Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Asesiadau hyfywedd ar gyfer ceisiadau cynllunio

Rhwymedigaethau Cynllunio Adran 106 – Y Weithdrefn Asesu Hyfywedd a Nodiadau Canllaw

Lle bydd ymgeiswyr yn nodi nad oes modd iddynt ddarparu’r holl dai fforddiadwy sy’n ofynnol neu gyflawni rhwymedigaethau cynllunio eraill ar sail hyfywedd, bydd angen iddynt gyflwyno asesiad ariannol manwl o’r datblygiad arfaethedig.

Lle bydd ymgeiswyr o’r farn y bydd angen iddynt gyflwyno asesiad hyfywedd yn rhan o’u cais cynllunio, dylent gynnal trafodaethau gyda’r Cyngor cyn cyflwyno’r cais cynllunio. Yn rhan o’r trafodaethau hyn a lle bydd hynny’n briodol, bydd y Swyddog Cynllunio yn rhoi cyfle i’r ymgeiswyr gyflwyno’u hasesiad hyfywedd wedi’i gwblhau ac i hwnnw gael ei adolygu yn rhan o’r cais cynllunio gan un o’r canlynol:

  1. Swyddog Prisio Cyngor Castell-nedd Port Talbot (CCNPT); neu
  2. Arbenigwr prisio annibynnol o’r Swyddfa Brisio

Mater i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a Phennaeth Eiddo ac Adfywio y Cyngor yn unig yw’r penderfyniad terfynol ynghylch atgyfeirio’r asesiad naill ai i Swyddog Prisio’r Cyngor neu i’r Swyddfa Brisio.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y Nodyn Gweithdrefn Asesu Hyfywedd a luniwyd gan y Cyngor

Dylid darparu’r arfarniad hyfywedd gan ddefnyddio’r Model Hyfywedd Datblygu (DVM) o eiddo’r Cyngor, er y bydd y Cyngor yn derbyn arfarniadau hyfywedd a gyflwynir trwy fodelau prisio gweddillol eraill os ydynt yn defnyddio methodoleg gydnabyddedig sy’n cyd-fynd â chanllawiau diweddaraf RICS ynghylch asesu hyfywedd datblygiadau preswyl.

Y Model Hyfywedd Datblygu (DVM)

Mae’r Cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau eraill yn rhanbarthau Canolbarth a De-orllewin Cymru, ochr yn ochr â’r ymgynghorwyr datblygu a chynllunio tref Burrows-Hutchinson Ltd., i lunio offeryn asesu DVM. Mae’r DVM a grëwyd yn fodel cynhwysfawr, hwylus y gall pobl sy’n cynnig safleoedd a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ei ddefnyddio i asesu hyfywedd ariannol cynnig i ddatblygu.

Offeryn arfarnu ‘safle-benodol’ yw’r DVM a luniwyd i weithio gyda rhaglen Microsoft Excel ar gyfer Office 365, ar system Microsoft Windows. Bydd pob copi o’r model a ddarperir gan y Cyngor wedi’i ‘gloi’ er mwyn ymwneud â safle datblygu penodol. Fodd bynnag, mae modd defnyddio’r un copi o’r model i asesu mwy nag un senario arfaethedig ar gyfer datblygu’r safle penodol dan sylw.

Bydd ymgeiswyr sy’n defnyddio Gwasanaeth Swyddog Prisio’r Cyngor yn cael copi o’r DVM ar ôl talu’r ffioedd canlynol yn llawn:

Y Math o Gynllun Ffi
3 i 10 o unedau preswyl £695
11 i 20 o unedau preswyl £895
21 i 50 o unedau preswyl £1,195
51+ o unedau preswyl £ trwy gytundeb yn dibynnu ar faint/gymhlethdod y datblygiad
Datblygiad manwerthu/masnachol /diwydiannol, cynnydd net o 1,000 o droedfeddi sgwâr neu ragor yn yr arwynebedd llawr £ trwy gytundeb yn dibynnu ar faint/gymhlethdod y datblygiad (ond heb fod yn llai na £1,195)

Bydd ymgeiswyr a fydd yn cyflwyno’u harfarniadau hyfywedd yn uniongyrchol i’r Swyddfa Brisio yn gorfod talu £50 am gopi o’r DVM cyn iddo gael ei ryddhau, tuag at gostau gweinyddu a phrosesu’r model.

Bydd pob copi o’r DVM yn cynnwys “Canllaw Cyflym” ac ymgorfforwyd “Nodiadau Cymorth” hefyd yn y model. Bydd y Cyngor hefyd yn darparu ‘Canllaw Defnyddwyr DVM’ manwl i’r rhai sydd wedi prynu’r model. Cynhyrchwyd cyfres o fideos ‘sut i ...’ hefyd:

  1. Cyflwyniad i’r DVM Cynllunio
  2. Trosolwg ar Resi
  3. Elfennau Resi
  4. Costau
  5. Arfarniad a Llif Arian

Darperir canllawiau ynghylch sut i gychwyn trafodaeth cyn cyflwyno cais ar We-dudalen Ymholiadau Cyn Cyflwyno y Cyngor.

I gael cyngor pellach ynghylch y gwasanaeth cyn cyflwyno cais, ac i gael copi safle-benodol o’r DVM, cysylltwch â Thîm Cynllunio’r:

Thîm Cynllunio’r
(01639) 686736 (01639) 686736 voice +441639686736
(01639) 686746 (01639) 686746 voice +441639686746