Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Oes angen caniatâd cynllunio

Does dim angen caniatâd cynllunio ar gyfer rhai mathau o waith adeiladu. Gelwir hyn yn datblygiad caniataol. I ddarganfod mwy am ddatblygiad a ganiateir ac a oes angen caniatâd cynllunio arnoch, ewch i dudalennau Canllawiau Cynllunio Llywodraeth Cymru sy'n cynnwys canllawiau manwl ar:-

Sut i wneud cais am ganiatâd cynllunio?

Mae'r rhan fwyaf o geisiadau cynllunio yn awr yn cael eu cyflwyno ar-lein. Gallwch hefyd lawrlwytho ffurflen gais i lenwi yn amser eich hun.

Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon - Datblygiad bwriedig

Os ydych yn dal yn ansicr a oes angen caniatâd cynllunio, gallwch gyflwyno cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon. Nid yw hyn yr un peth â chaniatâd cynllunio, ond os yw'r Dystysgrif yn cael ei gyhoeddi (gan ein bod yn cytuno nad oes angen caniatâd cynllunio) yna mae'n brawf bod eich datblygiad yn 'cyfreithlon'.

Sylwer bod ffi yn daladwy am Dystysgrif cyfreithlondeb datblygiad bwriedig sef hanner y ffi arferol.  Ar gyfer datblygiad 'ddeiliaid tai' (megis estyniad), mae hyn yn golygu ffi o £115.  Os hoffech wneud cais i gadarnhau bod rhywbeth rydych wedi adeiladu eisoes ddim angen caniatâd cynllunio, yna byddai tâl llawn yn daladwy, sef £230 ar gyfer datblygiadau gan ddeiliaid tai.