Ffurflenni ceisiadau cynllunio
Gwneud cais
Y ffordd hawsaf o wneud cais am ganiatâd cynllunio yw ar-lein trwy ddefnyddio Ceisiadau Cynllunio Cymru.
Mae’r gwasanaeth ar-lein yn helpu’n awtomatig i benderfynu pa fath o ganiatâd cynllunio sydd ei angen, ac felly’n lleihau’r risg bod cais yn cael ei gyflwyno ar y ffurflen anghywir, ac yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd cais dilys yn cael ei gyflwyno y tro cyntaf. Mae hyn o fudd i’r ymgeisydd ac i staff yr Awdurdod sy’n prosesu’r cais, gan arwain yn y pen draw at gyflymu’r penderfyniad.
Ffurflenni cais
Mae ffurflenni cais cynllunio y gellir eu hargraffu a nodiadau canllaw ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae ceisiadau papur a chanllawiau ar gyfer:
Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon
Os caiff cais cynllunio ei gyflwyno ar gyfer cynnig, ac yn cael ei nodi fel datblygiad a ganiateir, gofynnir i'r ymgeisydd gwblhau ffurflen gais Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon, cyflwyno'r ffi amgen ostyngedig (dychwelir y ffi wreiddiol iddynt) a phenderfynir ar y cais fel Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon. Yna bydd gan y datblygwr y fantais penderfyniad cyfreithiol o ran statws cynllunio'r datblygiad. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd cyfreithiol iddo yn y dyfodol, megis pan fydd yn barod i werthu'r eiddo.
Gweithio am fwynau, sylweddau peryglus a gwrychoedd uchel
Gweithio am fwynau
Llawrlwythiadau
-
Mineral exploration prior notification form (PDF 70 KB)
-
Application for planning permission for the winning and working of minerals by underground operations (PDF 57 KB)
-
Standard mineral application form (PDF 231 KB)
-
Certificate pack (for certificates A-D inc. agricultural holding) (PDF 37 KB)
-
Notice under Article 10 (PDF 31 KB)