Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cwestiynau Cyffredin am Safleoedd Ymgeisiol

Beth yw’r Cynllun Datblygu Lleol Amnewid (CDLlA)?

Mae’n statudol ofynnol bod y Cyngor yn cynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ar gyfer y Fwrdeistref Sirol. Mae CDLl presennol y Cyngor yn cyflwyno graddfa a lleoliad datblygu yn y fwrdeistref sirol yn ystod y cyfnod o  2011-2026.

Bydd CDLlA y Cyngor yn cymryd lle’r CDLl presennol. Bydd y CDLlA yn helpu i ffurfio CNPT yn ystod y 15 mlynedd nesaf (2023-2038), gan sicrhau bod y datblygu cywir yn digwydd yn y lle cywir ar yr adeg gywir, fel bod budd i gymunedau a’r economi, a chan nodi pa ardaloedd mae angen eu diogelu.

Pam mae’r Cyngor wedi ailgychwyn y broses o baratoi’r CDLlA?

Fel cam cyntaf yn y gwaith o baratoi’r CDLlA, mae’n ofynnol bod y Cyngor yn paratoi Cytundeb Cyflawni (CC) sy’n nodi’r amserlen, Cynllun Cynnwys y Gymuned (CIS) a’r gweithdrefnau ar gyfer cyflwyno’r cynllun. Ar ôl iddo gael ei gytuno’n ffurfiol, mae’r CC yn golygu bod y Cyngor wedi ymrwymo i gynhyrchu’r CDLlA yn unol â’r amserlen a’r CIS.  

Wedi i Lywodraeth Cymru (LlC) gymeradwyo’r CC ar 11 Ionawr 2022, cychwynnodd Cyngor CNPT yn ffurfiol ar y gwaith o baratoi CDLlA CNPT (2021-2036). Yn unol â’r CC, cynhaliwyd Galwad am Safleoedd Ymgeisiol rhwng 1 Mawrth 2022 a 31 Mai 2022, a chyflwynwyd cyfanswm o 229 o safleoedd.

Dangosodd canfyddiadau rhagarweiniol o’r Alwad am Safleoedd, ynghyd â gwybodaeth a gafwyd o’r AMBau a’r rhagamcanion twf, fod angen nodi tir ychwanegol ar gyfer tai yn ogystal â’r seilwaith presennol a rhai materion dichonoldeb yr oedd angen amser ychwanegol i’w goresgyn.

O ystyried hyn, penderfynodd y Cyngor roi’r gorau i baratoi’r CDLlA a dechrau eto. Cymeradwyodd y Cyngor CC newydd ym mis Hydref 2023, a chymeradwywyd hynny wedyn gan LlC. Mae’r CC newydd yn amlinellu’r terfynau amser ar gyfer paratoi’r CDLlA newydd, a fydd yn cwmpasu cyfnod y Cynllun, sef 2023 i 2038, gan ddechrau gyda Galwad am Safleoedd ym mis Tachwedd 2023.

Beth yw Safle Ymgeisiol?

Safle Ymgeisiol yw safle a gyflwynir i’r Cyngor gan barti sydd â diddordeb (e.e. datblygwr neu dirfeddiannwr) i’w gynnwys o bosib fel dyraniad yn y CDLlA.

Mae hyrwyddwr y safle wedi cynnig y safle i’w ystyried a’i asesu o ran a yw’n briodol ei ddatblygu at y defnydd a awgrymwyd mewn egwyddor, yn amodol ar fanylion.

Mae hyrwyddwr y safle am i’r safle gael ei ddatblygu rywbryd yn ystod cyfnod y Cynllun.

Beth sydd ddim yn wir am Safle Ymgeisiol?

Nid cais cynllunio yw Safle Ymgeisiol. Bydd cais cynllunio yn dal yn ofynnol i asesu manylion y cynnig cynllunio, hyd yn oed os yw’r cynigydd yn llwyddo i sicrhau bod y darn o dir yn cael ei ddyrannu yn y CDLlA. 

Beth yw’r Alwad am Safleoedd Ymgeisiol?

Yr Alwad am Safleoedd Ymgeisiol yw’r cam cyntaf wrth baratoi’r CDLlA.

