Pethau i'w gweld
Abaty Castell-nedd, ynghyd â Phriordy Llanddewi ac Abaty Tyndyrn, yw un o adfeilion mynachaidd pwysicaf De Cymru.
Dewch ar daith syfrdanol drwy hanes y mynachod Sistersaidd. Fe welwch:
- gweddillion mynachaidd
- pwyntiau gwybodaeth ysgrifenedig a sain
- tŷ'r Tuduriaid
Oriau agor
(1af Ebrill - 31ain Mawrth)
Mae mynediad i Abaty Nedd yn rhad ac am ddim.
Lleoliad | Amser | Dydd |
---|---|---|
Mynachlog Nedd | 10yb - 4yp | Dyddiol |
Parcio
Mae maes parcio 30m o fynedfa'r heneb (tua 4 car).
Nid oes unrhyw fannau penodol ar gyfer yr anabl.
Toiledau
Nid oes cyfleusterau toiled ar y safle. Mae yna archfarchnad Tesco gerllaw gyda:
- cyfleusterau newid babanod
- toiled hygyrch
- toiledau safonol
Cyfleusterau
- croeso i gŵn
- dim ysmygu
- maes parcio
- meinciau picnic
- polisi drôn
- ymweliadau ag ysgolion