Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Sgwd Gwladys

Dewch i ymweld â Sgwd Gwladys ym Mhontneddfechan.

Pethau i wneud

Yng nghanol Gwlad y Sgydau, fe welwch raeadr godidog Sgwd Gwladys. Mae fforwyr yn gallu mwynhau:

  • golygfeydd godidog
  • bwyd a llety gwych
  • llwybrau cerdded godidog
  • lleoedd nofio gwyllt

Parcio

Maes parcio Cost Oriau agor
Man cychwyn - pentref Pontneddfechan Rhad ac am ddim Ar agor 24 awr
Maes parcio Pont Melin-Fach Rhad ac am ddim Ar gau tan 30 Medi  2024

Llwybr cerdded Elidir

Mae rhaeadr Sgwd Gwladys yn 1.3 milltir o fan cychwyn y llwybr. Mae’r llwybr yn cychwyn y tu ôl i Dafarn yr Angel, Pontneddfechan.

Pellter llwybr Elidir: 2.5 milltir (un ffordd), tua 2.5 awr, lefel: cymedrol.

Edrychwch ar y rhaeadrau ysblennydd a welwch ar eich ffordd o amgylch y llwybr:

  • Sgwd Gwladys 
  • Sgwd Ddwli Isaf
  • Sgwd Ddwli Uchaf
  • Sgwd-y-Bedol
  • Sgwd Einion Gam – dim llwybr swyddogol

Bwyd a diod

Dim ond 2 funud o'n rhaeadr enwog. Ewch i dŷ coffi Sgwd Gwladys, bar, bwyd a llety.

Cyfleusterau

Nid oes unrhyw gyfleusterau ar hyd y llwybr cerdded. Gallwch ddod o hyd i’r cyfleusterau canlynol ym mhentref Pontneddfechan:

  • parcio
  • toiledau
  • bwyd a diod
  • llety

Hygyrchedd

Mae'r llwybr yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn cyn belled â'r man picnic cyntaf. Yna daw'r llwybr yn fwy garw gyda:

  • llwybrau cul serth
  • grisiau pren serth
  • creigiau llithrig o dan y rhaeadr