Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ffurflen gais lawn CCS

Mae'r ddolen isod yn rhoi mynediad at y ffurflen y mae'n rhaid ei chwblhau ar gyfer unrhyw system draenio cynaliadwy arfaethedig ar gyfer datblygiadau, sy'n broses ar wahân i'r llwybr cynllunio.

'Ni all unrhyw waith ddechrau tan y rhoddir cymeradwyaeth gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy'

Os oes angen cyngor arnoch cyn i chi gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen berthnasol gan ddefnyddio'r ddolen isod neu'r dudalen cyngor cyn cyflwyno cais.

Os ydych yn cyflwyno cais llawn, yna defnyddiwch y ddolen isod sy'n dweud “cais llawn”. Fodd bynnag, gall methiant i gyflwyno'r holl wybodaeth angenrheidiol ar gyfer cais llawn achosi oedi wrth ddilysu eich cais, neu arwain at ei wrthod.

Unwaith y bydd cais llawn wedi cael ei gyflwyno a'i ddilysu, ni fydd unrhyw ohebiaeth i drafod gwybodaeth ychwanegol y mae ei hangen, gan y caiff y cais ei asesu ar sail yr wybodaeth a gyflwynwyd. Byddai unrhyw ddiffyg o ran yr wybodaeth angenrheidiol yn arwain at wrthod y cais.

Os nad ystyrir bod yr wybodaeth yn briodol ac os nad yw gwybodaeth bellach wedi cael ei chyflwyno i ategu'r cais i alluogi penderfyniad, yna, ar ôl 7 neu 12 wythnos (os oes angen asesiad effaith amgylcheddol), bydd y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy'n penderfynu ar y cais yn ddiofyn a chaiff ei wrthod oherwydd y diffyg gwybodaeth.