Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau 2024/25

Llunnir y Cynllun hwn o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 mewn perthynas â Rheoliadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol sy'n berthnasol i daliadau a wneir i Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig awdurdodau lleol ac a fydd ar waith o 1 Ebrill 2024 tan 31 Mawrth 2025.

1. Cyflog Sylfaenol

1.1 Bydd Cyflog Sylfaenol yn cael ei dalu i bob Aelod etholedig o'r Awdurdod.

1.2 Yn unol â'r Rheoliadau, bydd cyfradd y Cyflog Sylfaenol yn cael ei hadolygu'n flynyddol fel y'i pennir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

1.3 Pan fydd cyfnod swydd Aelod yn dechrau neu'n gorffen ar adeg heblaw am ddechrau neu ddiwedd blwyddyn, bydd ganddo hawl i'r Cyflog Sylfaenol ar sail pro rata.

1.4 Ni fydd mwy nag un Cyflog Sylfaenol yn daladwy i Aelod o'r Awdurdod.

2. Cyflogau Uwch a Chyflogau Dinesig

2.1 Telir Cyflog Uwch i Aelodau sy'n dal swyddi penodol fel y'i pennir yn Atodlen 4.

2.2 Yn unol â'r Rheoliadau, bydd cyfraddau Cyflogau Uwch a Chyflogau Dinesig yn cael eu hadolygu'n flynyddol fel y'u pennir gan adroddiad blynyddol neu atodol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

2.3 Ni ellir talu Cyflog Uwch a Chyflog Dinesig i Aelod o'r Awdurdod.

2.4 Mae'r holl Gyflogau Uwch a Dinesig yn cynnwys Cyflog Sylfaenol.

2.5 Ni ellir talu Cyflog Uwch i fwy na nifer yr Aelodau a bennir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn ei adroddiad blynyddol ac mae'n rhaid cadw at yr egwyddorion canlynol:

  • Ni all cyfanswm nifer y cyflogau uwch fod yn fwy na 50% o'r aelodaeth.
  • Bydd yn rhaid i geisiadau gael eu cymeradwyo’n gyffredinol gan yr Awdurdod (ni ellir dirprwyo hyn) cyn eu cyflwyno i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
  • Rhaid cyflwyno tystiolaeth eglur bod y swydd/swyddi yn cynnwys cyfrifoldeb ychwanegol a ddangosir drwy ddisgrifiad o'r rôl, y diben a'r hyd.
  • Bydd yn rhaid i bob cais nodi pryd cynhelir adolygiad ffurfiol o'r rôl i'w ystyried yn gyffredinol gan yr Awdurdod.

2.6 I Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, caniateir i 18 o Aelodau dderbyn Cyflogau Uwch ar hyn o bryd, ac eithrio swyddi'r Maer a'r Dirprwy Faer.

2.7 Ni all Aelod o'r Awdurdod sy'n derbyn Cyflog Uwch dderbyn cyflog gan unrhyw awdurdod parc cenedlaethol nac awdurdod tân ac achub y mae wedi'i enwebu ar ei gyfer.

2.8 Pan fydd cyfnod Cyflog Uwch neu Gyflog Dinesig Aelod yn dechrau neu'n gorffen ar adeg heblaw am ddechrau neu ddiwedd blwyddyn, bydd ganddo hawl i'r cyflog ar sail pro rata.

2.9 Os oes trefniadau ar y cyd, telir Cyflog Uwch y Cadeirydd (os telir) gan Awdurdod y Cadeirydd ei hun (er y gellir ei ddosrannu ymysg yr awdurdodau sy'n cymryd rhan) ond ni chaiff ei gynnwys yn uchafswm Cyflogau Uwch y Cyngor hwnnw.

2.10 Telir Cyflog Uwch i Arweinydd yr wrthblaid fwyaf ar yr amod bod y grŵp gwleidyddol yn cynnwys 10% neu fwy o aelodaeth y Cyngor. Telir Cyflog Uwch i'r grŵp gwleidyddol mwyaf ond dau, eto ar yr amod bod ei aelodaeth yn cynnwys 10% o gyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor.

2.11 Mater i'r Cyngor, yn ôl y disgresiwn cyfyngedig a roddir iddo gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol o ran Cadeiryddion Pwyllgorau, fydd penderfynu ar y rolau a fydd yn derbyn y Cyflog Uwch.

Cyflogau Uwch Penodol neu Ychwanegol

2.12 Fel Prif Gyngor cymwys, gall yr Awdurdod wneud cais i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer Cyflogau Uwch penodol neu ychwanegol nad ymdrinnir â hwy yn y fframwaith taliadau presennol, neu na ellid eu cynnwys yn uchafswm nifer y cyflogau uwch sy'n ymwneud â'r Awdurdod. Os bydd cymeradwyo ychwanegiad arfaethedig yn arwain at dorri trothwy’r Cyngor, bydd hyn yn cael ei gynnwys yn y gymeradwyaeth.

3.Dewis Gwrthod yr Hawl i Lwfans

3.1 Gall Aelod, drwy hysbysu Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol yr Awdurdod yn ysgrifenedig, ddewis gwrthod unrhyw ran o'i hawl i unrhyw gyflog, lwfans neu ffi sy'n daladwy dan y cynllun hwn, o'r dyddiad a nodir yn yr hysbysiad. Rhaid i Aelodau sy'n dymuno gwrthod unrhyw hawl roi rhybudd ysgrifenedig ym mhob blwyddyn ddinesig am yr elfennau y maent am eu gwrthod.

