Dyddiadau
Ffair hwyl
Dydd Mawrth 10fed i ddydd Sadwrn 14eg Medi 2024.
Ffair stryd
Dydd Mercher 11eg i ddydd Sadwrn 14eg Medi 2024.
Digwyddiadau
Mae'r ffair yn cynnwys:
- Fair Hwyl - sydd wedi cael ei lleoli ym maes parcio Heol Milland. Mae'r Ffair Hwyl yn cael ei redeg gan 'Showman's Guild of Great Britain'
- Ffair Stryd - sydd wedi cael ei lleoli yn y prif strydoedd canol tref Castell-nedd.
Cau ffyrdd
O ddydd Llun 9 Medi i Sadwrn 14 Medi 2024, bydd y ffyrdd canlynol ar gau:
- Stryd Werdd
- Heol y Frenhines
- Stryd Newydd
- Stryd y Gwynt
- Plas yr Eglwys
- Stryd y Berllan
- Stryd yr Angel
- Heol y Gwartheg
- Y Parêd (o'r gyffordd â'r Crofft i'r gyffordd â Heol y Gwartheg)
Nodwch y bydd safle'r tacsi yn aros yn Stryd y Gwynt.
Cau ffyrdd dros dro
Rhwng 6.00pm a 12.00 canol nos ar nos Wener 13 Medi a 1.00pm a 12.00 canol nos Sadwrn 14 Medi 2024 bydd y ffyrdd canlynol ar gau:
- Y Parêd - Wedi cau mewn dau leoliad. Bydd y ddwy ffordd ar gau i'w chyffordd a’r Stryd Fasnachol.
- Yn Heol Maes yr Haf
- Y Parêd ger Gwesty'r Bluebell
- Stryd Fasnachol - O'i chyffordd gyda’r Parêd i'w chyffordd gyda The Green
- The Green - O'i chyffordd a'r Stryd Fasnachol i'w Cattle Market on The Green.
Bydd y Farchnad Wartheg yn cael ei defnyddio ar gyfer troi a man gollwng.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â chau'r ffyrdd, cysylltwch â Martin Brumby, Rheolwr Prosiect - Priffyrdd 01639 686013.
Parcio ceir
Mae amseroedd agor maes parcio Aml-lawr Castell-nedd wedi'i ymestyn i 11:00pm.
- Maes Parcio Heol Milland- Ar gau i'r cyhoedd o ddydd Sul 8 Medi ac ail-agor ddydd Llun 16 Medi 2024.
- Maes Parcio Stryd Fawr- Ar gau (i alluogi parcio i fasnachwyr stondinau)
- Maes Parcio Stryd Rosser - Ar agor
- Maes Parcio Aml Lawr Castell-nedd- Ar agor