Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ymholiadau cyn gwneud cais

Ein hymrwymiad gwasanaeth

Byddwn yn mynd ati i gysylltu â'n cwsmeriaid i ddarparu cyngor cyn cyflwyno cais o safon ar yr holl gynigion datblygu, gan gynnig gwasanaeth unigol â'r prif nod o 'Gyflawni Datblygiad o Safon yn Gyflym'.

Rheoli datblygu

Mae dull y Cyngor o ymdrin â Rheoli Datblygu yn parhau i roi cryn bwys ar ddarparu’r cyngor gorau posibl i ddarpar ddatblygwr/ymgeisydd cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol.

Ers 16 Mawrth 2016, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn bod pob Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) yng Nghymru yn darparu Gwasanaeth Cyn Ymgeisio Statudol. I adlewyrchu’r ddyletswydd newydd hon, mae’r ‘Protocol Gwasanaeth Cynllunio Cyn Ymgeisio’ wedi cael ei newid i gwmpasu’r gwasanaethau cyn ymgeisio canlynol a gynigir gan Gastell-nedd Port Talbot: -

  • Y Gwasanaeth Cyn Ymgeisio Statudol (Adran 5)
  • Darparu cyngor ychwanegol yn dilyn ymateb ysgrifenedig cychwynnol a dderbyniwyd o dan y gwasanaeth statudol (Adran 6.1)
  • Cyngor Anstatudol Cyn Ymgeisio (Adran 6.2)
  • Cytundebau Cynllunio Perfformiad (CCP) (Adran 6.3)
Sylwch fod yr Atodlen Codi Tâl isod wedi'i ddiweddaru o 23 Ebrill 2018

Bwriedir i’r ‘Protocol Gwasanaeth Cynllunio Cyn Ymgeisio’ gynrychioli’n rhagweithiol ddatganiad gwasanaeth y Cyngor ynghylch yr holl wasanaethau cyn ymgeisio a gynigir, p’un a godir tâl amdanynt neu beidio, gan gyflwyno nid yn unig y trefniadau talu, ond hefyd fanylion lefel yr wybodaeth y dylid ei chyflwyno ac ansawdd yr ymateb sydd i’w ddisgwyl wrth ymgysylltu â’r Cyngor mewn trafodaethau cyn ymgeisio.

Llawrlwytho

  • Planning pre-application service protocol (DOCX 79 KB)
  • Pre-application fee charging schedule (DOCX 41 KB)
Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau

Ffioedd a thaliadau

Cyngor cyn gwneud cais (statudol) 

Talu am Gynllunio – Cyngor cyn gwneud cais (statudol)

Cyngor cyn gwneud cais (anstatudol) 

Talu am Gynllunio – Cyngor cyn gwneud cais (anstatudol)

Datblygiadau mawr

Noder: Nid yw'r protocol cyn ymgeisio yn cynnwys y Wybodaeth mewn perthynas â'r gofyniad ffurfiol i ddatblygwyr sy'n bwriadu 'datblygiad mawr' neu Ddatblygiadau o Bwys Cenedlaethol (DNS) i gynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio o dan Adran 17 o'r Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 a Rhan 1A o Gynllunio  Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) Gorchymyn 2012 (fel y'i diwygiwyd).  Gellir cael cyngor mewn perthynas â Datblygiadau Mawr