Dyddiadau
Ffair hwyl
Dydd Mawrth 10fed i ddydd Sadwrn 14eg Medi 2024.
Ffair stryd
Dydd Mercher 11eg i ddydd Sadwrn 14eg Medi 2024.
Taliadau
Rhennir Canol y Dref yn naw parth. Codir tâl am lain masnachu ar sail troed llinol (metr llinol) ac yn ychwanegol at y tâl stondin, codir tâl gwasanaeth, mae'r phrisiau i'w cadarnhau.
Gwneud cais neu talu am lain masnachu
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael llain, llenwch y ffurflen gais ar-lein. Sylwch nad yw hyn yn gwarantu y bydd llain yn cael ei gynnig i chi.
Ni fydd disgrifiadau cyffredinol fel 'Swag', 'Demonstrator' neu ddiffiniadau cyffredinol eraill o'r fath yn cael eu derbyn.
Yn ogystal, mae'r cyngor yn gofyn am gopïau o dystysgrifau yswiriant atebolrwydd cyhoeddus dilys. Bydd methu â darparu copi dilys i’r Cyngor gyda’r cais yn rhagfarnu’r cais am lain masnachu.