y DU. Gall ystlumod fel y corystlum cyffredin ddefnyddio tai hefyd. Maent yn hoffi clwydo mewn bylchau bach fel o dan deils neu y tu ôl i wynebfyrddau. Mae'r cymysgedd o gynefinoedd trefol a thir ffermio’n fuddiol i gadnoid a draenogod. Mae tir ffermio’n gartref i ysgyfarnogod brown, moch daear a thylluanod brych. Caiff blychau ystlumod yng Nghwm Cryddan eu harchwilio gan wirfoddolwyr y canfuont yn ddiweddar fod clwyd famolaeth o ystlumod Natterer.
Camau Gweithredu
- Mae ein gwenoliaid duon mewn trafferthion a gallwch helpu. Ewch ati i nodi adeiladau yn y ward lle gellir codi blychau nythu ar gyfer gwenoliaid duon i gymryd lle'r rhai a gollwyd pan ailwampiwyd hen adeiladau. Mae prosiect gwenoliaid duon yn cael ei gynnal eleni i ariannu'r blychau hyn, cysylltwch â'r tîm i gael gwybod mwy.
- Gweithiwch gyda ni i gynyddu ardal Caru Gwenyn CNPT a reolir ar Gomin Cimla – mae digon o botensial yma!
- Grŵp gwirfoddol gweithgar sy'n gofalu am Barc Gwledig y Gnoll yw Cyfeillion Parc Gwledig y Gnoll. Dywedwch wrth etholwyr sydd â diddordeb i ymuno â'r grŵp.