Un o brif fanteision gweithredu neu gychwyn busnes o fewn un o ganol ein trefi yw cymeriad ac apêl unigryw'r ardal. Gyda chymysgedd o:
- adeiladau hanesyddol
- cyfleusterau modern
- diwylliant
- awyrgylch bywiog
Mae canol y dref yn gyrchfan ynddo'i hun.
Rhwydwaith cymorth
Mae canol trefi Castell-nedd Port Talbot yn cynnig ymdeimlad cryf o gymuned a balchder dinesig.
Mae pobl yn poeni am eu busnesau lleol ac yn cefnogi manwerthwyr annibynnol ac entrepreneuriaid.
Bydd y rhwydwaith cefnogol hwn yn helpu i feithrin perthnasoedd cryf gyda:
- cwsmeriaid
- cyflenwyr
- perchnogion busnes eraill
Mae rhywbeth yn digwydd bob amser yn ein cymuned ffyniannus, ddiwylliannol. Mae ein trefi yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd, gan gynnwys:
- lleoliadau cerddoriaeth
- theatrau
- sinemâu
Adnoddau allweddol
Mae'r Tîm Rheoli Canol Tref yn helpu i hyrwyddo a gwella bywiogrwydd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol canol ein trefi.
Rydym yn helpu busnesau bach a mawr i ffynnu a llwyddo yn y lleoliad cyffrous a deinamig hwn, gan gynnig arweiniad ar:
- rheoliadau a pholisïau lleol
- strategaethau marchnata a hyrwyddo
- Dod o hyd i eiddo manwerthu
- Cysylltu â busnesau a rhanddeiliaid
Bydd y gymuned fusnes annibynnol yn elwa ar ei chyfanrwydd drwy ganiatáu i chi:
- meithrin perthnasoedd
- rhannu arferion gorau
- cydweithio ar brosiectau a mentrau
Cefnogaeth arall
Mae'r tîm hefyd yn darparu gwasanaethau cymorth ymarferol, gan gynnwys:
- helpu i sefydlu a chynnal eich busnes
- mynediad i gyfleoedd hyfforddi a datblygu
- cymorth gwybodaeth - sy'n gysylltiedig â rheoli geich arian a'ch llif arian
- gwybodaeth a chyngor cyfredol ar faterion sy'n effeithio ar eich busnes
- ymweliadau rheolaidd â'r safle i sicrhau bod canol y dref yn amgylchedd glân a diogel
- trefnu digwyddiadau a hyrwyddiadau i annog nifer yr ymwelwyr
Cysylltwch
I drafod dechrau eich busnes newydd yn un o ganol ein trefi, cysylltwch â:
Ardal Gwella Busnes (AGB)
Mae'r Ardal Gwella Busnes (AGB) yn adnodd allweddol sydd ar gael i fusnesau yng nghanol tref Port Talbot.
Mae AGB yn dod â busnesau a grwpiau cymunedol at ei gilydd i hyrwyddo canol tref bywiog a deinamig, trwy:
- marchnata a hyrwyddo
- digwyddiadau
- hyfforddiant busnes
- mentora busnes
Ardal Gwella Busnes Port Talbot yw VIVA Port Talbot.