Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cyfarwyddyd Gan Ddeiliaid Tai

Ar 30 Medi 2013, diwygiodd Lywodraeth Cymru'r hawliau datblygu a ganiateir i ddeiliad tai drwy gyflwyno Gorchymyn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2013. Datblygiad a ganiateir yw datblygiad y gellir ei ychwanegu at eiddo heb fod angen ceisio caniatâd cynllunio yn gyntaf.

Cyfyngir ar yr hawliau datblygu a ganiateir gan nifer o fesurau rheoli ac amodau y mae'n rhaid i ddatblygiad eu bodloni i elwa o'r caniatâd tybiedig. Yn y gorffennol, mae'r amodau a'r mesurau rheoli wedi canolbwyntio ar ymagwedd cyfyngu ar faint. Fodd bynnag, ystyriwyd mai dull mwy priodol o reoli fyddai ymagwedd a arweinir gan effaith.

Arweiniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu Arweiniad Cynllunio i Ddeiliaid Tai yn ogystal â Nodyn Cyngor Technegol ar yr hawliau datblygu penodol a ganiateir i ddeiliaid tai.  Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi y gall eich hawliau datblygu a ganiateir fod wedi'u cyfyngu neu eu dileu ar yr adeg y rhoddwyd caniatâd cynllunio'n wreiddiol i'ch eiddo. Os bydd angen cyfeirnodau'r cais ar gyfer eich eiddo, gellir darparu'r rhain am ffi o £35.

Mae'r rheoliadau newydd hyn yn fanylach ac felly mae angen asesiad mwy cymhleth ynghylch a fyddai datblygiad arfaethedig yn elwa o hawliau datblygu a ganiateir neu a fyddai angen caniatâd cynllunio. O'r herwydd, bydd bellach yn ofynnol i'r awdurdod gael Cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (Arfaethedig) neu (Bresennol) cyn medru cadarnhau a oes angen caniatâd cynllunio. Pe byddai angen caniatâd cynllunio, rhoddir cyngor cyn cyflwyno cais i'r ymgeisydd ynghylch a fyddai'r datblygiad yn debygol o gael ei argymell mewn modd ffafriol gan swyddog ar y cam cynllunio (er y dylech sylwi y caiff tâl o £25.00 ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru o 16 Mawrth 2016 am gyngor cyn cyflwyno cais i ddeiliad tŷ).

Ffurflenni cais

Mae'r ffurflenni cais ar gyfer Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (Arfaethedig) neu (Bresennol) ar gael i'w lawrlwytho yma a gellir eu cyflwyno'n electronig drwy'r Ceisiadau Cynllunio Cymru yn www.llyw.cymru/ceisiadaucynllunio

Y ffi bresennol, ar gyfer Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (Arfaethedig) yw £115, ac mae cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (Presennol) yn costio £230. Gellir talu ffioedd yn electronig os cyflwynir y cais drwy'r Porth Cynllunio, neu gellir eu talu drwy siec mewn achosion eraill. Gwnewch sieciau'n daladwy i CBSCNPT.

Dylid cynnwys cynllun lleoliad safle Cynllun Arolwg Ordnans gyda phob cais, a dylai safle'r cais gael ei amlinellu mewn coch, ar raddfa o 1:1250 a chyda phwynt y gogledd yn cael ei ddangos, ynghyd â chynllun bloc, gweddluniau arfaethedig a chynlluniau llawr arfaethedig, y gellir eu hanodi ar y cam hwn â dimensiynau yn hytrach na'u llunio i raddfa a nodir. Er nad oes rhaid i'r cynlluniau gael eu lluniadu'n broffesiynol, mae angen iddynt fod o safon addas i alluogi'r Awdurdod Cynllunio i gadarnhau a oes angen caniatâd cynllunio. Ar ben hynny, mae'n hanfodol bod y cynlluniau a'r gweddluniau hyn yn ddatganiad cywir o'r datblygiad a gynigir. Gallai amrywio'r manylion hyn mewn unrhyw ffordd olygu y bydd angen caniatâd cynllunio. Mae'n rhaid i'r lluniadau hyn ddangos unrhyw newid yn lefel y llawr o gwmpas yr ardal lle bwriedir adeiladu'r estyniad arfaethedig. Bydd Swyddog Cynllunio'n gallu rhoi mwy o gyngor i chi pan fyddwch yn cyflwyno'r cais.

Enghreifftiau o'r mesuriadau y mae eu hangen

Certificate of lawful development sketch

Os caiff cais cynllunio ei gyflwyno ar gyfer cynnig, ac yn cael ei nodi fel datblygiad a ganiateir, gofynnir i'r ymgeisydd gwblhau ffurflen gais Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon, cyflwyno'r ffi amgen ostyngedig (dychwelir y ffi wreiddiol iddynt) a phenderfynir ar y cais fel Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon. Yna bydd gan y datblygwr y fantais penderfyniad cyfreithiol o ran statws cynllunio'r datblygiad. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd cyfreithiol iddo yn y dyfodol, megis pan fydd yn barod i werthu'r eiddo.