CAG Taibach
Lleolir Canolfan Addysg Gymunedol Taibach rhwng pentrefi Taibach a Margam. Gynt yn Ysgol Sirol Eastern, rydym ar brif ffordd Margam. Caiff y ganolfan ei defnyddio'n helaeth gan y gymuned leol a hefyd gan grwpiau gwirfoddol, sy'n llogi ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd, sesiynau hyfforddiant etc. Mae datblygu dosbarthiadau Addysg i Oedolion yn y ganolfan wedi bod yn boblogaidd iawn.
Mae gan Ganolfan Addysg Gymunedol Taibach awyrgylch cyfeillgar ac amrywiaeth eang o gyfleusterau i bob grŵp oedran sy'n ceisio darparu dysgu addysgol o'r radd flaenaf, annog gweithgareddau hamdden a rhyngweithio cymdeithasol er mwyn gwella ansawdd bywydau pobl yn y gymuned leol.
I gael gwybodaeth am gyrsiau ac argaeledd ystafell.
Tiddlywinks Creche
Ar agor 9.00-15.00 Dydd Llun i Dydd Gwener
Clwb Ieuenctid
Ar agor 19.00 - 21.00 Dydd Llun i Dydd Iau
Cyfleusterau sydd ar gael i'w llogi
Prif neuadd fawr gyda llwyfan
Yn addas ar gyfer: achlysuron, cyfarfodydd, cynadleddau, partïon pen-blwydd a sefydliadau masnachol
Ystafell fawr
Yn addas ar gyfer cyfarfodydd dros 10 o bobl
Lleodd i: 20 ar y mwyaf
Ystafell fechan
Yn addas ar gyfer cyfarfodydd o hyd at 10 o bobl
Lleodd i: 10 ar y mwyaf
Ystafell TG
Cyrsiau hyfforddi hyd at 12 o bobl
Ystafell coginio
Cyrsiau hyfforddi hyd at 12 o bobl
Llety
- Un brif neuadd â llwyfan
- Dwy ystafell ochr fechan
- Un ystafell ochr fawr
- Campfa
- Ystafelloedd newid
- Ystafell goginio
- Ystafell grochenwaith/gelf
- Ystafell gyfrifiaduron
- Ystafell glwb i bensiynwyr
- Ystafell Gyfweld
- Creche preifat
- Ardal goffi
- Ysgubor fawr ar gyfer campau etc.
Cyfleusterau ychwanegol
- Derbynfa
- Cyfleusterau Cegin gyda Boeler Hydro
- Lluniaeth (ar gael ar gais)
- System PA (ar gael i’w logi ar gais)
- Gliniadur (ar gael ar gais)
- Taflunydd a sgrîn (ar gael ar gais)
Mynediad
- Mae'r ganolfan yn cydymffurfio â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.