4. Gwahardd Aelod

4.1 Os caiff Aelod o'r Awdurdod ei wahardd neu ei wahardd yn rhannol o'i gyfrifoldebau neu'i ddyletswyddau fel Aelod o'r Awdurdod yn unol â Rhan III Deddf Llywodraeth Leol 2000 (Ymddygiad Aelodau), neu reoliadau a wneir o dan y ddeddf, bydd y rhan o'r Cyflog Sylfaenol sy'n daladwy iddo am gyfnod y gwaharddiad yn cael ei hatal gan yr Awdurdod (Adran 155 (1) Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011).

4.2 Pan fydd Aelod sy'n derbyn Cyflog Uwch yn cael ei wahardd neu ei wahardd yn rhannol rhag bod yn Aelod o'r Awdurdod yn unol â Rhan III Deddf Llywodraeth Leol 2000 (Ymddygiad Aelodau), neu reoliadau a wneir o dan y Ddeddf, rhaid i'r Awdurdod beidio â thalu Cyflog Uwch yr Aelod drwy gydol cyfnod y gwaharddiad (Adran 155 (1) Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011). Os yw'r gwaharddiad rhannol yn berthnasol i elfen cyfrifoldeb penodol y taliad yn unig, gall yr Aelod gadw'r Cyflog Sylfaenol.

5. Ffïoedd

5.1 Telir pob lwfans gan y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol drwy gredyd banc uniongyrchol mewn rhandaliadau gwerth deuddegfed o hawl flynyddol yr Aelod ar 28ain niwrnod pob mis (yn amodol ar addasiadau ar gyfer gwyliau banc a phenwythnosau).

5.2 Os yw Aelod wedi derbyn taliad sy'n fwy na'i hawl i gyflog, lwfans neu ffi, bydd yr Awdurdod yn mynnu bod y gordaliad yn cael ei ad-dalu.

5.3 Mae pob taliad yn amodol ar y didyniadau treth ac Yswiriant Gwladol a'r cyfraniadau pensiwn priodol.

6. Ad-dalu Costau Gofal

6.1 Telir Lwfans Gofal i Aelod neu Aelod Cyfetholedig sy'n gyfrifol am ofalu am blant neu oedolion dibynnol, neu am anghenion cymorth personol, ar yr amod bod y treuliau'n deillio o ddarparu gofal o'r fath wrth i'r Aelod gyflawni dyletswyddau'r cyngor 'sydd wedi'u cymeradwyo'. Bydd treuliau angenrheidiol gofalu am blant ac oedolion dibynnol yn cael eu had-dalu fel a ganlyn:

  • Costau gofal ffurfiol (wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru) i'w talu yn unol â'r dystiolaeth.
  • Caiff costau gofal anffurfiol (heb eu cofrestru) eu talu hyd at uchafswm cyfradd sy'n cyfateb i Gyflog Byw Gwirioneddol y DU ar yr adeg yr eir i'r costau. Er eglurhad, ni ellir talu costau gofal i rywun sy'n rhan o aelwyd Aelod.

Dim ond ar ôl i'r gofalwr gyflwyno derbynebau y rhoddir ad-daliadau.

6.2    Ni thelir y Lwfans Gofal:-

  • O ran unrhyw blentyn dros 15 oed, ond gall fod yn daladwy i Aelod sy'n ceisio hawlio lwfans o'r fath ar gyfer plentyn 15 oed neu’n hŷn neu oedolyn dibynnol os bydd yr Aelod yn darbwyllo'r Cyngor bod angen goruchwyliaeth ar y plentyn neu'r oedolyn dibynnol sydd wedi arwain at dreuliau i'r Aelod a oedd yn angenrheidiol er mwyn gofalu am y plentyn neu'r oedolyn dibynnol wrth gyflawni dyletswyddau'r Aelod fel Aelod; Neu
  • I fwy nag un Aelod o'r Awdurdod o ran gofalu am yr un plentyn neu unigolyn dibynnol; Neu
  • Ni thelir mwy nag un Lwfans Gofal i unrhyw Aelod o'r Awdurdod na all ddarbwyllo'r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol yn rhesymol fod yn rhaid i'r Aelod wneud trefniadau ar wahân er mwyn gofalu am blant neu oedolion dibynnol gwahanol.

6.3 Dylid cyflwyno pob hawliad am gostau gofal yn ysgrifenedig i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, gan nodi'r amserau, y dyddiadau a'r rhesymau dros yr hawliad. Mae angen derbynebau ar gyfer trefniadau gofal anffurfiol a ffurfiol.

7. Absenoldeb Teuluol

7.1 Yn ôl darpariaethau Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013, mae gan Aelodau'r hawl i gyfnod o absenoldeb teuluol o gyfarfodydd yr Awdurdod os byddant yn bodloni'r amodau rhagnodedig (ac eithrio absenoldebau oherwydd afiechyd).

7.2 Wrth gymryd absenoldeb teuluol o fusnes swyddogol yn ystod cyfnodau mamolaeth, babi newydd, mabwysiadu ac absenoldeb rhiant, mae gan Aelodau'r hawl i gadw Cyflog Sylfaenol, ni waeth am eu cofnod presenoldeb yn syth cyn dechrau'r absenoldeb teuluol. Mae'n rhaid i Aelodau hysbysu Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd am absenoldebau o'r fath.

7.3 Os bydd deiliad Cyflog Uwch yn gymwys ar gyfer absenoldeb teuluol, gall barhau i dderbyn ei Gyflog Uwch drwy gydol ei absenoldeb.

7.4 Os bydd yr Awdurdod yn cytuno bod angen penodi rhywun i gyflenwi yn ystod absenoldeb teuluol deiliad Cyflog Uwch, bydd gan yr Awdurdod yr hawl i dalu Cyflog Uwch i'r Aelod sy'n dirprwyo. Bydd yn rhaid i'r Cyngor roi gwybod i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol o fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud penderfyniad o'r fath, a bydd yn rhaid diwygio'r Atodlen i adlewyrchu goblygiadau'r absenoldeb teuluol.

