Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Polisi Gorfodi Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach

Dyddiad Diwygiedig: Mawrth 2023

Rhagarweiniad

Pwrpas y polisi hwn yw rhoi arweiniad ar gydymffurfio’n effeithlon â deddfwriaeth sy'n cael ei gorfodi gan y Gwasanaeth Safonau Iechyd Amgylcheddol a Masnach, gan leihau'r baich i'r Cyngor, unigolion, busnesau a sefydliadau eraill.

Wrth gyflawni eu swyddogaethau gorfodi, bydd y Gwasanaeth Safonau Iechyd Amgylcheddol a Masnach yn ymdrechu i gyflawni eu hamcanion i ddiogelu iechyd, diogelwch a lles economaidd preswylwyr, ymwelwyr a busnesau o fewn y Fwrdeistref Sirol.

Er mwyn cyflawni'r amcanion hyn, mae'r Gwasanaeth wedi ymrwymo i ddarparu cyngor, gwybodaeth ac addysg i ddefnyddwyr a busnesau a sicrhau yr ymdrinnir â diffyg cydymffurfio mewn modd agored, cyson, cymesur a theg. Mae'r Polisi Gorfodi hwn yn nodi'r egwyddorion a'r weithdrefn a fabwysiadwyd gan y Gwasanaeth mewn achosion o ddiffyg cydymffurfio a/neu weithgarwch anghyfreithlon gan fusnesau neu unigolion.

Bwriad y Polisi hwn yw darparu canllawiau i swyddogion, busnesau a defnyddwyr yn hytrach na gosod cyfres ragnodol o reolau. Ni ddylid dehongli unrhyw beth yn y Polisi hwn fel ei fod yn cyfyngu ar hawl y Cyngor i gymryd camau cyfreithiol neu gamau gorfodi eraill mewn achosion lle ystyrir ei fod er budd y cyhoedd.

Mae yna nodyn cyfarwyddyd polisi Gorfodi penodol (atodiad 1) yn ymwneud ag Atal a Rheoli Llygredd Awdurdodau Lleol (LAPPC) ac Atal a Rheoli Llygredd Integredig Awdurdodau Lleol (LA-IPPC). Mae hwn yn ymwneud â diogelu'r Amgylchedd ac atal niwed i iechyd pobl, yn enwedig drwy atal neu leihau’r sylweddau llygredig a ryddheir i'r aer (ar gyfer gosodiadau a reoleiddir gan LAPPC) ac i’r aer, y tir a dŵr (ar gyfer gosodiadau a reoleiddir gan LA-IPPC) yn sgil gweithgareddau penodol a ragnodir gan Atodlen 1, Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Mae yna nodyn cyfarwyddyd polisi Gorfodi penodol (atodiad 2) yn ymwneud â Deddf Diwygio Lesddaliad (Rhent Tir) 2022. Daeth y Ddeddf i rym ar 30 Mehefin 2022 a dyma’r ddeddfwriaeth fawr gyntaf i ddiwygio'r system lesddaliad ers cenhedlaeth gyfan. Mae'n golygu na fydd lesddeiliaid newydd a reoleiddir yn wynebu gorchmynion i dalu rhent tir ac mae ganddynt hawl i wrthod talu ar unrhyw orchymyn am unrhyw rent gwaharddedig.

Deunydd cyfeirio

Mae'r Gwasanaeth wedi ystyried y deunydd cyfeirio canlynol wrth weithredu'r Polisi Gorfodi hwn:

  1. Canllawiau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer Rhybuddion Syml i Droseddwyr sy'n Oedolion (Tachwedd 2013)
  2. Y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron 2013
  3. Cynllun Awdurdod Cartref LACORS gynt a Chynllun Prif Awdurdod y Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynhyrchion
  4. Cod y Rheoleiddwyr 2014
  5. Deddf Gorfodi a Sancsiynau Rheoleiddio 2008, fel y'i diwygiwyd
  6. Deddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006
  7. Codau Ymarfer Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid
  8. Datganiad Polisi Gorfodi’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
  9. Canllawiau Gorfodi System Sgorio Tai, Iechyd a Diogelwch Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog
  10. Polisi Gorfodi Rhentu Doeth Cymru 2017

