Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Fan-tastic! Fflyd werdd gynyddol cyngor yn cyrraedd carreg filltir 50 cerbyd

28 Awst 2024

Mae fflyd gynyddol Cyngor CASTELL-NEDD PORT TALBOT o gerbydau trydan ac allyriadau isel bellach wedi cyrraedd 50, wrth i’r cyngor barhau i wthio am ddyfodol glanach, gwyrddach.

Fflyd werdd gynyddol cyngor yn cyrraedd carreg filltir 50 cerbyd
Pin it!

Yn ogystal â faniau ysgafn a cheir cronfa, mae’r cerbydau gwyrdd bellach yn cynnwys peiriant sgubo heol 16-tunnell a cherbyd ailgylchu 12-tunnell, wrth i’r fflyd wasanaethu ystod eang o adrannau, o wastraff ac ailgylchu i wasanaethau cymdeithasol.

Ac mae gan y cyngor faes gwefru ynni solar yn ei swyddfeydd yn Y Ceiau ar Barc Ynni Baglan erbyn hyn, gyda chyfleusterau gwefru EV i’r cyhoedd ar gael hefyd ym Maes Parcio Aml-lawr Castell-nedd a Pharc Coedwig Afan.

Pwerir y maes gwefru yn y Ceiau gan ganopi solar mawr.

Yn ôl y Cynghorydd Wyndham Griffiths, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Gynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chysylltedd: “Mae’r garreg filltir hon yn dangos ein hymrwymiad ni i ddyfodol digarbon, ac i ddilyn ein strategaeth DARE (Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy).

“Rhaid i’n staff ni symud ar draws y fwrdeistref sirol, boed hynny er mwyn casglu ailgylchu, ymweld ar ran y gwasanaethau cymdeithasol, neu ddarparu’r ystod enfawr o wasanaethau eraill a ddarperir gennym bob wythnos o’r flwyddyn.

“Rydyn ni bellach yn symud i gyfeiriad ffordd lanach, wyrddach, o symud ein staff o gwmpas. Mae llai o allyriadau carbon deuocsid, a dim llygredd awyr ar y pwynt defnyddio, ynghyd â manteision eraill fel costau yswiriant is a llai o dreth cerbyd ar gyfer cerbydau EV pur, yn golygu ein bod ni’n cyfrannu at Gastell-nedd Port Talbot glanach a gwyrddach.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Scott Jones, yr Aelod Cabinet dros Strydlun: “ Wrth i ni gaffael mwy a mwy o gerbydau trydan ac allyriadau isel, bydd gan ein casgliadau gwastraff dyddiol o gartrefi preswylwyr ôl troed carbon llai a llai.

“Mae’r ffaith fod y rhan fwyaf o’n cerbydau’n gallu ailwefru dan ganopi solar hefyd yn newyddion da i’r amgylchedd, ac i’r fwrdeistref sirol drwyddi draw.”

Cyfleusterau gwefru Cerbydau Trydan Cyhoeddus ym Maes Parcio Aml-lawr Castell-nedd
Pin it!