Datganiad I'r Wasg
-
Paratoadau olaf ar gyfer Ffair Medi Fawr Castell-nedd 2024!09 Medi 2024
Mae'r trefniadau terfynol wrthi'n cael eu gwneud ar gyfer Ffair Medi Fawr hanesyddol Castell-nedd – un o'r ffeiriau siarter hynaf yn Ewrop.
-
Cynllun Cydraddoldeb Strategol ‘Byddwn yn Deg’ wedi’i fabwysiadu gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot09 Medi 2024
Mewn cyfarfod llawn o Gyngor Castell-nedd Port Talbot ar 4 Medi, 2024, mabwysiadodd yr aelodau Gynllun Cydraddoldeb Strategol yr awdurdod (2024-2028) o'r enw ‘Byddwn yn Deg’ yn ffurfiol.
-
Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn Trafod Dyfodol Gwasanaethau Hamdden Dan Do06 Medi 2024
Bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn trafod dyfodol ei wasanaethau hamdden dan do yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu ar Addysg, Sgiliau a Llesiant ddydd Iau, 12 Medi.
-
Y Cyngor yn cyhoeddi y bydd yn cynyddu capasiti er mwyn ymateb i gau'r pen trwm yn Tata04 Medi 2024
Rhoddwyd gwybod i aelodau Cyngor Castell-nedd Port Talbot mewn cyfarfod o'r Cyngor llawn ar 4 Medi 2024 y bydd y Cyngor yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi busnesau a phobl y bydd newidiadau yn Tata Steel UK Ltd yn effeithio arnynt yn dilyn cyhoeddiad cyllid sylweddol a wnaed gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn 8fed cyfarfod Bwrdd Pontio Tata.
-
Annibyniaeth Ddigidol: Gwasanaeth CNPT yn helpu dros 300 o breswylwyr30 Awst 2024
Mae mwy na 300 o breswylwyr o Gastell-nedd Port Talbot wedi defnyddio gwasanaeth am ddim y bwriedir iddo eu helpu i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain gan ddefnyddio technoleg.
-
Yn dod yn fuan – parc chwarae antur newydd gwerth £210,000 i Draeth Aberafan gyda Chawr Cefnfor rhyfeddol29 Awst 2024
Mae parc chwarae antur fydd yn ‘gyrchfan’, a wnaed yn rhannol o wastraff wedi’i ailgylchu o’r cefnfor, ac yn cynnwys tŵr chwarae 8.9m o uchder gyda waliau dringo a llithren diwb gyffrous ar ei ffordd i Draeth Aberafan.
-
Cyngor i gynnal Digwyddiad Cefnogi Landlordiaid29 Awst 2024
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn bwriadu cynnal digwyddiad rhad ac am ddim ar gyfer landlordiaid sy’n gosod eiddo ar rent yn y fwrdeistref sirol. Nod y digwyddiad hwn yw rhannu gwybodaeth werthfawr ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael a’r cyfleoedd am gyllid.
-
Fan-tastic! Fflyd werdd gynyddol cyngor yn cyrraedd carreg filltir 50 cerbyd28 Awst 2024
Mae fflyd gynyddol Cyngor CASTELL-NEDD PORT TALBOT o gerbydau trydan ac allyriadau isel bellach wedi cyrraedd 50, wrth i’r cyngor barhau i wthio am ddyfodol glanach, gwyrddach.
-
Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU o Fudd i Gymunedau drwy Fuddsoddi mewn 16 o Brosiectau sy'n Seiliedig ar Sgiliau!23 Awst 2024
Bwriedir i gyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar gyfer prosiectau ledled Castell-nedd Port Talbot wella sgiliau craidd, cynorthwyo cynnydd y gweithlu, lleihau anweithgarwch economaidd, a mynd i'r afael â bylchau sgiliau lleol.
-
Ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dathlu canlyniadau TGAU22 Awst 2024
Mae disgyblion yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi cael eu gwobrwyo am eu hymdrechion â chanlyniadau sy'n rhoi adlewyrchiad llawn o'u hymrwymiad, eu penderfynoldeb a'u hymroddiad dros y blynyddoedd diwethaf. Mae perfformiad mewn cymwysterau TGAU a chymwysterau galwedigaethol yn 2024 yn dychwelyd i lefelau tebyg i'r rhai a welwyd cyn y pandemig, gyda'r rhan fwyaf o ddisgyblion Castell-nedd Port Talbot yn ennill o leiaf bum gradd TGAU A*-C neu raddau cyfatebol.