Egwyddorion Sylfaenol

Mae gan y Gwasanaeth, fel corff gorfodi'r gyfraith, ddyletswydd i sicrhau cydymffurfiaeth â’r ystod eang o gyfreithiau sy'n ymwneud â gweithgarwch masnachu, iechyd y cyhoedd, llygredd, tai, iechyd a diogelwch, a diogelwch bwyd, gyda diogelu iechyd y cyhoedd a hyrwyddo arferion busnes da yn hollbwysig i’r broses o weithredu eu rolau gorfodi a rheoleiddio.

Cod y Rheoleiddwyr

Byddwn yn dilyn darpariaethau Cod y Rheoleiddwyr, wrth i ni:

  • gyflawni ein gweithgareddau i helpu busnesau i gydymffurfio a thyfu
  • darparu ffyrdd syml a hawdd eu deall o ymgysylltu â busnesau a byddwn yn gwrando ar eu barn
  • seilio ein gweithgareddau rheoleiddio ar risg
  • rhannu gwybodaeth am ddiogelwch a risg
  • darparu gwybodaeth, arweiniad a chyngor clir i helpu busnesau i gydymffurfio
  • sicrhau bod ein dull rheoleiddio’n dryloyw

Yn ogystal, mae ein polisi’n seiliedig ar rai egwyddorion sylfaenol eraill fel y nodir isod.

Cysondeb

Er mwyn sicrhau bod camau gorfodi’n cael eu gweithredu'n deg, mae'r Gwasanaeth wedi ymrwymo i sicrhau bod y polisi’n cael ei weithredu'n gyson ar bob lefel o fewn y Gwasanaeth o gynnal ymchwiliadau ar swyddogion hyd lefel uwch reolwyr. Nid yw cysondeb yn cyfateb i unffurfiaeth ac nid yw hyn yn golygu y bydd pob achos yn cael ei drin yn union yr un fath, gan fod amgylchiadau'n amrywio ym mhob mater. Mae'r egwyddor o gysondeb yn golygu y byddwn yn defnyddio dull gweithredu tebyg mewn amgylchiadau tebyg i gyflawni dibenion tebyg.

Atebolrwydd

Mae'r Gwasanaeth yn atebol i'r cyhoedd am ei weithredoedd a bydd yn sicrhau bod y Polisi Gorfodi hwn yn hygyrch. Ymhellach, mae'n gweithredu proses gwynion deg ac effeithlon o fewn y broses gorfforaethol gyffredinol ar gyfer Canmoliaeth, Cwynion a Sylwadau. Gellir cael manylion y Weithdrefn Gorfforaethol ar gyfer Canmoliaeth, Cwynion a Sylwadau neu drwy e-bost – contactus@npt.gov.uk neu dros y ffôn ar 01639 686868.

Cymesuredd

Mae cymesuredd yn golygu bod unrhyw gamau gorfodi’n gymesur â'r risg a bydd yn gysylltiedig â difrifoldeb unrhyw achos o dorri'r gyfraith. Wrth ystyried difrifoldeb, bydd amrywiaeth o ffactorau’n cael eu hystyried, gan gynnwys y canlynol: nifer y bobl yr effeithir arnynt gan unrhyw ddiffyg cydymffurfio a pha mor agored i niwed ydynt, yr effaith economaidd, yr effaith negyddol ar ddiogelwch eraill a graddau'r bwriad. Bydd unrhyw amddiffynfeydd statudol hefyd yn cael eu hystyried.

