Adeileddau peryglus
Os ydych chi'n poeni am ddiogelwch unrhyw adeilad neu strwythur, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni - gall atal anaf difrifol neu farwolaeth.
Rheoli Adeiladu (Yn ystod Oriau Swyddfa) 01639 686820
Allan o Oriau'r Swyddfa 0800 214245 neu 01639 686009
Mae Adrannau 77 a 78 Deddf Adeiladu 1984 yn galluogi'r Cyngor i ddelio ag adeiladau sy'n achosi perygl i'r cyhoedd.
- Mae Adran 77 yn ymdrin ag adeileddau a allai fod yn beryglus ac fel arfer dim ond llythyr at y perchennog sy'n angenrheidiol i ddileu'r perygl.
- Mae Adran 78 yn ymdrin â sefyllfaoedd lle mae angen gweithredu ar unwaith, fel gwaith ar adeiladau sydd wedi cael eu difrodi gan gerbydau, tân neu wyntoedd cryf. Mewn amgylchiadau o'r fath, gwneir pob ymdrech i gysylltu â'r perchennog ond yn eithaf aml mae angen cyflawni gwaith brys ar unwaith ac adennill y costau wedyn.
Mae gan ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot lawer o adeiladau rhestredig gwych ac eraill o ddiddordeb mawr. Yn eithaf aml mae adeiladau o'r math hwn yn mynd yn beryglus. Felly, rydym yn cadw mewn cysylltiad agos â'r Is-adran Gynllunio mewn amgylchiadau o'r fath.
Os oes gennych bryderon ynghylch diogelwch unrhyw adeilad neu adeiledd, gallwch gysylltu â ni'n syth – gallai atal anaf difrifol neu farwolaeth.