Penderfynu ar Geisiadau
Penderfynir ar geisiadau cynllunio naill ai gan swyddogion dan bwerau dirprwyedig neu gan y Pwyllgor Cynllunio.
Penderfyniadau Dirprwyedig
Swyddogion Cynllunio sy'n penderfynu ar geisiadau syml gan ddeiliaid tai, blaenau siopau, hysbysebion a mân ddatblygiadau eraill yr argymhellir eu cymeradwyo a lle na cheir gwrthwynebiadau. Caiff ceisiadau mwy cymhleth, y rhai lle ceir gwrthwynebiadau, neu wrthodiadau eu dirprwyo hefyd, ond i banel o dri uwch-swyddog (Pennaeth Cynllunio a/neu'r Rheolwr Datblygu - Cynllunio, ynghyd ag arweinwyr tîm). Cyn penderfyniad terfynol, ceir ymgynghoriad â'r Aelodau Ward perthnasol.
Pwyllgor Cynllunio
Y Pwyllgor Cynllunio sy'n penderfynu ar y ceisiadau cynllunio mawr, y mwyaf cymhleth neu fwy dadleuol yn y Fwrdeistref Sirol.
Fel arfer cynhelir cyfarfodydd y Pwyllgor ar ddydd Mawrth am 10am yn Siambr y Cyngor, yn y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ, ac maent yn agored i'r cyhoedd. Mae modd cael mynediad i gyfarfodydd y Pwyllgor ar-lein hefyd gan ddefnyddio Microsoft Teams.
Mae gan y cyhoedd hawl i fynychu’r cyfarfod ac annerch y Pwyllgor yn unol â phrotocol cymeradwy’r Cyngor.
Gellir gweld rhestr o gyfarfodydd i ddod ar Galendr o Gyfarfodydd y Cyngor
Mae Agenda Pwyllgor y cyfarfod ar gael i'r cyhoedd ei gweld yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot, Port Talbot o leiaf 3 diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod priodol, a bydd fel arfer ar gael i'w gweld ar-lein ar yr un pryd. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwrando ar y ddadl ar gais cynllunio penodol, fe'ch cynghorir i wirio â'r Is-adran Rheoli Datblygu (01639 686733/686331 neu planning@npt.gov.uk) bod y cais ar yr agenda cyn i chi ddod, gan fod rhai ceisiadau'n cael eu tynnu nôl o bryd i'w gilydd ar fyr rybudd o bwyllgor.
Gweler hefyd: -
Cyflwyno sylwadau ar geisiadau cynllunio yr adroddir amdanynt i'r pwyllgor
Er y ceisir sylwadau ar geisiadau cynllunio o fewn y cyfnod ymgynghori statudol sef 21 diwrnod, mae gan yr awdurdod hwn bolisi o dderbyn sylwadau hyd at yr adeg y penderfynir ar y cais. Pan gaiff sylwadau eu cyflwyno y tu allan i'r cyfnod ymgynghori statudol o ran ceisiadau cynllunio yr adroddir amdanynt i'r Pwyllgor Cynllunio, dylid nodi y gall y sylwadau hynny gael eu derbyn yn rhy hwyr i'w cynnwys yn yr adroddiad ffurfiol gan y pwyllgor. Y rheswm am hyn yw bod adroddiadau fel arfer yn cael eu paratoi hyd at bythefnos cyn y cynhelir cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio.
Bydd yr awdurdod felly'n derbyn sylwadau a dderbyniwyd ac yn adrodd amdanynt hyd at 2pm ar y diwrnod gwaith olaf ond un cyn y Pwyllgor Cynllunio cysylltiedig. Yn seiliedig ar y cyfarfodydd dydd Mawrth arferol, byddai angen cyflwyno unrhyw sylwadau felly erbyn 2pm fan bellaf ar y dydd Gwener cyn y cyfarfod pwyllgor.
Caiff sylwadau a dderbynnir yn unol â phrotocol y cyngor eu crynhoi a, lle y bo'n briodol, gwneir sylwadau arnynt ar ffurf Taflen Ddiwygio, a ddosberthir i aelodau'r Pwyllgor Cynllunio drwy e-bost ar y noson cyn y cyfarfod pwyllgor, a'i chyflwyno ar ffurf copi caled yn y cyfarfod.