Tryloywder

Rydym wedi ymrwymo i weithredu gweithdrefnau clir ac agored. Mae sicrhau bod unigolion a pherchnogion busnesau’n ymwybodol o'u rhwymedigaethau a'u hawliau o dan y gyfraith ac yn eu deall, yn rhan annatod o weithgareddau'r Gwasanaeth. Os bydd y Gwasanaeth yn cymryd unrhyw gamau gorfodi mewn perthynas ag unigolyn neu fusnes, rhoddir gwybodaeth fanwl ynghylch pa gamau sy'n cael eu cymryd, beth sy'n ofynnol gan yr unigolyn neu'r busnes a beth fydd y camau nesaf. Bydd unrhyw gwestiynau mewn perthynas â'r hyn sy'n digwydd yn cael eu hateb yn deg ac yn gywir gan ystyried yr angen am gyfrinachedd mewn rhai achosion. Mae'r Polisi Gorfodi wedi’i gyhoeddi ar ein gwefan.

Targedu

Ein nod yw canolbwyntio gweithgarwch gorfodi ar y meysydd hynny sydd: yn nodi'r risg fwyaf i iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd; yn cael yr effaith fwyaf arwyddocaol ar les economaidd y gymuned; yn effeithio mewn modd anghymesur ar grwpiau bregus; gan ystyried blaenoriaethau lleol a chenedlaethol. Ein nod hefyd yw mabwysiadu dull llai llym ar gyfer busnesau neu unigolion sy'n cydymffurfio, ac mewn rhai achosion efallai y byddwn yn dewis peidio â chymryd camau gorfodi pan fo'r tramgwydd yn fach neu pan fo dull gweithredu amgen addas ar gael. Ym mhob achos, ein nod yw targedu'r rhai sy'n bennaf gyfrifol am y diffyg cydymffurfio.

Camau Gorfodi

Wrth ddelio â diffyg cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd yr amgylchedd, defnyddwyr a masnach, ystyrir amrywiaeth o ffactorau wrth asesu'r camau gweithredu mwyaf priodol. Dylai gweithredu fod yn angenrheidiol ac yn gymesur â'r nod o ddiogelu'r cyhoedd, gweithwyr, defnyddwyr a'r amgylchedd a lle bo'n berthnasol dylai fod er budd busnesau sy'n cydymffurfio. Bydd dull gorfodi graddedig yn cael ei ystyried pan fo'r amgylchiadau ym mhob achos yn galw am ddull o'r fath. Bydd casglu tystiolaeth yn amodol ar y deddfau a'r codau ymarfer perthnasol a allai gwmpasu pynciau fel PACE.

(Tystiolaeth yr Heddlu a Throseddol); IPA (y Ddeddf Pwerau Ymchwilio); Pwerau arestio; a chysylltu ag asiantaethau gorfodi eraill.

Egwyddor yr Awdurdod Cartref ac Egwyddor y Prif Awdurdod

Mewn perthynas â busnesau Awdurdod Cartref a Phrif Awdurdod bydd y Gwasanaeth, cyn ymgymryd ag unrhyw waith a allai effeithio ar fusnes a allai fod yn cymorth gan Awdurdod Cartref neu Brif Awdurdod yn:

  • ymgynghori â Chofrestrau'r Awdurdod Cartref neu'r Prif Awdurdod cyn gwneud y gwaith arfaethedig
  • Cysylltu â'r awdurdodau hynny sydd wedi ymrwymo i berthynas rhwng yr Awdurdod Cartref neu’r Prif Awdurdod a busnesau
  • perthnasoedd â busnesau
  • dilyn a chadw at unrhyw gynlluniau arolygu a gynhyrchir gan y Prif Awdurdodau
  • rhoi adborth i Awdurdodau Cartref neu Brif Awdurdodau ar y gwaith sydd wedi'i wneud ar ôl hynny
  • cyhoeddi'r cynlluniau arolygu ar gyfer unrhyw fusnes rydym yn gweithredu ar ei gyfer fel Prif Awdurdod ar Gofrestr y Prif Awdurdodau
  • cyfrannu at Gofrestr y Prif Awdurdodau drwy ychwanegu gwybodaeth neu ymateb i Hysbysiadau Statudol pan fo hynny’n angenrheidiol neu’n ofynnol

