Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cyngor datblygu mawr

Ymgynghoriad Gorfodol cyn Cyflwyno Cais (a.17 Deddf Cynllunion (Cymru) 2015)

Ar gyfer yr holl geisiadau am ddatblygiad 'sylweddol' a gyflwynir ar ôl 1 Awst 2016, mae gofyniad statudol bod yr ymgeisydd/datblygwr yn ymgynghori â'r gymuned a'r ymgyngoreion statudol perthnasol, ac i gyflwyno Adroddiad Ymgynghori Cyn-Ymgeisio gydag unrhyw gais.

Gweler cyngor manwl - gwefan Llywodraeth Cymru

Cael trafodaethau cyn-ymgeisio gyda'r Cyngor

Nid yw'r Adran Cynllunio yn rhan o'r "ymgynghoriad cyn-ymgeisio" uchod ond mae'n annog darpar ymgeiswyr i gael trafodaethau cyn-ymgeisio gyda'r adran Cynllunio cyn cynnal ymgynghoriad o'r fath â'r gymuned. Os ydych am dderbyn cyngor cyn-ymgeisio ffurfiol gan yr Adran Cynllunio, ewch i'n tudalennau cyn-ymgeisio sy'n rhoi gwybodaeth am y gwasanaethau rydym ni'n eu cynnig a thaliadau perthnasol Ymholiadau Cyn-Ymgeisio.

Hysbysiad o fwriad i gychwyn datblygiad sylweddol

Mae bellach yn ofyniad statudol i hysbysu'r Cyngor am y bwriad i gychwyn gwaith, ac i arddangos Hysbysiad Safle, ar gyfer holl ddatblygiadau sylweddol a gymeradwyir ar ôl 16 Mawrth 2016.

Gallwch lawrlwytho'r ffurflenni canlynol i'ch cynorthwyo:

Hysbysiad o fwriad i gychwyn datblygiad sylweddol

  • Notice of Development Commencing (to be sent to Planning Dept) (DOCX 19 KB)
  • Example of Site Notice (to be displayed on site whilst development takes place) (DOCX 17 KB)
Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau

Gellir dod o hyd i arweiniad manwl ar Weithdrefnau Rheoli Datblygiad ar wefan Llywodraeth Cymru:

Diwygiadau ar ôl cyflwyno cais

O 16 Mawrth bydd yn rhaid i unrhyw ymgeisydd sydd wedi cyflwyno cais cynllunio sylweddol, sydd am ei ddiwygio, dalu ffi o £190 wrth gyflwyno diwygiad.

Mae Gorchymyn 5 Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref 2016 (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygiad) yn gosod gorchymyn 16(A) [Ffïoedd am ddiwygiadau a wnaed ar ôl cyflwyno cais] yn y Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref 2015 (Ffïoedd ar gyfer Ceisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) am daliad o £190.