Fel rhan o’r Alwad am Safleoedd Ymgeisiol, bydd y Cyngor yn gwahodd hyrwyddwyr safleoedd i gyflwyno Safleoedd Ymgeisiol i’w hystyried.

Mae’r Alwad am Safleoedd Ymgeisiol yn gam cyntaf pwysig ym mhroses y Cyngor o gasglu tystiolaeth i lywio drafftio’r CDLlA yn y dyfodol. 

Bydd gofyn bod hyrwyddwyr safleoedd yn darparu tystiolaeth addas i ddangos yn gadarn bod safleoedd yn gynaliadwy, yn gyflawnadwy ac yn ariannol ddichonadwy.

Pryd mae modd cyflwyno Safleoedd Ymgeisiol?

Dylid cyflwyno Safleoedd Ymgeisiol i’r Cyngor yn ystod yr Alwad am Safleoedd Ymgeisiol, a fydd yn digwydd o ganol dydd ar 1 Mawrth – ganol dydd ar 31 Mai 2022. 

Beth fydd yn digwydd os caiff safleoedd eu cyflwyno ar ôl y dyddiad cau hwn?

Ni fydd safleoedd sy’n cael eu hyrwyddo ar ôl y dyddiad cau hwn yn cael eu derbyn.

Mae modd cyflwyno safleoedd yng nghyfnodau’r Strategaeth a Ffafrir a’r Cynllun Adnau, ond mae’n debygol y bydd hyn yn costio mwy gan y bydd angen i safleoedd gyflwyno gwybodaeth fwy manwl. Bydd angen hefyd i safleoedd gyfateb i’r Strategaeth a Ffafrir yn hytrach na helpu i ddylanwadu ar y Strategaeth a Ffafrir.

Ar gyfer pa ddefnyddiau gall Safleoedd Ymgeisiol gael eu cyflwyno?

Gall safleoedd gael eu cyflwyno ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau, gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i’r canlynol:

  • Tai;
  • Cyflogaeth;
  • Cyfleusterau Cymunedol;
  • Twristiaeth;
  • Seilwaith Gwyrdd;
  • Gwastraff;
  • Addysg;
  • Gofal cymdeithasol;
  • Darparu lleiniau i sipsiwn a theithwyr;
  • Manwerthu;
  • Hamdden;
  • Ynni Adnewyddadwy;
  • Bioamrywiaeth;
  • Seilwaith Trafnidiaeth;
  • Mwynau; a

Diogelu

Pwy sy’n gallu cyflwyno Safle Ymgeisiol?

Gall unrhyw un gynnig darn o dir i’w ystyried ar gyfer ei gynnwys yn y CDLlA.

Fodd bynnag, dylai fod gan hyrwyddwyr safleoedd ganiatâd perchennog y tir, gan y bydd angen iddyn nhw ddangos bod modd cyflawni’r cynnig.

Beth rydym ni’n ei olygu wrth ‘cyflawnadwy’?

Bydd angen i hyrwyddwyr safleoedd ddangos bod modd cyflawni’r safle.

Er mwyn asesu cyflawnadwyedd y safle, rhoddir ystyriaeth i’r canlynol, sef:

  • A yw’r safle’n cael ei gyflwyno yn ei gyfanrwydd;
  • A oes mwy nag un perchennog ar y safle, ac a yw’r holl dirfeddianwyr yn hyrwyddo’r safle ar gyfer y math o ddatblygiad ac ar y raddfa a ragwelir?
  • A yw’r safle’n cael ei hyrwyddo gan y tirfeddianw(y)r presennol neu ar eu rhan. Neu a oes gan hyrwyddwr y safle/eu cleient gytundeb opsiwn neu gyfatebol i brynu’r safle gan y tirfeddianw(y)r;
  • A oes unrhyw gyfyngiadau ar ddatblygu megis lleiniau pridwerth neu gyfamodau nad ydynt eisoes yn cael eu datrys/dileu;
  • A fydd y safle’n cael ei gyflwyno i’w ddatblygu yn ystod cyfnod y Cynllun;
  • A ddarparwyd gwybodaeth am ddichonoldeb i gyd-fynd â’r Safle Ymgeisiol a gyflwynwyd); ac
  • Os yw’r safle mewn perchnogaeth gyhoeddus, a yw wedi cael ei nodi mewn strategaeth waredu a gyhoeddwyd a/neu trwy benderfyniad gan y Cyngor os yw’r tir i gael ei gadw/werthu gan y Cyngor.

