Sylfaen dystiolaeth
Mae deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i Gynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) gael eu hategu gan swm sylweddol o dystiolaeth a gasglwyd, er mwyn sicrhau bod y cynllun yn ‘gadarn’. Wrth baratoi'r CDLl, bydd y Cyngor yn casglu rhywfaint o wybodaeth o ffynonellau presennol, a bydd naill ai'n cynnal, neu'n comisiynu swm sylweddol o ymchwil ac astudiaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio i nodi'r materion a'r heriau allweddol sy'n wynebu Castell-nedd Port Talbot, a bydd yn sail i ddatblygu polisi.
Ymgynghoriad anffurfiol ar y Materion Allweddol, y Weledigaeth, yr Amcanion a'r Opsiynau Twf a Gofodol
Fel rhan o'r sylfaen o dystiolaeth ar gyfer y CDLlA, fe fuom ni'n cynnal ymgynghoriad anffurfiol ar ein Materion Allweddol, ein Gweledigaeth, ein Hamcanion, a'r Opsiynau Twf a Gofodol sydd ar gael i ni o 14 Mai 2024 tan 5 Mehefin 2024.
Bydd y sylwadau a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad anffurfiol hwn yn helpu i lywio'r Strategaeth a Ffafrir ar gyfer y CDLlA.
Y cam nesaf: Ymgynghori ar y Strategaeth a Ffafrir
Mae tîm y CDLl wrthi ar hyn o bryd yn gweithio ar dystiolaeth gefndir er mwyn cynhyrchu'r Strategaeth a Ffafrir. Y Strategaeth a Ffafrir yw'r cyfnod ymgynghori ffurfiol cyntaf wrth baratoi'r CDLlA. Rhagwelir y bydd yr ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffafrir yn cael ei gynnal ddiwedd 2024.
Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr 2022
Yn unol â Rhan 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, mae'n rhaid i'r Cyngor gynnal Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr (ALlST) newydd i asesu anghenion llety'r Gymuned Sipsiwn a Theithwyr bob 5 mlynedd. Bydd ALlST 2022 yn nodi'r angen am ddarpariaeth safle ychwanegol yng Nghastell-nedd Port Talbot ar gyfer safle preswyl parhaol a/neu safle tramwy yn y tymor byr a hyd at 2036. Mae gan y Cyngor gyfrifoldebau a dyletswyddau cyfreithiol i ddarparu llety addas ar gyfer teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr.
Yn dilyn cymeradwyaeth y Gweinidog ar 8 Mawrth 2024, cyhoeddwyd ALlST 2022 yn ffurfiol ar 6ed Mehefin 2024
Mae'r Astudiaeth 2022 hon yn disodli'r astudiaeth flaenorol a gynhaliwyd yn 2016.
ALlST 2022 ar gael i’w lawrlwytho yma ar dudalen we Tai a Digartrefedd.
Adroddiad ar Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol
Cyhoeddi Adroddiad yr Adolygiad
Mabwysiadwyd y Cynllun Datblygu Lleol presennol yn Ionawr 2016. Yn unol â’r canllawiau, gan fod 4 blynedd ers mabwysiadu’r Cynllun mae’n ofynnol yn awr i’r Cyngor gychwyn ar adolygiad o’r Cynllun.
Dechreuodd adolygiad llawn o CDLl presennol Castell-nedd Port Talbot (2011-2026) ym mis Ionawr 2020 pan gyhoeddwyd yr Adroddiad Adolygu Drafft, a roddodd drosolwg o'r materion allweddol i'w hystyried wrth ystyried y CDLl presennol. Ymlaen a nodi meysydd lle gallai fod angen newidiadau.Fodd bynnag, nid yw'n manylu ar newidiadau y dylid eu gwneud i'r cynllun, gan y bydd manylion a maint y newidiadau yn cael eu nodi trwy baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLl).
Roedd yr Adroddiad Adolygu Drafft yn destun cyfnod ymgynghori cyhoeddus o 6 wythnos rhwng 3 Chwefror a 16 Mawrth 2020. Cyflwynwyd yr ymatebion i'r sylwadau a dderbyniwyd i'w hystyried mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn ar 2 Gorffennaf 2020; gydag aelodau'n cymeradwyo'r Adroddiad Adolygu terfynol (Gorffennaf 2020) i'w gyhoeddi.
Mae'r Adroddiad Adolygu (Gorffennaf 2020) ar gael i'w weld neu ei lawrlwytho isod:
Am fwy o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar baratoi’r CDLl, gallwch gysylltu â’r Tîm CDLl yn uniongyrchol naill ai drwy ffonio: [01639] 686821 neu e-bost: ldp@npt.gov.uk