7.5 Os bydd nifer Cyflogau Uwch yr Awdurdod yn fwy na'r uchafswm o ganlyniad i dalu rhywun i gyflenwi, ychwanegir at yr uchafswm a ganiateir drwy gydol y cyfnod cyflenwi.

7.6 O ran cyfnod o absenoldeb teuluol, erys y cyflog (o ran Aelod ac Aelod Cyfetholedig) neu'r Cyflog Uwch yn daladwy, ond ni fydd hynny'n wir os bydd yr Aelod neu'r Aelod Cyfetholedig yn cael ei wahardd.

8. Absenoldeb Salwch ar gyfer Deiliaid Cyflog Uwch

8.1 Diffinnir absenoldeb salwch tymor hir yn achos deiliaid cyflog uwch fel absenoldebau ardystiedig o fwy na phedair wythnos.

8.2 Yr uchafswm hyd a ganiateir o ran absenoldeb salwch dan y cynigion hyn yw 26 wythnos neu nes i gyfnod swydd yr unigolyn ddod i ben, p'un bynnag sy'n gyntaf (ond os caiff ei ailbenodi, bydd unrhyw amser sy'n weddill o'r 26 wythnos yn cael ei gynnwys).

8.3 Yn unol â'r paramedrau hyn, gall yr Awdurdod barhau i dalu deiliad Cyflog Uwch am ei swydd yn ystod absenoldeb salwch tymor hir, os bydd yn penderfynu gwneud hynny.

8.4 Os bydd yr Awdurdod yn penderfynu y dylid penodi rhywun fel dirprwy, bydd yr unigolyn hwnnw’n gymwys i dderbyn y Cyflog Uwch sy'n briodol i'r swydd.

8.5 Os bydd nifer Cyflogau Uwch yr Awdurdod yn fwy na'r uchafswm o ganlyniad i dalu rhywun i gyflenwi, ychwanegir at yr uchafswm a ganiateir drwy gydol y cyfnod cyflenwi. Ni fyddai hyn yn berthnasol yn achos Aelod Gweithredol o'r Cyngor petai'n arwain at fwy na 10 swydd yn y Cabinet.

8.6 Os bydd Awdurdod yn cytuno i dalu rhywun i gyflenwi yn lle rhywun arall, bydd yn rhaid rhoi'r manylion i'r panel o fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud y penderfyniad, gan gynnwys y swydd benodol a hyd bras y cyfnod cyflenwi. Bydd yn rhaid addasu Atodlen Cydnabyddiaeth Ariannol yr Awdurdod yn briodol hefyd.

8.7 Nid yw'r darpariaethau hyn yn berthnasol i Aelodau Etholedig Prif Gynghorau nad ydynt yn ddeiliaid uwch-swyddi gan eu bod yn parhau i dderbyn Cyflog Sylfaenol am o leiaf chwe mis, ni waeth am eu presenoldeb, ac mae unrhyw estyniad y tu hwnt i'r terfyn hwn yn fater i'r awdurdod. Yn ogystal, nid yw'r darpariaethau hyn yn berthnasol i Aelodau Cyfetholedig.

9. Taliadau Aelodau Cyfetholedig

9.1 Telir ffi ddyddiol Aelod Cyfetholedig (gan gynnwys darpariaeth ar gyfer taliadau hanner diwrnod) i Aelodau Cyfetholedig, os bydd ganddynt yr hawl i bleidleisio.

9.2 Bydd taliadau'n ystyried amser teithio i leoliad y cyfarfod ac oddi yno, amser rhesymol ar gyfer paratoi cyn y cyfarfod a hyd y cyfarfod (hyd at yr uchafswm dyddiol).

9.3 Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fydd y "swyddog priodol". Bydd yn pennu amser paratoi, amser teithio a hyd cyfarfod. Telir y ffi ar sail y penderfyniad hwn.

9.4 Gall Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd bennu ymlaen llaw a drefnir cyfarfod ar gyfer diwrnod llawn, a thelir y ffi ar sail y penderfyniad hwn hyd yn oed os bydd y cyfarfod yn gorffen o fewn pedair awr.

9.5 Diffinnir cyfarfod hanner diwrnod fel un sy'n para hyd at 4 awr.

9.6 Diffinnir cyfarfod diwrnod llawn fel un sy'n para dros 4 awr.

9.7 Nodir y ffi ddyddiol a'r ffi hanner diwrnod ar gyfer Cadeiryddion y Pwyllgor Safonau a'r Pwyllgor Archwilio, fel y'u pennir gan y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol, yn Atodlen 4.

9.8 Nodir y ffi ddyddiol a'r ffi hanner diwrnod ar gyfer Aelodau Cyfetholedig statudol eraill sydd â'r hawl i bleidleisio, fel y'u pennir gan y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol, yn Atodlen 4.

9.9 Yr Awdurdod sy'n pennu uchafswm nifer y diwrnodau y gellir talu Aelodau Cyfetholedig amdanynt, a gellir eu talu am gyfarfodydd, seminarau, digwyddiadau hyfforddi a chyfarfodydd briffio â swyddogion. Mae'r Cyngor wedi pennu y ceir taliad am bob cyfarfod, seminar, digwyddiad hyfforddi a chyfarfod briffio â swyddogion sydd wedi'u cymeradwyo.

