Cymer a Glyncorrwg
Er ei bod yn ymddangos bod y ward yn cael ei dominyddu gan blanhigfa gonwydd a Fferm Wynt Pen y Cymoedd, nid dyna'r stori gyfan. Mae'r ardaloedd yr ymddengys iddynt gael eu dylanwadu fwyaf gan ddyn mewn gwirionedd wedi creu cynefinoedd diddorol ar gyfer bywyd gwyllt. Mae’r planhigfeydd conwydd wedi creu rhai amodau annisgwyl ar gyfer planhigion is ac maent yn lleoedd nythu perffaith ar gyfer rhywogaethau adar niferus na fyddent yma fel arall. Mae'r Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SBCN) sy'n rhedeg ar hyd llawr Cwm Afan mewn gwirionedd yn hen bentyrrau sbwriel pyllau glo y cydnabuwyd yn ddiweddar fel fod ganddynt werth uchel am fioamrywiaeth am eu bod yn dynwared cynefinoedd naturiol fel twyni tywod rydym yn eu colli oherwydd pwysau datblygu. Ym mhentref Glyncorrwg mae 3 SBCN. Mae Fferm Ynys Corrwg wedi'i dynodi ar gyfer ei chymysgedd o laswelltiroedd ac elfennau rhostir. Mae Mynwent Sant Ioan wedi'i dynodi ar gyfer ei fflora cyfoethog a choed yw hynafol. Mae Bryn Gwyn yn enghraifft o orgors wedi'i haddasu. Mae rhai safleoedd yn cael eu rheoli dan gynllun Caru Gwenyn CNPT. Mae BLine yn pasio drwy ganol y ward.
Mae'r planhigfeydd conwydd yn gartref i walch Marth, y gylfin groes a’r pila gwyrdd a boda'r mêl o bosib. Yn y gaeaf, mae’r cigydd mawr yn ymweld â hwy'n aml - dyma aderyn sy'n hoffi cadw’i fwyd tan yn hwyrach drwy ei gwaëllu i frigyn. Ar ddiwedd y gwanwyn gellir clywed sŵn cri'r troellwr mawr mewn ardaloedd sydd wedi'u clirio. Gan fanteisio ar y traciau calchfaen yn y goedwig, gellir dod o hyd i gnwp-fwsogl corn carw. Mae gan gorsydd yr ucheldir a'r mawn dwfn nifer o rywogaethau o figwyn yn ogystal â llafn y bladur, llysiau'r groes a grug y mêl. Ymhlith y rhywogaethau a gofnodwyd ar y tomenni sbwriel glo y mae’r fritheg berlog bach, y wiber, y gwibiwr llwyd, grug y mêl, llusi duon bach, eurwialen a grug. Mae'r afonydd a'r isafonydd yn bwysig ar gyfer dyfrgwn, trochwyr a gleision y dorlan. Mae'r tir ffermio’n bwysig ar gyfer yr ehedydd, yr ysgyfarnog brown, y barcud coch a’r boncath. Mae tegeirianau’n gyffredin ar ymylon ffyrdd.
Camau Gweithredu
- Er gwaethaf ei bwysigrwydd o ran natur, nid yw sbwriel glo yn cael ei werthfawrogi digon ac yn aml caiff ei fygwth gan ddatblygiad neu blannu coed. Cymerwch yr amser i werthfawrogi'r cynefinoedd ar y safleoedd arbennig hyn a chynyddu ymwybyddiaeth ymhlith eraill drwy deithiau cerdded tywys neu hyrwyddo.
- Cefnogwch a hyrwyddwch safleoedd Adfer Mawndiroedd a'r digwyddiadau Adfer Mawndiroedd a fydd yn cael eu cynnal dros y blynyddoedd nesaf - rhagor o wybodaeth yn npt.gov.uk/21367
- Mae gan afon Afan broblemau gyda rhywogaethau planhigion estron goresgynnol y gallwch helpu i fynd i'r afael â hwy drwy drefnu i gael gwared ar ffromlys.