Dull Gorfodi Graddedig

Mae'r dull graddedig a ddefnyddiwn yn aml yn dechrau gyda chyngor anffurfiol a rhybuddion llafar a gallai gynyddu i gyflwyno hysbysiadau, cyhoeddi rhybuddion ysgrifenedig a rhybuddion syml ac o bosibl arwain at erlyniadau. Gall rhai materion gynnwys achosion llai sylweddol o ddiffyg cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth yr ydym yn ei gorfodi a gall cymesuredd a thegwch fynnu y dylid cymryd camau cynghori a gorfodi ar raddfa lai. Fodd bynnag, bydd rhai materion difrifol iawn, efallai'n ymwneud ag esgeulustod, anonestrwydd, twyll, gweithredoedd bwriadol neu bobl agored i niwed. Dylai’r rhain yn ôl eu natur gael eu hystyried yn briodol ar gyfer erlyniad, heb ddilyn y dull graddedig. Mae'r prif opsiynau sydd ar gael i ni wedi'u hamlinellu isod.

Gweithredu a chyngor anffurfiol

Gall hyn fod ar ffurf rhybudd llafar, gyda chyngor ac arweiniad ar sut i osgoi diffyg cydymffurfiaeth yn y dyfodol, neu rybudd ysgrifenedig yn egluro’r tramgwydd ac yn rhoi cyngor fel y bo'n briodol. Mae'n debygol y bydd cyngor ac arweiniad ar lafar yn cael ei roi gyda rhybudd ysgrifenedig. Yn y ddau achos, bydd y cyngor a roddir yn glir ac yn syml ac, os yw'n briodol, bydd yn gwahaniaethu’n glir rhwng yr hyn sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith a’r hyn sy’n gyngor arfer gorau.

Hysbysiadau Statudol

Mae rhai o ddarpariaethau'r ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweinyddu gan y gwasanaeth yn ymwneud â chyhoeddi Rhybudd Statudol ar gyfer torri'r gyfraith. Mae'r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i'r derbynnydd gymryd camau i ddychwelyd i gydymffurfio â’r gyfraith. Gallai'r camau hyn gynnwys; ymatal rhag gwneud pethau fel achosi sŵn gormodol, neu gynnal gwaith fel adnewyddu cegin fasnachol er mwyn cydymffurfio â deddfau hylendid bwyd. Bydd y penderfyniad i gyflwyno hysbysiad statudol yn dibynnu ar holl amgylchiadau'r achos. Mewn rhai achosion, gall y gwasanaeth fod o dan ddyletswydd gyfreithiol i gyhoeddi hysbysiad unwaith y bydd achos o dorri’r gyfraith wedi'i nodi.

Efallai na fydd y person sy'n derbyn yr hysbysiad yn cytuno ag ef ac mae ganddynt yr hawl i apelio yn ei erbyn.

Mae methu â chydymffurfio â hysbysiad dilys yn drosedd a gall y Cyngor gymryd un o'r camau canlynol o ganlyniad i hynny.

  • cynnig rhybudd syml i'r troseddwr
  • cymryd camau cyfreithiol, fel arfer yn y Llys Ynadon
  • cymryd a chadw deunyddiau neu offer
  • cynnal unrhyw waith sy'n ofynnol yn ôl yr hysbysiad ac adennill costau

Mae'r gwasanaeth yn codi tâl pan gyhoeddir hysbysiadau statudol o dan y ddeddfwriaeth tai. Mae'r tâl, sy'n cael ei wneud ar ddiwedd y cyfnod apelio yn erbyn hysbysiad, yn cynnwys: cost yr arolygiad; y gost o benderfynu ar y camau gweithredu mwyaf boddhaol a'r gost sy'n gysylltiedig â chyflwyno'r hysbysiad. Codir tâl gweinyddol hefyd. Cytunir ar swm y tâl yn flynyddol gan Gyfarwyddwr yr Amgylchedd a'n Haelod Cabinet mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a’r Rheolwr Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach.

