Bioamrywiaeth mewn ysgolion
Mae’r amgylchedd naturiol yn rhoi cyfle dysgu blaengar a chreadigol i’n cenhedlaeth iau. Mae bioamrywiaeth yn rhan annatod o’n bywydau a bydd cydnabod ei gwerth yn gynnar yn rhoi ein cenhedlaeth iau mewn sefyllfa i barhau â’r egwyddorion hyn i’w bywydau fel oedolion.
Mae’r pecyn hwn o daflenni gwaith wedi’i anelu at ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2, ond gellir ei addasu ar gyfer Cyfnod Allweddol 3. Mae bioamrywiaeth a’r amgylchedd naturiol yn elfennau allweddol o fframwaith Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF) a dylid ei gynnwys ym mhob maes y Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae’r pecynnau hefyd yn cyd-fynd ag addysgu mewn meysydd eraill o’r cwricwlwm megis Saesneg, Mathemateg a TGCh.
Mae’r taflenni gwaith hyn wedi’u llunio i’w defnyddio i gyd-fynd ag ymweliadau maes yn yr ysgol ac ag ardaloedd lleol. Mae pob pwnc yn canolbwyntio ar fath gwahanol o gynefin/ecosystem ac yn cynnwys cyfres o gynlluniau gwersi y gellir eu defnyddio ar eu pennau eu hunain neu mewn cyfres. Ar ddechrau pob taflen waith, fe welwch adran yn amlygu holl feysydd y cwricwlwm mae’n eu cwmpasu. Cofiwch wirio ffeiliau ffeithiau’r athro – bydd y rhain yn rhoi gwybod i chi am y rhywogaethau gwahanol y byddwch yn dod ar eu traws yn y taflenni gwaith.