Aberdulais
Mae'r ward yn cynnwys 3 SBCN. Mae Ffynnon Dawel yn y de wedi'i dynodi ar gyfer ei chymunedau prysgwydd a’i glaswelltir niwtral. Mae Dôl Cilfrew yn llawn rhywogaethau fel glaswellt y gweunydd a glaswelltir corsiog. I'r gogledd-ddwyrain mae Sarn Helen, clwstwr o 6 ardal wahanol ar ddwy ochr yr Heol Rufeinig. Maent yn cynnwys 10 cynefin nodedig gan gynnwys glaswelltiroedd asid ucheldirol, rhostir ucheldirol, gorgors a ffridd. Mae rhan o Barc Gwledig Graig Gwladus o fewn y ward. Mae’n safle coetirol pwysig. Mae ardaloedd o goetir hynafol lled-naturiol ledled y ward ac mae llawer o isafonydd i afonydd Dulais a Nedd. Mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn prydlesu ac yn rheoli Coed Gawdir – pwll asidig o fewn safle coetir hynafol. Mae'r rhan fwyaf o'r ward o fewn B-Line. Mae Parc Gwledig Craig Gwladus yn cael ei reoli ar gyfer bioamrywiaeth.
Mae afon Dulais a'i hisafonydd yn bwysig i ddyfrgwn, trochwyr, gleision y dorlan ac ystlumod sy'n chwilota. Mae gan laswelltiroedd y cymoedd amrywiaeth o blanhigion blodeuol gan gynnwys y bengaled, ytbysen y ddôl, tamaid y cythraul a'r llysyrlys. Mae corsydd a rhostiroedd ar dir uwch yn cynnwys grug a llusi duon bach ac maent yn darparu cynefin ar gyfer ymlusgiaid ac ysgyfarnogod brown.
Camau Gweithredu
- Mae Cyfeillion Craig Gwladus yn grŵp gwirfoddol gweithgar sy'n gofalu am Barc Gwledig Craig Gwladus. Gallwch gyfeirio pobl yn y ward sydd â diddordeb mewn natur at wirfoddoli gyda'r grŵp hwn.
- Cynnal cyflwr da rhostir a gweundir yr ucheldir yn Sarn Helen e.e. trwy gael gwared ar goed ifanc sbriws Sitca wrth iddynt adfywio
- Cynyddu ymwybyddiaeth o fywyd gwyllt yn y ward e.e. trwy gynnal troeon bywyd gwyllt ar hyd afon Dulais