Gweithredu/Gwaharddiadau Brys neu Ar Unwaith

Weithiau mae angen gweithredu brys neu weithredu ar unwaith i ddelio â'r risgiau mwyaf difrifol a byddant yn destun gweithdrefnau penodol, y gall rhai ohonynt gynnwys mynd i’r Llys Ynadon. Mae manylion y gweithdrefnau apelio’n cael eu cynnwys fel mater o drefn gyda'r Hysbysiadau a'r wybodaeth berthnasol a ddarperir ar adeg gweithredu.

Hysbysiadau Gwahardd Argyfwng Hylendid

Os oes gan Swyddog Awdurdodedig dystiolaeth o risg uniongyrchol o anaf i iechyd sy'n ymwneud â Busnes Bwyd, gellir cyflwyno Hysbysiad Gwahardd Argyfwng Hylendid (HEPN) i wahardd safle, offer neu broses.

Rhaid i'r hysbysiad nodi'r rhesymau pam mae’r safle’n peri risg uniongyrchol i iechyd a'r gwaith sydd ei angen i gael gwared ar y risg sydd ar fin digwydd, megis "Cael gwared ar gnofilod / chwilod duon o’r safle. Sicrhau bod y safle’n gallu cadw plâu allan. Diheintio pob arwyneb ac offer yn drylwyr."

Rhaid gwneud cais i'r Llys Ynadon am Orchymyn Gwahardd Argyfwng Hylendid (HEPO) i ddisodli'r HEPN o fewn tri diwrnod gwaith ar ôl cyflwyno'r hysbysiad. Lle rhoddir HEPO gan y Llys, dylai’r HEPN gael ei ddisodli gan yr HEPO y diwrnod hwnnw. 

Mae'n rhaid i weithredwr y busnes bwyd wneud cais ysgrifenedig i'r Awdurdod Bwyd am dystysgrif i godi'r Gorchymyn / Hysbysiad Gwahardd Hylendid Brys, a dylai Swyddog Awdurdodedig, ar gais, ail-archwilio’r busnes cyn gynted â phosibl (o fewn 14 diwrnod) i benderfynu a ellir codi'r Hysbysiad neu'r Gorchymyn.

Rhybudd Syml

Mae gennym yr hawl i gynnig rhybudd syml mewn amgylchiadau lle mae digon o dystiolaeth i gefnogi siawns realistig o euogfarn a bod y troseddwr yn cyfaddef i’r drosedd ac yn rhoi caniatâd gwybodus i dderbyn rhybudd.

Mae rhybudd yn fater difrifol ac fe'i cedwir ar gof a chadw am gyfnod o 2 flynedd ar ôl ei roi, fodd bynnag caiff pob achos ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun. Bydd cyhoeddi Rhybudd Syml yn cael ei ystyried gan y Gwasanaeth wrth benderfynu ar gamau gorfodi, fel dewis amgen yn lle erlyniad. Bydd penderfyniadau o'r fath yn cael eu gwneud drwy ystyried ffeithiau pob achos a lefel difrifoldeb y drosedd neu'r troseddau sy'n cael eu hymchwilio. Mewn achos o dorri rheolau yn y dyfodol, gellir ei grybwyll mewn unrhyw achos llys yn y dyfodol.

Mae canllawiau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar Rybuddion Syml i Droseddwyr sy’n Oedolion yn rhoi gwybodaeth fanwl am sut y bwriedir defnyddio a gweinyddu’r Rhybudd Syml.