10. Lwfansau Teithio a Chynhaliaeth 

10.1 Egwyddorion Cyffredinol

10.2 Gall Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig hawlio treuliau teithio wrth deithio ar fusnes yr awdurdod i gyflawni ‘dyletswyddau sydd wedi'u cymeradwyo’ fel y'u pennir yn Atodlen 1. Pan fydd Aelodau'n teithio ar fusnes yr awdurdod, disgwylir iddynt ddefnyddio'r modd mwyaf costeffeithiol o deithio. Wrth asesu a yw rhywbeth yn gosteffeithiol, rhoddir ystyriaeth i amser teithio. Gellir gostwng hawliad Aelod nad yw'n defnyddio'r modd mwyaf costeffeithiol o deithio, a hynny o swm priodol.

10.3 Lle bo'n bosib, dylai Aelodau rannu cludiant. 

10.4 Dylai'r hawl i gostau teithio ymwneud â'r daith resymol fyrraf ar y ffordd o'r man gadael i'r man lle caiff y ddyletswydd ei chyflawni, ac yn yr un modd o'r man lle caiff y ddyletswydd ei chyflawni i'r man dychwelyd.

10.5 Nodir cyfraddau lwfansau teithio a chynhaliaeth Aelodau yn Atodlen 2 ac maent yn amodol ar adolygiad blynyddol gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

10.6 Os caiff Aelod ei wahardd neu ei wahardd yn rhannol o'i gyfrifoldebau neu ei ddyletswyddau fel Aelod o'r Awdurdod yn unol â Rhan III Deddf Llywodraeth Leol 2000 (Ymddygiad Aelodau), neu reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf, bydd yn rhaid i'r Awdurdod atal unrhyw lwfansau teithio a chynhaliaeth sy'n daladwy iddo o ran cyfnod ei waharddiad neu ei waharddiad rhannol.

11. Teithio mewn Cerbyd Preifat

11.1 Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi pennu y dylai'r uchafswm cyfraddau teithio sy'n daladwy fod ar y cyfraddau a nodir gan Refeniw a Thollau Ei Fawrhydi ar gyfer defnyddio ceir preifat, beiciau modur a beiciau pedal, yn ogystal ag unrhyw ychwanegiad ar gyfer teithwyr.

11.2 Nodir y cyfraddau milltiredd ar gyfer cerbydau preifat a bennir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn Atodlen 2.

11.3 Os bydd Aelod yn defnyddio ei gerbyd preifat at ddibenion dyletswyddau sydd wedi'u cymeradwyo, bydd yn rhaid i'r cerbyd gael ei yswirio at ddefnydd busnes. Rhaid darparu prawf o yswiriant priodol i'r Awdurdod ar gais.

12. Teithio ar Gludiant Cyhoeddus

12.1 Teithio ar y Trên/Bws

12.2 Oni bai y cymeradwyir yn wahanol, dylai Aelodau brynu tocynnau trên ail ddosbarth a sicrhau bob amser eu bod yn dewis y modd mwyaf costeffeithiol o deithio.

12.3 Os cymeradwyir y daith berthnasol, bydd y Gwasanaethau Democrataidd yn prynu'r tocynnau trên a bws angenrheidiol ar gyfer Aelodau cyn y daith. Os bydd angen i Aelod brynu tocyn yn uniongyrchol, caiff ei ad-dalu ar ôl cyflwyno'r tocyn a ddefnyddiwyd a/neu dderbynneb.

12.4 Ffïoedd Tacsi

Ad-delir ffïoedd tacsi os cymeradwyir ei ddefnyddio mewn argyfwng yn unig, pan na fydd cludiant cyhoeddus ar gael yn rhesymol, neu os oes gan Aelod angen personol penodol. Gwneir ad-daliad ar ôl i dderbynneb gael ei chyflwyno'n unig.

12.5 Ffïoedd Awyr

Caniateir teithio ar awyren os mai dyna'r modd mwyaf costeffeithiol o deithio. Bydd angen cymeradwyaeth gan y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, a bydd y Gwasanaethau Democrataidd yn prynu'r tocynnau.

13. Teithio Dramor

Caniateir teithio dramor ar fusnes yr Awdurdod pan gaiff ei awdurdodi gan y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol yn unig. Bydd y Gwasanaethau Democrataidd yn gwneud y trefniadau teithio a llety.

14. Treuliau Teithio Eraill

Bydd gan Aelodau'r hawl i dderbyn ad-daliad o ran tollau, ffïoedd parcio, defnyddio garej dros nos, a threuliau teithio angenrheidiol cysylltiedig eraill. Gwneir ad-daliad ar ôl i dderbynneb gael ei chyflwyno'n unig.

15. Llety Dros Nos

15.1 Caniateir aros dros nos pan fydd busnes yr awdurdod yn para am ddau ddiwrnod neu fwy'n unig, neu pan fydd pellter y lleoliad yn ddigon i sicrhau y byddai teithio'n gynnar yn y bore neu'n hwyr yn y nos yn afresymol. Bydd yn rhaid i bob enghraifft o aros dros nos gael ei chymeradwyo ymlaen llaw gan y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol.

15.2 Trefnir llety dros nos gan un o swyddogion y Gwasanaethau Democrataidd. Lle bo'n bosib, dylid talu neu anfonebu ymlaen llaw am lety dros nos.

15.3 Caniateir i Aelod drefnu llety dros nos yn uniongyrchol os bydd argyfwng yn unig. Gwneir ad-daliad ar ôl i dderbynneb gael ei chyflwyno'n unig a hynny ar lefel yr ystyrir ei bod yn rhesymol, na fydd yn fwy na'r cyfraddau a nodir yn Atodlen 2.

16. Lwfans Cynhaliaeth

16.1 Nodir y gyfradd cynhaliaeth ddyddiol i dalu am gostau prydau bwyd a lluniaeth mewn cysylltiad â dyletswyddau sydd wedi'u cymeradwyo (gan gynnwys brecwast pan na chaiff ei ddarparu fel rhan o lety dros nos) yn Atodlen 2. Mae'r uchafswm dyddiol yn cwmpasu cyfnod o 24 awr a gellir ei hawlio ar gyfer unrhyw bryd o fwyd sy'n berthnasol, os cyflwynir derbynneb/derbynebau i ategu'r hawliad hwnnw.

