Dymchweliadau
Mae Adrannau 80, 81 a 82 Deddf Adeiladu 1984 yn ymdrin â dymchweliadau. Maent yn nodi gweithdrefnau mae'n rhaid i chi eu mabwysiadu os ydych yn bwriadu dymchwel adeilad sy'n gysylltiedig ag adeiladau eraill.
Mae'n rhaid i chi ein hysbysu ni am eich bwriad i ddymchwel a rhoi cynllun bloc/lleoliad o'r adeilad a strydoedd cyfagos (Defnyddiwch y ffurflen isod os gwellwch un dda.)
Bydd angen datganiad dull ar gyfer adeilad mawr neu adeiladau ar safleoedd cyfyngedig. Dylech hefyd hysbysu'r holl gyfleustodau statudol am eich bwriad fel y gallant drefnu i wasanaethau gael eu datgysylltu'n briodol.
Dylid hefyd ymgynghori â'r Gwasanaeth Tân os bydd deunyddiau'n cael eu llosgi ar y safle. Mae'n bosib y bydd angen cyfranogiad y Gweithgor Iechyd a Diogelwch mewn rhai amgylchiadau hefyd. Dylid hysbysu perchnogion a deiliaid eiddo cyfagos hefyd.
Ar ôl yr hysbysiad cychwynnol hwn, byddwn yn archwilio'r safle ac yn ymateb, gan restru amodau sy'n gysylltiedig â chynnal adeiladau cyfagos a'u diogelu rhag y tywydd, braenaru sylfeini, draeniau etc. Gosodir amodau i sicrhau iechyd a diogelwch y cyhoedd ac amddiffyn yr amgylchedd.
Dylid cofio hefyd y gofyniad i wneud cais am Ganiatâd Cynllunio a/neu Adeilad Rhestredig perthnasol.
Ceir dirwyon llym os na ddilynir y gweithdrefnau hyn..