A fydd dyraniadau safle presennol yn cael eu treiglo ymlaen yn awtomatig?

Na fyddant.

Bydd angen i safleoedd sydd wedi’u dyrannu ar hyn o bryd i’w datblygu yn y CDLl, ond sydd heb eu datblygu, gael eu hyrwyddo eto, a bydd angen mwy o dystiolaeth i ddangos y bydd y safle’n cael ei ddatblygu yn ystod cyfnod y Cynllun. 

Fydd angen ail-hyrwyddo safleoedd a gafodd eu hyrwyddo rhwng Mawrth a Mai 2022?

Na fydd.

Ni fydd angen ail-hyrwyddo safleoedd a hyrwyddwyd fel rhan o Alwad Mawrth-Mai 2022 am Safleoedd Ymgeisiol fel rhan o’r Alwad hon am Safleoedd Ymgeisiol.

Fodd bynnag, gall hyrwyddwyr safleoedd ddarparu gwybodaeth ychwanegol.

Serch hynny, nid oes rhaid i hyrwyddwyr ddarparu gwybodaeth ychwanegol. Os bydd angen gwybodaeth ychwanegol benodol ar y Cyngor, byddwn ni’n cysylltu â chi.  

Pa wybodaeth mae angen i mi gyflwyno?

Bydd angen i hyrwyddwyr safleoedd gyflwyno’r canlynol:

  • Ffurflen Cyflwyno Safleoedd Ymgeisiol (ar gael ar ein gwefan npt.gov.uk/cs); a
  • Map Arolwg Ordnans (OS) o’r safle.

Bydd gofyn bod safleoedd preswyl a rhai a arweinir gan gyflogaeth, gyda 50 neu fwy o dai neu 1.0ha+, gyflwyno’r canlynol:

  • Arfarniad dichonoldeb lefel uchel gan ddefnyddio Model Dichonoldeb Datblygu Canolbarth a De-orllewin Cymru (DVM); a
  • Datganiad dichonoldeb lefel uchel i gyd-fynd â hynny, fel rhan o’r Alwad am Safleoedd. Dylai hyrwyddwyr safleoedd gynnwys y rhagdybiaethau y manylir arnynt yn y Ddogfen Canllawiau Dichonoldeb, neu ddarparu tystiolaeth gefnogol sy’n cyfiawnhau gwerthoedd amgen.

Bydd gofyn bod safleoedd preswyl a chyflogaeth sydd o dan y trothwyon uchod yn:

  • Cwblhau holiadur dichonoldeb fel rhan o’r Alwad am Safleoedd Ymgeisiol; ac yn
  • Darparu rhagor o wybodaeth, gan gynnwys DVM wedi’i gwblhau a Datganiad Dichonoldeb Lefel Uchel yn ddiweddarach yn y broses, fel rhan o Gyfnod 2: Asesiad o Safle Ymgeisiol.

Dylai safleoedd sy’n cael eu hyrwyddo at ddefnyddiau eraill ddarparu:

  • Swm cymesur o dystiolaeth am ddichonoldeb fel rhan o’r Alwad am Safleoedd, gan gymryd i ystyriaeth y rhagdybiaethau y manylir arnynt yn y Ddogfen Canllawiau Dichonoldeb; a
  • Bydd angen arfarniad dichonoldeb manwl yn ddiweddarach yn y broses asesu.

Fydd pob Safle Ymgeisiol yn cael ei ddatblygu?

Na fydd.

Ni fydd pob safle sy’n cael ei hyrwyddo yn cael ei ddyrannu i’w ddatblygu yn y CDLlA terfynol. Bydd y Cyngor yn asesu’r safleoedd a gyflwynwyd, gan gymryd i ystyriaeth anghenion a nodwyd ac ystyriaethau cynaliadwyedd, ac o bosib yn dyrannu nifer o safleoedd i’w datblygu.  

Bydd safleoedd a ddyrannir wedi hynny yn cael eu cyflwyno i’w datblygu dim ond os rhoddir caniatâd cynllunio ac mae datblygwr am roi’r penderfyniad hwnnw ar waith. 

