Ydych chi am gynnal digwyddiad arbennig a fydd yn gadael argraff barhaol? Yna edrychwch dim pellach na Thîm Rheoli Canol Tref Castell-nedd Port Talbot.
Mae ein tîm yma i'ch helpu chi. Rydym yn trefnu ac yn rheoli gweithgareddau amrywiol sy’n cael eu cynnal ar draws canol ein trefi, gan gynnwys:
- gwyliau bwyd a diod
- marchnadoedd ffermwyr crefftus
- digwyddiadau arbennig
- ymholiadau ffilmio
Adnoddau
Drwy weithio gyda ni, bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau ac arbenigedd, gan gynnwys:
- canllawiau ar gael hawlenni a thrwyddedau
- hyrwyddo a chymorth marchnata
- mynediad i'n rhwydwaith o werthwyr a chyflenwyr lleol
Rydym wedi ymrwymo i'ch helpu i greu digwyddiad sydd nid yn unig yn cwrdd â'ch nodau, ond sy'n adlewyrchu cymeriad unigryw ein cymuned.
Cysylltwch
Os ydych chi'n cynllunio digwyddiad, mae ein tîm yn barod i weithio gyda chi i'w wneud yn llwyddiant.
I holi am ddefnyddio un o ganol ein trefi ar gyfer eich digwyddiad, cysylltwch â:
Cyfnodau rhybudd
Mae cyfnodau rhybudd i ganiatáu digon o amser i'r adrannau perthnasol adolygu a hyrwyddo digwyddiad diogel a llwyddiannus. Maent yn cynnwys:
- gwaith papur
- argymhellion
- ceisiadau am ragor o wybodaeth
- caniatadau perthnasol
- angen cau ffyrdd
- trwyddedau i'w cwblhau
Digwyddiad | Cyfnod rhybudd |
---|---|
Ar raddfa fawr - 500 neu fwy o bobl a risg uchel | 6 mis cyn y digwyddiad |
Ar raddfa lai - llai na 500 o bobl a risg isel | 3 mis cyn y digwyddiad |
Cais i gau ffordd (rhaid cynnwys Cynllun Rheoli Traffig) | o leiaf 8 wythnos cyn y digwyddiad |
Digwyddiadau arbennig ac awyr agored
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot Grŵp Rheoli Digwyddiadau. Maen nhw'n:
- gweithredu o dan yr Adain Iechyd a Diogelwch Corfforaethol
- goruchwylio'r gwaith o gofrestru digwyddiadau awyr agored yn y fwrdeistref
- darparu cyngor arbenigol o fewn yr Awdurdod Lleol i’w helpu i ddirprwyo ei ddyletswyddau o dan ddeddfwriaeth digwyddiadau cyhoeddus
Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch
Nod y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch yw:
- sefydlu dull cyson o gynnal digwyddiadau wedi'u trefnu o fewn yr Awdurdod Lleol
- rhoi'r cyngor a'r arweiniad sydd eu hangen ar bob digwyddiad
- sicrhau bod digwyddiadau'n cael eu cynnal gyda'r parch mwyaf i ddiogelwch
- cynhyrchu digwyddiad llwyddiannus
Oherwydd natur y cyrff sy'n rhan o'r grŵp, mae o fudd i chi arsylwi ar y cyngor rhad ac am ddim y maent yn ei ddarparu.
Cysylltwch â Digwyddiadau Arbennig
Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am drefnu digwyddiad awyr agored.
Neu cysylltwch â’r Tîm Digwyddiadau Arbennig:
Rhaid i chi gysylltu â'r tirfeddiannwr am ganiatâd i gynnal eich digwyddiad cyn cofrestru.