Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Tacsis a thrwyddedu preifat

Mae'r Awdurdod Trwyddedu'n gyfrifol am osod amodau a rhoi trwyddedau ar gyfer cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn gyfforddus a bod eu gyrwyr yn bobl addas a phriodol fel a nodwyd yn Neddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

Sut i gyflwyno cais

Mae'r Awdurdod Trwyddedu wedi mabwysiadu polisi trwyddedu tacsis sy'n cynnwys gwybodaeth am sut i wneud cais am drwydded a hefyd fanylion amodau ac amodau ar gyfer cerbydau, gyrwyr a gweithredwyr. 

Llenwch wiriad treth

Os ydych chi'n unigolyn, yn gwmni neu'n unrhyw fath o bartneriaeth mae'n rhaid i chi gwblhau gwiriad treth os ydych chi'n gwneud y canlynol:

  • adnewyddu trwydded
  • gwneud cais am yr un math o drwydded a oedd gennych yn flaenorol, a oedd wedi dod i ben llai na blwyddyn yn ôl
  • gwneud cais am yr un math o drwydded sydd gennych eisoes gydag awdurdod trwyddedu arall

Llenwch wiriad treth ar gyfer trwydded tacsi neu hurio preifat

Pan fyddwch wedi cwblhau’r gwiriad treth, byddwch yn cael cod sy’n 9 cymeriad. Dyma’ch cod gwirio treth. Rhaid i chi ei roi i ni gyda’ch cais am drwydded. Ni allwn prosesu’ch cais hebddo.

Llawrlwytho

  • Application form for a Hackney carriage and private hire vehicle licence - grant/renewal (DOCX 64 KB)
  • Application for vehicle operator's licence (PDF 164 KB)
  • Application for a transfer of vehicle (PDF 139 KB)
  • Medical report on an application for a driver's licence (PDF 256 KB)
  • Polisi trwyddedu tacsis (DOC 2.07 MB)
Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau