Diogelwch mewn meysydd chwarae
Mae gan y gwasanaeth Rheoli Adeiladau rôl sylfaenol o ran meysydd chwaraeon yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Mae rheolau arbennig yn berthnasol ar gyfer trwyddedu meysydd chwaraeon ac arenâu cyhoeddus. Mae'n amlwg bod y rhain yn angenrheidiol lle bo adeiladau ac adeileddau'n dal torfeydd. Mae gan dorfeydd eu nodweddion ymddygiadol eu hunain ac ystyrir y rhain wrth i'r lleoliadau gael eu dylunio a'u hadeiladu'n ffisegol.
Fodd bynnag, mae lleoliadau a mannau cyhoeddus yn aml yn cynnal digwyddiadau nad oedd y dylunwyr gwreiddiol erioed wedi'u hystyried.
Mae llawer o ddigwyddiadau'n gofyn am adeileddau dros dro ar gyfer eisteddleoedd, llwyfannau, rhwystrau i dorfeydd a chanolfannau cyfryngau. O rasys marathon i wyliau cerddoriaeth, mae gwasanaeth rheoli adeiladau'r awdurdod lleol yn helpu trefnwyr, contractwyr ac asiantaethau gorfodi eraill i weithio gyda'i gilydd.
Rheoli Adeiladau yw'r partner arweiniol yn Nhîm Diogelwch Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer meysydd chwaraeon; ar y cyd â'r Heddlu, yr Awdurdod Tân a'r Gwasanaeth Ambiwlans, mae'r Tîm Diogelwch yn ymdrin â thystysgrifau diogelwch cyffredinol ac arbennig o ran y tri stadiwm chwaraeon dynodedig yn y sir, y mae gan bob un ohonynt Dystysgrif Diogelwch Gyffredinol a adolygir yn flynyddol.
- Y Gnoll, cartref Clwb Rygbi Castell-nedd
- Maes Athletau Talbot, cartref Clwb Rygbi Aberafan
- Victoria Road, cartref Clwb Pêl-droed Port Talbot
Mae hon yn broses barhaus gan y gall meysydd chwaraeon, fel pob adeilad arall, gael eu newid a'u hestyn. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod meysydd chwaraeon bellach yn cynnig cyfleusterau hefyd ar gyfer lletygarwch a chynadleddau, a defnyddir y cae chwarae ar gyfer digwyddiadau heblaw am rai chwaraeon. Gellir canfod arweiniad ar ddiogelwch cefnogwyr mewn meysydd chwaraeon ym mhedwerydd rhifyn 'Guide to Safety at Sports Grounds', a gyhoeddwyd gan y Llyfrfa.
Mae'r Is-adran Rheoli Adeiladau'n ymdrin â thystysgrifau diogelwch cyffredinol ac arbennig o ran y tri stadiwm chwaraeon dynodedig yn y sir, gan roi cyngor ar ddiogelwch tân a materion adeileddol. Ni ellir rhoi'r drwydded tan y bodlonir yr awdurdod lleol fod y maes chwaraeon perthnasol yn ddiogel i'w ddefnyddio.
Mae Deddf Diogelwch Meysydd Chwaraeon 1975 a Deddf Diogelwch rhag Tân a Diogelwch Mannau Chwaraeon 1987 yn gofyn i feysydd chwaraeon penodol gyflwyno cais i'r awdurdod lleol am 'dystysgrif diogelwch'. Yn gyffredinol, mae hyn ar gyfer meysydd chwaraeon a all ddal mwy na 10,000 o gefnogwyr (stadiwm dynodedig), neu eisteddleoedd mewn meysydd chwaraeon sy'n darparu cyfleusterau dan do ar gyfer mwy na 500 o gefnogwyr (eisteddle rheoleiddiedig).
Mae'r dystysgrif yn manylu ar delerau a chyfundrefnau diogelwch, sy'n diogelu gwylwyr sy'n mynd i gemau rhag peryglon a all fod yn rhai go iawn pan fo torfeydd mawr yn ymgasglu.
Dylid anfon ymholiadau ynghylch a oes angen i faes chwaraeon gael tystysgrif diogelwch i'r cyfeiriad canlynol:
Rheoli Adeiladau
Y Ceiau, Ffordd Brunel
Parc Ynni Baglan
Llansawel
Castell-nedd SA11 2GG
Ffôn: (01639) 686820
Ffordd Brunel Parc Ynni Baglan Llansawel Castell-nedd SA11 2GG pref
Cyflwyno cais am y dystysgrif diogelwch
Ar ôl i faes chwaraeon gael ei ddynodi, mae'n drosedd o dan adran 12, Deddf 1975 i dderbyn gwylwyr tan i gais gael ei gyflwyno i'r awdurdod lleol am dystysgrif diogelwch.
Mae angen y drwydded hon ar feysydd chwaraeon a all ddal mwy na 10,000 o wylwyr, neu eisteddleoedd mewn meysydd chwaraeon sy'n darparu cyfleusterau dan do ar gyfer mwy na 500 o wylwyr.
Nodir amodau'r drwydded yn glir yn ysgrifenedig pan gaiff ei chyflwyno.
Rhaid i "berson cymwys" gyflwyno'r cais yn ysgrifenedig ar y ffurflen ddynodedig i'r cyfeiriad canlynol:
Brunel Way Baglan Energy Park Briton Ferry Neath SA11 2GG pref
Y gost i gyflwyno cais am dystysgrif diogelwch yw £388.
Bydd hyn yn amrywio o stadiwm i stadiwm, ond yn gyffredinol dylid darparu'r canlynol.
- Cynllun y stadiwm
- Adeiledd
- Lleoedd
- System rheoli diogelwch
- Tystysgrifau prawf perthnasol
- Unrhyw wybodaeth ychwanegol a ystyrir yn angenrheidiol er mwyn penderfynu ar y cais.
Yn gyffredinol, cynhelir archwiliadau'n flynyddol, ond nid oes dim byd i atal yr awdurdod lleol rhag archwilio'r maes chwaraeon yn amlach.
Nid oes cyfyngiad ar faint o amser gall yr awdurdod ei gymryd i brosesu'r cais.
Dylid cyflwyno apeliadau drwy'r Llys Ynadon; rhaid eu cyflwyno o fewn 28 niwrnod os ydynt yn gysylltiedig â thystysgrif diogelwch gyffredinol, ac o fewn saith niwrnod os ydynt yn gysylltiedig â thystysgrif diogelwch arbennig. Dylid cyflwyno apêl yn erbyn hysbysiad gwahardd o fewn 21 diwrnod i dderbyn yr hysbysiad.
Nid oes dyddiad dod i ben ar dystysgrifau cyffredinol, ond nid yw hyn yn berthnasol i dystysgrifau arbennig.
Dylid rhoi gwybod i'r awdurdod yn ysgrifenedig am unrhyw newidiadau cyn iddynt ddigwydd.
Nid oes cofrestr fel y cyfryw ond mae'r dystysgrif diogelwch yn ddogfen gyhoeddus, y dylai unrhyw berson sy'n gyfrifol am gyflwyno cais amdani neu sy'n debygol o gael ei heffeithio ganddi gael mynediad iddi.