16.2 Ni ddarperir ar gyfer hawliadau cynhaliaeth yn y fwrdeistref sirol.

17. Cynllun Cefnogi

17.1 Yn ogystal â'r cyflog, mae'r Cyngor yn gweithredu Cynllun Cefnogi ar gyfer Aelodau Etholedig. Bydd y Cyngor yn talu lwfans cefnogi ar gyfradd safonol gwerth £200 y flwyddyn ar gyfer costau ffôn, band eang a chostau swyddfa eraill. Ni fydd y swm hwn yn berthnasol i Aelodau'r Cabinet gan fod ffonau symudol a dyfeisiau llaw ar gael iddynt, ynghyd â chyfleusterau swyddfa yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot.

18. Adroddiadau Blynyddol

18.1 Mae gan Aelodau'r cyfle i lunio adroddiad blynyddol yn unol â chynllun y cyngor sydd wedi'i gymeradwyo. Rhoddir cefnogaeth i Aelodau sydd am lunio adroddiadau o'r fath, gan gynnwys sicrhau bod y cyfleuster i gyhoeddi adroddiadau ar gael ar wefan y cyngor.

19. Hawliadau a Thaliadau

19.1 Rhaid cyflwyno pob hawliad i Adran Drysorlys y Gyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol erbyn yr 8fed o'r mis. Ni fydd hawliadau a gyflwynir ar ôl mwy na 90 niwrnod yn cael eu talu oni bai fod amgylchiadau esgusodol yn cyfiawnhau'r hawliad hwyr, a bydd yn rhaid i'r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol ei gymeradwyo.

19.2 Caiff lwfansau eu talu gan y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol drwy gredyd banc uniongyrchol ar yr 28ain diwrnod o bob mis (yn amodol ar addasiadau ar gyfer gwyliau banc a phenwythnosau).

19.3 Os bydd talu rhandaliad yn sicrhau bod Aelod yn derbyn mwy na'i hawl oherwydd newidiadau i'r rheoliadau neu amgylchiadau perthnasol eraill o'r fath, gostyngir y taliad yn briodol.     

19.4 Telir cyflog a lwfansau eraill i Aelodau dan y cynllun hwn drwy system gyflogres y cyngor. Ni ddarperir ar gyfer talu Aelodau drwy'r Gwasanaeth Arianwyr.

20. Pensiynau

20.1 Bydd yr Awdurdod yn galluogi ei Aelodau sy'n gymwys i ymuno â'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol fel y'i gweinyddir gan Gyngor Dinas a Sir Abertawe. Mae Cyflogau Sylfaenol a Chyflogau Uwch yn gymwys ar gyfer tâl pensiynadwy.

21. Cydymffurfio

21.1 Yn unol â'r rheoliadau, mae'n rhaid i'r Awdurdod gydymffurfio â gofynion y panel o ran monitro a chyhoeddi taliadau a wneir i Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig fel y’u nodir yn Atodlen 3.

22. Arall

22.1 Daeth cytundeb y gweithlu a gymeradwywyd gan undebau llafur a staff yn 2013 i ben ar 31 Mawrth 2018.

22.2 Atgoffir Aelodau bod hawliadau treuliau'n destun archwiliad mewnol ac allanol.

Atolden 1

Dyletswyddau sydd wedi’u cymeradwyo ar gyfer teithio a chynhaliaeth:

  • Bod yn bresennol yn un o gyfarfodydd yr Awdurdod neu un o bwyllgorau'r Awdurdod neu unrhyw gorff y mae'r Awdurdod yn gwneud penodiadau neu enwebiadau iddo neu un o bwyllgorau corff o'r fath;
  • Bod yn bresennol mewn cyfarfod unrhyw gymdeithas awdurdodau y mae'r Awdurdod yn aelod ohono;
  • Bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod arall a gymeradwyir gan yr Awdurdod, gan un o bwyllgorau'r Awdurdod, neu gan un o gyd-bwyllgorau'r Awdurdod ac o leiaf un Awdurdod arall;
  • Dyletswydd yr ymgymerir â hi at ddiben cyflawni swyddogaethau'r Cabinet, neu mewn cysylltiad â gwneud hynny;
  • Dyletswydd a gyflawnir yn unol â rheol sefydlog sy'n mynnu bod Aelod neu Aelodau'n bresennol pan agorir dogfennau tendro;
  • Dyletswydd yr ymgymerir â hi mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r Awdurdod sy'n grymuso'r Awdurdod neu sy'n gorfodi’r Awdurdod i arolygu mangre neu gymeradwyo arolygiad o'r fath;
  • Bod yn bresennol mewn unrhyw ddigwyddiad hyfforddi neu ddatblygu a gymeradwyir gan yr Awdurdod neu ei Gabinet;
  • Unrhyw ddyletswydd arall a gymeradwyir gan yr Awdurdod, neu unrhyw ddyletswydd arall o ddosbarth a gymeradwyir, yr ymgymerir â hi at ddiben cyflawni swyddogaethau'r Awdurdod neu unrhyw un o'i bwyllgorau, neu mewn cysylltiad â gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys presenoldeb Aelodau ar gais Cyfarwyddwr Corfforaethol (neu un o'r Penaethiaid Gwasanaeth yn ei absenoldeb) mewn cysylltiad â swyddogaethau'r Cyngor neu'r Weithrediaeth, gan gynnwys bod yn bresennol mewn cynadleddau, seminarau a chyrsiau fel cynrychiolydd awdurdodedig ar ran y Cyngor;
  • Nid yw 'bod yn bresennol' o reidrwydd yn cyfeirio at unrhyw un o swyddfeydd y Cyngor, er enghraifft mae gwahoddiad i fynd i gyfarfod, fforwm, digwyddiad, seminar, etc, yn ystod y dydd neu gyda'r hwyr mewn cysylltiad â swyddogaethau'r Cyngor yn dderbyniol, pan fo Cyfarwyddwr Corfforaethol neu Bennaeth Gwasanaeth yn ystyried y dylid cynrychioli'r Cyngor.