Pa wybodaeth sydd ar gael i’m helpu i gyflwyno Safle Ymgeisiol?

Cyn yr Alwad am Safleoedd Ymgeisiol, mae’r Cyngor wedi rhoi’r dogfennau canlynol ar ei wefan (www.npt.gov.uk/cs):

  • Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol a Nodiadau Cyfarwyddyd;
  • Map rhyngweithiol o’r cyfyngiadau;
  • Ffurflen Cyflwyno Safleoedd Ymgeisiol;
  • Nodiadau Cyfarwyddyd Dichonoldeb;
  • Holiadur Dichonoldeb; a
  • Thempled Dichonoldeb Lefel Uchel

Does gen i ddim mynediad i’r rhyngrwyd, oes fersiynau papur o’r dogfennau hyn ar gael?

Oes.

Mae’r dogfennau i’w gweld yn y lleoliadau adnau canlynol:

  • Canolfan Ddinesig Castell-nedd, Castell-nedd, SA11 3QZ
  • Canolfan Ddinesig Port Talbot, Port Talbot, SA13 1PJ

Hefyd mae modd darllen y dogfennau ar gyfrifiaduron cyhoeddus sydd ar gael yn y llyfrgelloedd – edrychwch ar y wefan ganlynol i weld gwybodaeth am oriau agor llyfrgelloedd a’u gweithdrefnau yn sgîl pandemig Covid-19.

Mae’r dogfennau hefyd ar gael i’w prynu gan dîm Polisi Cynllunio’r Cyngor. Os hoffech chi brynu copi:

Beth yw’r Fethodoleg Asesu ar gyfer Safleoedd Ymgeisiol a’r Nodiadau Cyfarwyddyd?

Mae’r ddogfen yn cyflwyno’r fethodoleg y bydd y Cyngor yn ei defnyddio i asesu safleoedd, ac yn darparu gwybodaeth gefndir ar gyfer cyflwyno Safleoedd Ymgeisiol.

2.16 Beth yw’r Nodiadau Canllaw Dichonoldeb?

Mae’r ddogfen yn darparu:

  • Gwybodaeth gefndir a thystiolaeth i helpu wrth gyflwyno arfarniadau dichonoldeb a datganiadau dichonoldeb lefel uchel i gyd-fynd â nhw;
  • Gwybodaeth am sut mae sicrhau copi o’r Model Dichonoldeb Datblygu rhanbarthol (DVM); a’r
  • Ffioedd sy’n daladwy am gopïau o’r DVM rhanbarthol.

Beth yw’r map rhyngweithol o’r cyfyngiadau?

Mae’r map rhyngweithiol o’r cyfyngiadau ar gael ar wefan y Cyngor: https://maps.npt.gov.uk/rldp/.

Mae’n darparu gwybodaeth am y cyfyngiadau sylfaenol canlynol:

  • Ramsar (Gwlyptir â Phwysigrwydd Rhyngwladol)
  • Ardal Gadwraeth Arbennig (AGA);
  • Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA);
  • Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG);
  • Dosbarthiad Tir Amaethyddol Dosbarth 1 (ALC);
  • Heneb Gofrestredig (SM);
  • Parc Hanesyddol a Gerddi;
  • Tir comin; a

Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am bolisïau cyfredol y CDLl. Cynhwyswyd y rhain yn gyfeiriadau cefndir, a byddant yn cael eu dileu wrth i’r CDLlA symud ymlaen.

Beth yw’r Holiadur Dichonoldeb?

Bydd angen i’r Holiadur Dichonoldeb gael ei gwblhau ar gyfer safleoedd preswyl a rhai a arweinir gan gyflogaeth lle bydd llai na 50 annedd a llai nag 1.0ha o dir cyflogaeth.

Mae’r Holiadur Dichonoldeb yn cynnwys cyfres o gwestiynau sy’n ymwneud â’r rhagdybiaethau yn Nodyn Cyfarwyddyd Dichonoldeb y Cyngor. Mae gofyn bod hyrwyddwyr safleoedd yn adolygu’r rhagdybiaethau y manylir arnynt yn y Ddogfen, ac yn penderfynu a fyddent yn addas ar gyfer math a graddfa’r datblygiad a ragwelir.  

Beth yw’r Templed Dichonoldeb Lefel Uchel?

