Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwarchodfa Natur Rhaeadrau Melin-cwrt

Ymwelwch â choetir derw, nant a rhaeadrau hynafol ucheldir Melin-cwrt.

Pethau i'w gweld

Yn aml yn cael ei gysgodi gan raeadrau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae gwarchodfa natur Melin-cwrt yn ymfalchïo yn y canlynol:

  • gwarchodfa natur 12 erw
  • rhaeadr ysblennydd 80 troedfedd o uchder
  • ffwrnais chwyth ac adfeilion gwaith haearn
  • amrywiaeth eang o goed, planhigion a bywyd gwyllt
  • llwybr cerdded Turner

Parcio

Mae'r rhaeadr tua 10-15 munud ar droed o'r maes parcio.

Maes parcio Cost Oriau agor
Maes parcio rhaeadr Melin-cwrt Rhad ac am ddim Ar agor 24 awr

Llwybr Turner

Pellter llwybr Turner: 5 milltir, amser tua: 2 - 3 awr, lefel: cymedrol.

Am daith gerdded fwy heriol, ewch ar hyd Llwybr TurnerDewch i weld y dirwedd syfrdanol a dynnodd yr arlunydd J. M. W. Turner yn ei frasluniau niferus o'r ardal.

Mae'r llwybr yn cychwyn yng Ngwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae'n dilyn Afon Dulais ac Afon Nedd cyn cyrraedd Rhaeadr Melin-cwrt.

Sgwd Gwladys

Ymwelwch â Rhaeadr Sgwd Gwladys ym Mhontneddfechan. Dim ond 12 munud i ffwrdd fe welwch bedwar rhaeadr drawiadol ar lwybr Elidir.

Cyfleusterau

Nid oes unrhyw gyfleusterau ar hyd y llwybr. Gallwch ddod o hyd i’r cyfleusterau canlynol yn Resolfen:

Hygyrchedd

Mae'r llwybr yn hygyrch gyda llwybr wedi'i gynnal a'i gadw'n dda yn arwain at y rhaeadr.

Cyfarwyddiadau i SA11 4ED
Gwarchodfa Natur Rhaeadrau Melin-cwrt
Resolfen Castell-nedd Port Talbot SA11 4ED pref