Atolden 2 

Cyfraddau Milltiredd

Cerbydau modur preifat o bob maint

  • Hyd at 10,000 o filltiroedd - 45 ceiniog y filltir
  • Dros 10,000 o filltiroedd - 25 ceiniog y filltir

Beiciau modur preifat

  • 24 ceiniog y filltir

Beiciau pedal

  • 20 ceiniog y filltir

Ychwanegiad ar gyfer teithwyr

  • 5 ceiniog y filltir

Ar gyfer teithiau allan sy'n fwy na 100 milltir, mae'n ofynnol i Aelodau sicrhau y defnyddir y dull mwyaf economaidd o deithio.

Ar gyfer teithiau y tu allan i Gastell-nedd Port Talbot, Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr, telir un hawliad milltiredd yn unig ar gyfer hyd at bedwar Aelod a/neu swyddog sy'n cyflawni'r un ddyletswydd sydd wedi'i chymeradwyo, oni bai fod hyn yn afresymol am resymau logistaidd, gweithredol neu economaidd; dan amgylchiadau o'r fath, bydd angen cael cymeradwyaeth benodol y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol.

Ni thelir treuliau teithio o ran 'dyletswyddau ward'.

Dylai pob hawliad milltiredd gynnwys derbynneb TAW am danwydd.

Lwfans Cynhaliaeth

Nid yw Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn mynnu bod awdurdodau lleol yn clustnodi'r uchafswm dyddiol (£28 y diwrnod) rhwng gwahanol brydau o fwyd, gan fod yr uchafswm dyddiol y gellir ei ad-dalu'n cwmpasu cyfnod o 24 awr a gellir ei hawlio am unrhyw bryd o fwyd pan fo'n berthnasol, os cyflwynir derbynebau i gyd-fynd â'r hawliad. Fodd bynnag, penderfynodd y Cyngor yn ei gyfarfod ar 24 Mawrth 2010 rannu'r gyfradd ddyddiol ar gyfer cynhaliaeth fel a ganlyn:

  • Brecwast - £6.88
  • Cinio - £9.49
  • Te - £3.73
  • Pryd gyda'r hwyr - £22.90

Ni chaniateir i gostau diodydd alcoholaidd gael eu had-dalu.

Ni fydd treuliau cynhaliaeth ar gyfer busnes swyddogol a gynhelir yn y sir neu'r Awdurdod yn cael eu had-dalu (yn unol â'r trefniant presennol). Nid yw hyn yn berthnasol i Aelodau Cyfetholedig neu'r sawl a benodir sy'n byw y tu allan i ffiniau'r Awdurdod.

Aros Dros Nos

Yr uchafswm lwfans ar gyfer aros dros nos yw £200 yn Llundain a £95 ym mhob man arall. Ceir taliad gwerth £30 y nos am aros dros nos gyda ffrindiau neu berthnasau. Ceir taliad gwerth £28 y dydd am brydau bwyd, gan gynnwys brecwast, lle nad yw'n cael ei ddarparu yn y tâl dros nos.

Fel arall, mewn amgylchiadau penodol, e.e. gwestai cynadledda neu os nad oes llety addas ar gael, gall llety dros nos gael ei drefnu ymlaen llaw a'i dalu gan yr Awdurdod uwchben y terfynau uchod, os bydd yn rhesymol ac y ceir cymeradwyaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol perthnasol.

Lwfans Aelodau Cyfetholedig

Bydd lwfans yn cael ei dalu i'r Aelodau Cyfetholedig sydd â'r hawl i bleidleisio ar y gyfradd a nodir isod:

Role Amount
Cadeirydd Pwyllgor Safonau a Phwyllgor Llywodraethu ac Archwilio​

£268

(4 awr y mwy)

£134

(hyd at 4 awr)
Aelodau Cyffredin Pwyllgorau Safonau sydd hefyd yn cadeirio Pwyllgor Safonau ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref

£238

(4 awr a mwy)

£119  

(hyd at 4 awr)
Aelodau Cyffredin Pwyllgorau Safonau, y Pwyllgor Craffu ar Addysg, y Pwyllgor Craffu ar Droseddu ac Anhrefn a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

£210  

(4 awr a mwy)

£105  

(hyd at 4 awr)
Cynghorwyr Cymuned a Thref sy'n Aelodau o Bwyllgorau Safonau Prif Gynghorau

£210

(4 awr a mwy)

£105

(hyd at 4 awr)

Gellir talu Aelodau Cyfetholedig am amser paratoi rhesymol cyn cyfarfodydd – gan gynnwys bod yn bresennol mewn cyfarfodydd pwyllgor, seminarau, hyfforddiant a chyfarfodydd â swyddogion.

Telir ar gyfradd hanner diwrnod am gyfarfodydd sy'n para hyd at bedair awr. Diffinnir cyfarfod diwrnod llawn fel un sy'n para dros bedair awr.