Mae angen i’r templed lefel uchel gael ei gwblhau ar gyfer safleoedd sy’n darparu 50 neu fwy o anheddau preswyl neu fwy nag 1.0ha o dir cyflogaeth.

Mae’r templed lefel uchel yn darparu cwestiynau llywio y mae angen eu cwblhau. Dylid darparu tystiolaeth ategol ychwanegol lle bo hynny’n berthnasol.  

Beth yw’r Model Dichonoldeb Datblygu (DVM)?

Offeryn arfarnu dichonoldeb rhanbarthol yw’r DVM. Yn ei hanfod mae’n daenlen safle-benodol er mwyn manylu ar y costau a’r elw a ragwelir.  

Bydd gofyn bod hyrwyddwyr safleoedd fyddai’n darparu 50 neu fwy o unedau preswyl neu 1.0+ha o dir cyflogaeth yn cyflwyno DVM cyflawn.

I sicrhau copi o’r DVM bydd angen i hyrwyddwr y safle anfon e-bost at y Tîm Polisi Cynllunio ar npt@ldp.gov.uk, gan ddarparu rhif ffôn rhywun y gall y Cyngor eu ffonio i dderbyn tâl am y DVM.

Bydd y Cyngor yn codi tâl o £50 am gopi cychwynnol, safle-benodol o’r DVM (mae gofyn bod DVM safle-benodol ar wahân yn cael ei gyflwyno ar gyfer pob safle).

Bydd y Cyngor yn rhoi’r canlynol i hyrwyddwr y safle:

  • Copi o’r DVM safle-benodol; a
  • Chyfarwyddiadau ynghylch sut mae defnyddio’r DVM.

Beth fydd yn digwydd os yw fy nghyflwyniad Safle Ymgeisiol yn anghyflawn?

Bydd cyfrifoldeb ar hyrwyddwyr safleoedd i sicrhau bod yr wybodaeth maen nhw’n ei chyflwyno yn cael ei chwblhau’n gynhwysfawr ac yn gywir, gan y bydd safleoedd lle na wnaed hynny yn debygol o gael eu hidlo allan.

Mae’r Cyngor wedi cynhyrchu’r Cwestiynau Cyffredin hyn, y nodiadau canllaw, y diagram darllen hwylus a’r fideos i helpu hyrwyddwyr safleoedd i gyflwyno safleoedd. 

Fydd yr wybodaeth rwy’n ei chyflwyno yn parhau’n gyfrinachol?

Na fydd, er y gall y Cyngor ddewis gwneud yr holl wybodaeth a gyflwynwyd ar gael neu beidio (yn dibynnu ar natur yr wybodaeth/ei pherthnasedd etc.).

Bydd yr holl wybodaeth a gyflwynir yn agored i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth (FOI) a/neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (EIR).

Fydd Gwybodaeth a Gyflwynir am Ddichonoldeb yn Aros yn Gyfrinachol?

Na fydd.

Yn dilyn trafodaethau gyda Thîm Cyfreithiol y Cyngor a’r diwydiant datblygu, yn unol â chanllawiau cynllunio cenedlaethol (Llawlyfr Cynlluniau Datblygu, Argraffiad 3, 2020, Paragraff 5.95), bydd y Cyngor yn cymhwyso dull ‘llyfr agored’ o ymdrin â gwybodaeth a gyflwynir ynghylch dichonoldeb, er mwyn sicrhau tryloywder y dystiolaeth.  

Faint yw cost cyflwyno Safle Ymgeisiol?

Er nad oes cost ynghlwm wrth hyrwyddo Safle Ymgeisiol fel rhan o’r Alwad am Safleoedd Ymgeisiol, bydd angen i safleoedd preswyl a rhai a arweinir gan gyflogaeth lle ceir 50 uned breswyl neu fwy neu 1.0+ha o lety cyflogaeth brynu copi o’r DVM (gweler uchod).  

Er nad yw hynny’n ofynnol fel rhan o’r Alwad am Safleoedd, dylai hyrwyddwyr safleoedd preswyl a chyflogaeth o dan 50 uned breswyl ac 1.0ha o dir cyflogaeth fod yn ymwybodol, os caiff eu safleoedd eu hidlo’n llwyddiannus, y bydd angen iddyn nhw brynu copi o’r DVM.

