Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cytundeb Cyflawni

Mae’r CC yn un o ofynion statudol y broses o baratoi’r Cynllun o dan Reoliad 9 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005 (fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Cynlluniau Datblygu Lleol (Cymru) Newidiwyd 2015), a rhaid ei gymeradwyo trwy benderfyniad y Cyngor a LlC.

Dechreuodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot (CCNPT) weithio ar ei Gynllun Datblygu Lleol Amnewid (CDLlA) yn 2021. Mae canfyddiadau rhagarweiniol yr ‘Alwad am Safleoedd’ yn 2022, ynghyd â gwybodaeth a gafwyd o’n Hadroddiadau Monitro Blynyddol a rhagolygon twf, yn dangos bod angen canfod tir ychwanegol ar gyfer tai, a bod angen rhagor o amser i ymdrin â seilwaith sydd eisoes yn bodoli a materion dichonoldeb.

Yng ngoleuni hyn, mae’r Cyngor wedi penderfynu atal y gwaith o baratoi’r CDLlA, a dechrau eto. Cymeradwywyd Cytundeb Cyflawni (CC) Drafft gan y Cyngor ar 4 Hydref 2023, ac yn dilyn ymgynghoriad fe’i cyflwynwyd i Lywodraeth Cymru. Mae’r Adroddiad Ymgynghori i’w weld isod:

Wedi hynny, cymeradwywyd y Cytundeb Cyflawni gan Lywodraeth Cymru ar 26 Hydref 2023, fel bod Cyngor CNPT yn gallu cychwyn yn ffurfiol ar y gwaith o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol Amnewid (CDLlA). Mae’r CC yn cyflwyno proses o 3.5 mlynedd hyd at fabwysiadu CDLlA, a ragwelir ym Ebrill 2027, gyda’r cynllun yn dod i ben yn 2038.

Y Cytundeb Cyflawni:

  • yn nodi'r amserlen ar gyfer llunio'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd
  • yn nodi'r cyfnodau allweddol a'r adnoddau y bydd y Cyngor yn eu hymrwymo i ddatblygu y Cynllun Datblygu Lleol Newydd ac
  • yn cynnwys Cynllun Cynnwys y Gymuned. Mae hwn yn nodi sut a phryd y bydd rhanddeiliaid a'r gymuned yn cael eu cynnwys yn y broses o baratoi cynllun.

Cyflwynir yr Amserlen ar gyfer paratoi’r CDLlA isod:

Cyfnodau Terfynol

Cyfnod Allweddol Amserlen
Cytundeb Cyflawni Tachwedd 2023
Cyfranogiad / Paratoadau Cyn-Adnau (Rheoliad 14) Tachwedd 2023 – Medi 2024
Galwad am Safleoedd Ymgeisiol Tachwedd 2023 – Rhagfyr 2023
Ymgynghoriad Cyn-Adnau (Strategaeth a Ffafrir) – (Rheoliad 15) Tachwedd 2024 – Rhagfyr 2024
Cyfranogiad/Paratoadau Adnau Rhagfyr 2024- Medi 2025
Ymgynghori ar y CDLlA Adnau (Rheoliad 17) Tachwedd 2025 – Rhagfyr 2025

Amserlen Ddangosol

Cyfnod Allweddol Amserlen
Cyflwyno’r CDLlA i LlC i’w archwilio (Rheoliad 22) Mehefin 2026
Archwiliad Annibynnol (Rheoliad 23) Medi 2026 – Rhagfyr 2026
Derbyn a Chyhoeddi Adroddiad yr Arolygdd (Rheolaid 24) Chwefror 2027
Mabwysiadu’r CDLlA (Rheoliad 25) Ebrill 2027
Monitro ac Adolygu Ebrill 2028

Mae copïau papur o’r Cytundeb Cyflawni i’w gweld yn yr holl leoliadau Adneuo:

  • Canolfan Ddinesig Castell-nedd, Castell-nedd, SA11 3QZ
  • Canolfan Ddinesig Port Talbot, Port Talbot, SA13 1PJ