Atolden 3

Cydymffurfio

  • Bydd yr Awdurdod yn trefnu i gyhoeddi ar wefan y Cyngor y cyfanswm a delir i bob Aelod ac Aelod Cyfetholedig o ran cyflog, lwfansau, ffïoedd ac ad-daliadau erbyn 30 Medi fan bellaf ar ôl diwedd y flwyddyn dan sylw. Rhaid anfon copi hefyd at y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol erbyn yr un dyddiad cau. At ddibenion tryloywder, bydd hyn yn cynnwys cydnabyddiaeth ariannol am bob swydd gwasanaeth cyhoeddus a ddelir gan Aelodau Etholedig.
  • Bydd yr Awdurdod yn cyhoeddi datganiad ar wefan y Cyngor o gyfrifoldeb sylfaenol cynghorwr, a disgrifwyr rolau ar gyfer deiliaid swyddi cyflog uwch, a fydd yn nodi'n glir y dyletswyddau a ddisgwylir.
  • Bydd yr Awdurdod yn cyhoeddi ar wefan y Cyngor yr atodlen flynyddol o Gydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau erbyn 31 Gorffennaf fan bellaf yn y flwyddyn y mae'r atodlen yn berthnasol iddi.
  • Bydd yr Awdurdod yn anfon copi o'r atodlen at y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol erbyn 31 Gorffennaf fan bellaf yn y flwyddyn y mae'r atodlen yn berthnasol iddi.
  • Bydd yr Awdurdod yn cadw cofnodion presenoldeb Aelodau/Aelodau Cyfetholedig yng nghyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a phwyllgorau, a dyletswyddau eraill a gymeradwywyd y mae Aelod/Aelod Cyfetholedig yn hawlio ad-daliad yn eu cylch.
  • Bydd yr Awdurdod yn trefnu i gyhoeddi ar wefan y Cyngor adroddiadau blynyddol a lunnir gan Aelodau.
  • Pan fo'r Awdurdod yn cytuno i dalu rhywun i gyflenwi yn achos absenoldeb teuluol, bydd yn rhoi gwybod i'r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol am y manylion, gan gynnwys y swydd benodol a hyd y cyfnod cyflenwi, o fewn 14 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad.

Atolden 4

Y Cyflogau Sylfaenol a'r Cyflogau Uwch sy'n daladwy i Aeolodau'r Prif Gynghorah ym 2024/25

Bydd yr atodlen hon ar waith rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025

Cyflog Sylfaenol (yn daladwy i bob Aelod Etholedig) £18,666

Grŵp A Grŵp B Grŵp C
  • Caerdydd
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Caerffili
  • Sir Gâr
  • Conwy
  • Sir y Fflint
  • Gwynedd
  • Casnewydd
  • Neath Port Talbot
  • Sir Benfro
  • Powys
  • Bro Morgannwg
  • Wrecsam
  • Blaenau Gwent
  • Ceredigion
  • Sir Ddinbych
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Torfaen
  • Ynys Môn

Cyflogau Uwch (gan gynnwys Cyflog Sylfaenol)

Band 1

Grŵp A

Grŵp B Grŵp C

Arweinydd

£69,998

£62,998 £59,498

Dirprwy Arweinydd

£48,999

£44,099 £41,649

Band 2

Grŵp A

Grŵp B Grŵp C

Aelodau Gweithredol

£41,999

£37,799 £35,699

Band 3
Cadeiryddion pwyllgorau (os ceir cydnabyddiaeth ariannol): Level 1 - £27,999

Band 4
Arweinydd yr wrthblaid fwyaf - £27,999

Band 5
Arweinwyr grwpiau gwleidyddol eraill - £22,406

Ffïoedd ar gyfer Aelodau Cyfetholedig awdurdodau lleol (sydd â'r hawl i bleidleisio)

Rôl Swm
Cadeiryddion Pwyllgorau Safonau a Phwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio

£268

(4 awr mwy)

£134

(hyd at 4 awr)
Aelodau Cyffredin Pwyllgorau Safonau sydd hefyd yn cadeirio Pwyllgorau Safonau ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref

Ffi ddyddiol: £238

(4 awr mwy)

£119  

(hyd at 4 awr)
Aelodau Cyffredin Pwyllgorau Safonau; Pwyllgor Craffu ar Addysg; Pwyllgor Craffu ar Droseddu ac Anhrefn a Phwyllgor Archwilio

£210  

(4 awr mwy)

£105  

(hyd at 4 awr)
Cynghorwyr Cymuned a Thref sy'n Aelodau o Bwyllgorau Safonau Prif Gynghorau

£210

(4 awr mwy)

£105

(hyd at 4 awr)

Bydd cyflogau dinesig (os cânt eu talu) yn daladwy i Aelodau'r Prif Gynghorau fel a ganlyn:

Cydnabyddiaeth Ariannol i Arweinwyr Dinesig a Dirprwy Arweinwyr Dinesig

  • Arweinwyr Dinesig - £27,999
  • Dirprwy Arweinwyr Dinesig - £22,406

Atolden 5

Amserlen Cydnabyddiaeth Ariannol 2024-2025

Yn weithredol o 1 Ebrill 2024 – 31 Mawrth 2025

Cyflog sylfaenol blynyddol - £18,666

Aelodau etholedig canlynol yr Awdurdod:

