Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cerdded

Gellir mwynhau teithiau Cerdded y Rhaeadr, Parciau GwledigLlwybr Arfordir Cymru, promenadau glan y môr a chefn gwlad odidog i gyd wrth gerdded yng Nghastell-nedd Port Talbot a'r cyffiniau.

Er mwyn ei gwneud hi'n haws dod o hyd i'r llwybr gorau ar gyfer anghenion pob unigolyn, mae map rhyngweithiol wedi'i ddatblygu i ddod â llwybrau Castell-nedd Port Talbot i mewn i un lleoliad hawdd ei chwilio. Cliciwch ar y map isod i archwilio'r teithiau cerdded.

Click the image of the map to explore walks in Neath Port Talbot

Mae gennym hefyd fap beicio rhyngweithiol sy'n dangos ein Llwybrau Beicio yn fwy manwl. Mae'r map hefyd yn cynnwys fideos byr o rhannau o'r llwybrau i rhoi syniad i chi o sul olwg sydd arnyn nhw.

Ein tri prif barc i gerdded yw 

Mae hefyd gennym 2 llwybrau cerdded pellter hir sy'n pasio drwy CNPT

  1. Taith Gerdded St. Illtyd
  2. Taith Gerdded Cefnffordd Ogwr

Teithiau Cerdded Arfordirol

Llwybr Arfordir Cymru

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhan bwysig iawn o dreftadaeth Cymru. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, rydym yn ffodus bod yv Llwybr Arfordir Cymru yn mynd trwy amrywiaeth gyfoethog o dirweddau, yn llawn o nodweddion diddorol.

Oherwydd daearyddiaeth ein Bwrdeistref Sirol, a natur drefol ein llain arfordirol, mae dwy rhan o Lwybr o Arfordir wedi'u creu drwy Gastell-nedd Port Talbot. Er ei fod yn rhan eithaf byr o Lwybr Arfordir Cymru Gyfan, mae llawer o diddordeb ac amrywiaeth ar hyd y ddau lwybr, sy'n cynnig bywyd gwyllt, caffis glan môr, hanes a golygfeydd trawiadol. Mae'r ddwy adran, er yn ddaearyddol agos iawn, yn wahanol iawn o ran cymeriad, anhawster ac yn eu nodweddion o ddiddordeb. Gallwch lawrlwytho copi o'r llwybrau Llwybr Arfordir Cymru

Am rhagor o wybodaeth, ewch i'r wefan swyddogol Llwybr Arfordir Cymru.

Abaty Margam i Faglan

Mae mynyddoedd uchel Feysydd Glo De Cymru yn tarfu'n sydyn ar y llain arfordirol sy'n cynnwys aneddiadau Margam, Port Talbot, Aberafan a Sandfields. Mae'r rhain yn dyrannu'n ddwfn gan afonydd Afan a Castell-nedd. Mae llwybr ucheldirol llwybr yr arfordir yn croesi'r ardal hon.

Ar hyd y llwybr 7 milltir hwn, mae llawer o olygfeydd gwych ar draws Môr Hafren, a llawer o greiriau diddorol ar hyd y ffordd. Yn enwedig adfeilion Capel y Santes Fair, a adnabyddir yn lleol fel Capel Mair, ar y bryn uwchben Abaty Sistersaidd Margam. Ar y cyfan, po agosaf y byddwch yn edrych ar y daith gerdded hon y mwyaf o berlau sy'n cael eu datgelu.

Llawrlwythiadau

  • Margam Abbey to Baglan walking route (PDF 1.13 MB)

Grwpiau cerdded

Mae nifer o grwpiau cerdded yn yr ardal, ac mae manylion am y rhain i'w gweld ar wefan Gwasanaeth Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon CNPT Mae'r teithiau cerdded eu hunain yn amrywio o ran dwyster, o lwybrau cymdeithasol ar lefel is, i lwybrau mynydd mwy heriol. Mae gan y grwpiau i gyd gyda arweinwyr cerdded cymwys sy'n darparu elfen ddiogelwch i bob grŵp. Mae'r grwpiau'n gefnogol iawn, yn cynnig digon o anogaeth ac maen nhw bob amser yn chwilio am aelodau newydd.

Dogfennau cerdded

Mae nifer o ddogfennau sydd ar gael sy'n ymwneud â Gerdded a'r amgylchedd o'ch cwmpas.

Cynllyn Gwella Hawliau Tramwy