Wrth i safleoedd symud ymlaen trwy’r broses, bydd angen i’w hyrwyddwyr ddarparu gwybodaeth fwy manwl a thystiolaeth ategol, ac efallai byddant am ddefnyddio gwasanaeth ymgynghorydd cynllunio.   

Pam mae angen i mi ddarparu’r holl wybodaeth ar y Ffurflen Cyflwyno Safleoedd Ymgeisiol?

Mae angen i hyrwyddwyr safleoedd ddarparu’r holl wybodaeth ar y Ffurflen Cyflwyno Safleoedd Ymgeisiol i helpu’r Cyngor i asesu a yw’r safle:

  • Mewn lleoliad cynaliadwy (yn gallu cael ei ryddhau o bob cyfyngiad, yn agos at wasanaethau presennol, etc.);
  • Yn gallu cael ei gyflawni; ac
  • Yn ddichonadwy.

Oes modd cyflwyno caniatâd cynllunio sydd eisoes yn bodoli fel Safle Ymgeisiol?

Oes. Gellir cyflwyno enghreifftiau o ganiatâd cynllunio sydd eisoes yn bodoli fel Safleoedd Ymgeisiol.

Beth fydd yn digwydd wedi’r Alwad am Safleoedd Ymgeisiol?

Mae’r Fethodoleg ar gyfer Asesu Safleoedd Ymgeisiol a’r Nodiadau Cyfarwyddyd yn amlinellu’r terfynau amser a’r dull gweithredu canlynol, cam wrth gam:

Yn dilyn yr Alwad am Safleoedd Ymgeisiol, bydd y Cyngor yn mynd ati i hidlo’r safleoedd yn gychwynnol. Caiff safleoedd eu hidlo yn ôl:

  • Eu maint;
  • A ydynt o fewn unrhyw rai o’r cyfyngiadau sylfaenol a nodwyd uchod; a hefyd
  • Eu cyflawnadwyedd.

Yna bydd y Cyngor yn ysgrifennu at hyrwyddwyr safleoedd a hidlwyd yn llwyddiannus, ac yn gofyn iddyn nhw ddarparu gwybodaeth ychwanegol. Gwneir hynny ar sail benodol, fesul safle.

Y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol

Wedi i’r Alwad am Safleoedd gau, bydd y Cyngor yn paratoi Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol. Mae’r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn rhestr o’r holl safleoedd a gyflwynwyd i’r Cyngor yn ystod yr Alwad am Safleoedd Ymgeisiol. Bydd y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus fel rhan o’r Ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffafrir.

Os yw safle wedi’i gynnwys ar y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol, nid yw hynny o reidrwydd yn golygu ei fod yn addas i’w ddatblygu. Nid yw cynnwys safle ar y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn awgrymu ymrwymiad i’w gynnwys yn y CDLlA.

 phwy dylwn i gysylltu os bydd gen i gwestiynau am y CDLlA neu’r Alwad am Safleoedd Ymgeisiol?

Cysylltwch â’r tîm Polisi Cynllunio yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot, gan ddefnyddio’r manylion cyswllt canlynol:

Sut galla i dderbyn gwybodaeth yn rheolaidd am y CDLlA?

Os hoffech chi dderbyn gwybodaeth yn rheolaidd am y CDLlA, gallwn ni eich ychwanegu at ein cronfa ddata ymgynghori, fel ein bod ni’n rhoi gwybod i chi am ddatblygiadau ynghylch y CDLlA.

Os ydych am gael eich ychwanegu at ein cronfa ddata, bydd angen i chi roi gwybod i ni yn ysgrifenedig a darparu eich manylion cyswllt, eich enw a’ch cyfeiriad ac, os yw’n berthnasol, eich cyfeiriad e-bost i ni. Byddai hefyd o gymorth petaech chi’n gallu nodi eich dewis iaith (h.y. a ydych chi am i ni gyfathrebu â chi yn Gymraeg neu Saesneg).

Ysgrifennwch at y canlynol:

  • Drwy’r post: Mr Ceri Morris, Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Y Ceiau, Ffordd Brunel, Parc Ynni Baglan, Castell-nedd. SA11 2GG.
  • E-bost: ldp@npt.gov.uk