  • Y Cynghorydd A Aubrey
  • Y Cynghorydd T Bowen
  • Y Cynghorydd W Carpenter
  • Y Cynghorydd H C Clarke
  • Y Cynghorydd C Clement Williams
  • Y Cynghorydd M Crowley
  • Y Cynghorydd A Dacey
  • Y Cynghorydd H Davies (Hayley)
  • Y Cynghorydd H Davies (Heath)
  • Y Cynghorydd O Davies
  • Y Cynghorydd R Davies
  • Y Cynghorydd S Freeguard
  • Y Cynghorydd N Goldup-John
  • Y Cynghorydd S Grimshaw
  • Y Cynghorydd M Harvey
  • Y Cynghorydd L Heard
  • Y Cynghorydd J Henton
  • Y Cynghorydd C James (Cathy)
  • Y Cynghorydd J Jones
  • Y CynghoryddL Jones
  • Y CynghoryddC Jordan
  • Y CynghoryddD Keogh
  • Y Cynghorydd T Latham
  • Y Cynghorydd C Lewis
  • Y Cynghorydd D Lewis (Suspended 9th July-8th November)
  • Y Cynghorydd A Lockyer
  • Y Cynghorydd A Lodwig
  • Y Cynghorydd R Mizen
  • Y Cynghorydd K Morris
  • Y Cynghorydd S Paddison
  • Y Cynghorydd M Peters
  • Y Cynghorydd P Rees
  • Y Cynghorydd S Renkes
  • Y Cynghorydd S Reynolds
  • Y Cynghorydd G Rice
  • Y Cynghorydd P Richards
  • Y Cynghorydd M Spooner
  • Y Cynghorydd D Thomas
  • Y Cynghorydd S Thomas
  • Y Cynghorydd D Whitelock
  • Y Cynghorydd L Williams
  • Y CynghoryddR Wood
  • Y Cynghorydd B Woolford

Aelodau sy'n gymwys I dderbyn lwfans gofal.

  • Costau gofal ffurfiol (wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru) i'w talu yn unol â'r dystiolaeth.
  • Caiff costau gofal anffurfiol (heb eu cofrestru) eu talu hyd at uchafswm cyfradd sy'n cyfateb i Gyflog Byw Gwirioneddol y DU ar yr adeg yr eir i'r costau.

Hawliadau Cyflogau Uwch (yn cynnwys Cyflog Sylfaenol)

Rôl Cynghorydd Cyflog Uwch Blynyddol
Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Gymunedau ac Arweinyddiaeth Strategol Y Cynghorydd S Hunt £62,998
Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet – Tai a Diogelwch Cymunedol Y Cynghorydd A Llewellyn £44,099
Aelod y Cabinet - Cyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol Y Cynghorydd S Knoyle £37,799
Aelod y Cabinet – Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar Y Cynghorydd Nia Jenkins £37,799
Aelod y Cabinet – Natur, Twristiaeth a Lles Y Cynghorydd C Phillips £37,799
Aelod y Cabinet – Newid yn yr Hinsawdd a Thwf Economaidd Y Cynghorydd J Hurley £37,799
Aelod y Cabinet –- Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Y Cynghorydd S Harris £37,799
Aelod y Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac Iechyd Y Cynghorydd J Hale £37,799
Aelod y Cabinet – Cynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chysylltedd Y Cynghorydd W Fryer Griffiths £37,799
Aelod y Cabinet - Strydlun Y Cynghorydd S Jones £37,799

Cadeirydd – Craffu ar Wasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol

Y Cynghorydd C Galsworthy £27,999
Cadeirydd – Craffu ar Addysg, Sgiliau a Lles Y Cynghorydd R Phillips £27,999
Cadeirydd - Craffu ar Wasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun Y Cynghorydd S Pursey £27,999
Cadeirydd – Cynllunio Y Cynghorydd J Jones £27,999
Cadeirydd – Cofrestru a Thrwyddedu Y Cynghorydd A Richards £27,999
Cadeirydd - Gwasanaethau Democrataidd Y Cynghorydd S Rahaman £27,999
Arweinydd yr Wrthblaid Fwyaf Y Cynghorydd R Jones £27,999

Gellir talu uchafswm o 18 o Gyflogau Uwch ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Hawl i Gyflogau Dinesig

Rôl Cynghorydd Cyflog Dinesig Blynyddol
Pennaeth Dinesig (Maer) Y Cynghorydd M Crowley £27,999
Dirprwy Bennaeth Dinesig (Dirprwy Faer) Y Cynghorydd W Carpenter £22,406

Entitlement fel Aelodau Cyfetholedig Statudol

Rôl Aelod Swm Lwfans Aelodau Cyfetholdeig
Cadeirydd – Pwyllgor Safonau L Fleet Ffi ddyddiol £268 / Ffi hanner diwrnod £134
Is-gadeirydd – Pwyllgor Safonau T Ward Ffi ddyddiol £210 / Ffi hanner diwrnod £105
Cadeirydd – Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio J Jenkins Ffi ddyddiol £268 / Ffi hanner diwrnod £134
Aelod Annibynnol – Pwyllgor Safonau D Lewis Ffi ddyddiol £210 / Ffi hanner diwrnod £105
Aelod Annibynnol - Pwyllgor Safonau A Davies Ffi ddyddiol £210 / Ffi hanner diwrnod £105
Aelod Cyngor Cymuned – Pwyllgor Safonau C Edwards Ffi ddyddiol £210 / Ffi hanner diwrnod £105
Aelodau Lleyg sy'n Pleidleisio – Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio A Bagley, M Owen, 1 vacancy Ffi ddyddiol £210 / Ffi hanner diwrnod £105
Aelodau Cyfetholedig sy'n Pleidleisio – Pwyllgor Addysg, Sgiliau a Lles A Amor, M Caddick, L Newman Ffi ddyddiol £210 / Ffi hanner diwrnod £105

Yn ôl adroddiad blynyddol 2024/25 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, dylai fod hyblygrwydd lleol i'r swyddog perthnasol benderfynu pryd bydd yn briodol rhoi cyfradd ddyddiol neu gyfradd hanner diwrnod ar waith, neu ddefnyddio cyfradd fesul awr os yw'n gwneud synnwyr cydgrynhoi nifer o gyfarfodydd byr ar gyfer Aelodau Cyfetholedig.