Ymwelwch â Chastell-nedd am gymuned gyfeillgar, hanes cyfoethog, ac awyrgylch prysur
Mae canol tref Castell-nedd yn dref farchnad hanesyddol gydag amrywiaeth o:
- manwerthwyr annibynnol
- ffasiwn ar y stryd fawr
- caffis, bwytai a thafarndai
- atyniadau diwylliannol
- cyfleusterau hamdden
- treftadaeth
Pethau i'w gweld a'u gwneud
Mae digon i'w weld a'i wneud ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr.
Siopa
Dewch o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch a mwy gydag ystod amrywiol o adwerthwyr sy'n addas ar gyfer pob chwaeth a chyllideb. Ymwelwch â’n marchnad dan do Fictoraidd, lle gallwch bori trwy amrywiaeth o stondinau sy’n gwerthu:
- cynnyrch ffres
- nwyddau wedi'u pobi
- crefftau
- anrhegion unigryw
Bwyd a diod
- caffis
- bwytai
- tafarndai
Mae popeth ar gael, o brydau Cymreig traddodiadol i fwyd rhyngwladol. P'un a ydych ar ôl byrbryd cyflym neu bryd o fwyd ymlaciol, fe welwch rywbeth at eich blas.
Neuadd Gwyn
Mwynhewch berfformiadau drwy gydol y flwyddyn yn Neuadd Gwyn, gan gynnwys:
- theatr
- sinema
- sioeau plant
- dawns
- perfformiadau cerddoriaeth gyfoes
Mae rhywbeth cyffrous bob amser yn digwydd yn y lleoliad hanesyddol hwn.
Digwyddiadau
Mae’r dref hefyd yn cynnal digwyddiadau rheolaidd drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys:
- Ffair Medi Castell Nedd
- Gŵyl Fwyd a Diod Castell-nedd
- Yr Ŵyl Cwrw a Seidr
- gwyliau cerdd
- dathliadau diwylliannol
Celfyddydau a diwylliant
Mae canol tref Castell-nedd yn ymfalchïo mewn golygfa ddiwylliannol gyfoethog. Mae wedi cynhyrchu nifer o unigolion talentog, gan gynnwys yr enwog Katherine Jenkins.
Cantores glasurol lwyddiannus fyd-eang sy’n adnabyddus am ei llais hardd a’i pherfformiadau syfrdanol.
Hamdden
Mae ein canolfan hamdden newydd yn ganolfan fywiog o weithgarwch. Yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleusterau sy'n addas i bob oedran a diddordeb. Mae ein canolfan hamdden yn cynnwys:
- offer ffitrwydd blaengar
- pwll nofio ac ystafell iechyd
- dosbarthiadau ffitrwydd deniadol
Llyfrgell
Mae ein llyfrgell yn cynnig hafan o wybodaeth a lle croesawgar i ddarllen a dysgu gyda:
- llyfrau
- adnoddau digidol
- digwyddiadau
Gerddi Victoria
Yn nythu yng nghanol Castell-nedd, mae Gerddi Victoria. Mae'n lle perffaith ar gyfer ymlacio a mynd am dro. Mae'r noddfa dawel hon yn cynnal:
- gwelyau blodau lliwgar
- cerfluniau hanesyddol
- bandstand swynol
Parc Gwledig Ystâd y Gnoll
Mae taith i Barc Gwledig Ystâd y Gnoll yn rhoi cyfle i ailgysylltu â byd natur. Nodweddion yr ystad golygfaol:
- llynnoedd tawel
- llwybrau coetir troellog
- gerddi wedi'u tirlunio'n hyfryd
- bywyd gwyllt
Etifeddiaeth
Mae gan Ganol Tref Castell-nedd dreftadaeth gyfoethog o'r oesoedd canol i'r chwyldro diwydiannol. Gall ymwelwyr ddarganfod:
- Castell Castell-nedd
- Mynachlog a Gwaith Haearn Mynachlog Nedd
Trafnidiaeth
Mae cyrraedd canol tref Castell-nedd yn hawdd:
- cysylltiadau trafnidiaeth ar drên a bws
- meysydd parcio fforddiadwy a chyfleus
- raciau beic ar gael ar gyfer parcio beiciau diogel yng nghanol y dref