Creunant, Onllwyn a Blaendulais
Mae'r ward yn cynnwys Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) – Coedydd Nedd a Mellte, enghraifft fawr ac amrywiol iawn o goedwig derw digoes. Mae SoDdGA Gorsllwyn yn cynnwys mawndiroedd o ddyfnderoedd amrywiol. Mae hefyd yn cynnwys crynswth siâp cromen o fawn uwchben y lefel trwythiad cyffredinol, a elwir yn gyforgors. Prin iawn yw'r enghreifftiau o hyn yng nghanolbarth a de Cymru. Mae'r ward hon yn cynnwys sawl SBCN a ddynodwyd ar gyfer eu nodweddion glaswelltir corsiog. Mae rhannau o SBCN Sarn Helen ar hyd y ffin ddwyreiniol, ac mae hwn yn safle helaeth sydd wedi'i ddynodi ar gyfer ei frithwaith o gynefinoedd, gan gynnwys glaswelltiroedd asid ucheldirol, rhostiroedd a gorgors. O amgylch Blaendulais, mae'r SBCNau annibynnol wedi'u dynodi ar gyfer eu cynefinoedd glaswelltir, yn ogystal â rhai elfennau o rostir. Mae'r rhain yn gerrig sarn pwysig ar gyfer sawl rhywogaeth o greaduriaid di-asgwrn-cefn prin. Mae dwy B-line wahanol yn rhedeg drwy’r ward hon.
Mae coridorau'r afon yn bwysig i ddyfrgwn, gleision y dorlan, ystlumod a throchwyr. Mae'r ardal yn enwog am fod yn gadarnle ar gyfer iâr fach yr haf britheg y gors, sy'n dod yn fwyfwy prin ledled Ewrop. Mae'r poblogaethau hyn yn rhan o gadarnle ehangach sy'n amrywio o RhCT i Gaerfyrddin. Gellir dod o hyd i blanhigion diddorol mewn glaswelltiroedd a rhostiroedd gwlypach gan gynnwys plu'r gweunydd, gwlithlys, llafn y bladur a grug. Mae'r ardaloedd hyn hefyd yn dda ar gyfer y dylluan wen, yr ehedydd, yr ysgyfarnog frown ac ymlusgiaid. Mae'r planhigfeydd conwydd yn gartref i walch Marth, y gylfin groes a’r pila gwyrdd
Camau Gweithredu
- Mae grŵp gwirfoddol gweithredol, wedi'i gydlynu gan Warchod Glöynnod Byw, sy'n rheoli cynefin ac yn arolygu ar gyfer iâr fach yr haf britheg y gors drwy gydol y flwyddyn. Gallwch gyfeirio pobl yn y ward sydd â diddordeb i gynorthwyo'r grŵp hwn.
- Anogwch tirfeddianwyr i reoli tir mewn ffordd sy'n sensitif i natur. Efallai y bydd rhai am ymuno â'r Grŵp Dolydd lleol, cysylltwch â'r tîm i gael gwybod mwy.
- Anogwch ysgolion i ddathlu'r natur anhygoel yn y ward. Gallai iâr fach yr haf brith y gors fod yn ffocws da ar gyfer gwersi.