Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gorfodi Cynllunio

Mae gan y Cyngor bwerau i reoli datblygiad sydd heb ei awdurdodi, a gall gymryd camau ffurfiol i unioni achos o dorri’r rheolau cynllunio lle bo gwneud hynny’n hwylus ac er budd i’r cyhoedd.

Y Gwasanaeth Gorfodi

 Ym mis Ionawr 2018 cymeradwyodd y Cyngor Siarter Gorfodi Cynllunio sy’n ceisio:

  • Darparu trosolwg o’r system gorfodi cynllunio, gan gynnwys crynodeb o achosion posibl o dorri’r rheolau cynllunio
  • Manylu ar y prosesau gorfodi a’r pwerau sydd ar gael i’r Cyngor
  • Nodi polisïau a gweithdrefnau sy’n dangos sut bydd tîm Gorfodi Cynllunio CNPT yn delio gyda chwynion gorfodi mewn modd teg, rhesymol a chyson
  • Manylu ar y safonau gwasanaeth yr ydym ni’n ymdrechu i’w cyflawni er mwyn sicrhau bod cwynion gorfodi’n derbyn sylw yn brydlon, a bod achwynwyr yn cael gwybod beth yw canlyniad ymchwiliadau o’r fath ar adegau priodol

Fe’ch anogir i ddarllen y Siarter Gorfodi Cynllunio cyn cysylltu â’r Cyngor ynghylch unrhyw fater gorfodi cynllunio. 

Sut mae Cyflwyno Cwyn Gorfodi

Os byddwch chi’n amau bod y rheolau cynllunio wedi cael eu torri, bydd y Cyngor yn derbyn cwynion mewn unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:

Ar-lein

Dyma’r dull o gysylltu rydym ni’n ei ffafrio gan ei fod yn caniatáu i achwynwyr ddarparu gwybodaeth lawn, a lanlwytho unrhyw ffotograffau perthnasol ac ati a allai fod o gymorth yn ein hymchwiliad ac arwain at ddatrys cwyn yn gynt.

Cyfarwyddiadau i SA11 2GG
Rheolwr Datblygu – Cynllunio
Y Ceiau, Ffordd Brunel, Castell-nedd SA11 2GG pref
(01639) 686779 (01639) 686779 voice +441639686779

Er ein bod bob amser yn ceisio sicrhau bod achwynwyr yn darparu manylion eu cwyn yn ysgrifenedig gan ddefnyddio un o’r dulliau uchod, byddwn hefyd yn derbyn manylion dros y ffôn ar 01639 686779.

Manylion achwynwyr/cwynion di-enw

I’n galluogi i ymchwilio i’ch cwyn, dylech nodi eich enw a manylion cyswllt. Gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd manylion yr achwynydd yn parhau’n gyfrinachol ac na fyddant ar gael i’r cyhoedd (er y dylech sylwi ar y cyngor yn adran 7 o’r Siarter Gorfodi Cynllunio ynghylch sut bydd yr Awdurdod yn delio gyda cheisiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth/Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol).

 Yn y rhan fwyaf o achosion ni fyddwn yn ymchwilio i gwynion di-enw.