Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ffïoedd Ceisiadau Cynllunio

O 1 Hydref 2015, bydd Ffioedd Cynllunio newydd yn berthnasol yng Nghymru.

Gwnewch yn siŵr bod baner Cymru ar frig yr ochr dde pan fyddwch yn defnyddio'r cyfrifiannell.

Diwygiadau ar ôl cyflwyno

O 16 Mawrth ymlaen, bydd gofyn i unrhyw geisydd sydd wedi cyflwyno cais cynllunio mawr, sy'n dymuno diwygio'i gynnig, dalu ffi o £190 wrth gyflwyno diwygiad.

Mae Rheoliad 5 o'r Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2016 yn mewnosod rheoliad 16(a) [Ffioedd ar gyfer diwygiadau i geisiadau datblygu mawr ar ôl eu cyflwyno] yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref [Ffioedd ar gyfer Ceisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle (Cymru) 2015 sy'n ei gwneud yn ofynnol talu ffi o £190.