Hysbysiadau Cosb Benodedig

Gellir rhoi Hysbysiadau Cosb Benodedig yn hytrach na chymryd camau cyfreithiol am dorri rhai deddfwriaethau, er enghraifft, cyfreithiau di-fwg, landlordiaid ac asiantau gosod sydd heb drwydded neu heb eu cofrestru, neu beidio ag arddangos sgôr hylendid bwyd. Os nad yw'r person sy'n gyfrifol yn derbyn yr Hysbysiad Cosb Benodedig neu'n methu â thalu'r gosb o fewn y cyfnod amser gofynnol, efallai y bydd yn agored i erlyniad.

Efallai y byddwn yn ceisio cael achrediad i roi Hysbysiadau Cosb Benodedig i'r rhai sy'n gyfrifol am ddiffyg cydymffurfio â deddfwriaeth arall, er enghraifft deddfwriaeth yn ymwneud â'r gwaharddiad ar werthu alcohol i blant dan oed ac ati. Neu, efallai y byddwn yn gweithio ar y cyd â phartneriaid fel yr Heddlu sy’n gallu rhoi Hysbysiadau Cosb Benodedig ar gyfer materion o'r fath.

Dirymu, Adolygu neu Wrthod Trwyddedau

Lle mae busnes neu unigolyn yn peidio â chydymffurfio ag unrhyw un o amodau trwydded maen nhw’n eu dal, er enghraifft i werthu alcohol, gallwn gymryd camau gyda'r corff trwyddedu priodol i gynnal adolygiad i benderfynu p’un a yw’r Trwyddedai, y Goruchwyliwr Safle Dynodedig, y Safle neu’r Deiliad Trwydded Bersonol, neu unrhyw berson neu bersonau sydd â chyfrifoldeb am y drwydded neu oddi tani, yn dal i fod yn addas ac yn briodol i ddal y drwydded ac/neu i osod mwy o amodau penodol.

Mae'r gwasanaeth hefyd yn gweithredu Cynllun Trwyddedu Gorfodol i reoleiddio tai amlfeddiannaeth (HMOs) risg uchel, sydd â 3 llawr neu fwy sy'n cael eu meddiannu gan 5 neu fwy o bobl nad ydynt o'r un teulu. Mae rhagor o bwerau ar gael os bydd yr awdurdod yn penderfynu eu defnyddio ar gyfer rheoli HMOs deulawr.

Deddf Menter 2002

O dan Ddeddf Menter 2002 gall y Gwasanaeth gymryd camau yn erbyn busnesau neu unigolion lle mae cyfraith gymunedol neu ddomestig wedi cael ei thorri gan niweidio buddiannau cyfunol y defnyddwyr. Gweithredu sifil yw hyn yn hytrach na throseddol ac mae cosbau’n cael eu gorfodi.

Pwrpas gweithredu o dan y Ddeddf Menter yw atal achosion o dorri'r gyfraith yn y dyfodol yn hytrach na chosbi achosion blaenorol. Gall y cosbau am dorri rheolau yn y dyfodol fod yn ddifrifol, gan gynnwys dirwy neu garchar o bosibl.

Mae cymryd camau gorfodi o’r math yma’n fwyaf priodol mewn sefyllfaoedd lle mae achosion parhaus o dorri'r gyfraith. Serch hynny, mewn rhai amgylchiadau gellir cymryd camau ar gyfer nifer fach o achosion, neu hyd yn oed ar un achlysur, lle mae yna niwed sylweddol neu niwed posibl i'r defnyddiwr.

Mae amrywiaeth o gamau gweithredu ar gael o dan y Ddeddf gan gynnwys:

  • ymgymeriadau anffurfiol
  • ymgymeriadau ffurfiol
  • gorchmynion Gorfodi Dros Dro gan y Llys
  • gorchmynion Gorfodi gan y Llys
  • achos Dirmyg Llys

Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned

Mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn cyflwyno pwerau i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, megis hysbysiadau Gwarchod y Gymuned, lle mae ymddygiad unigolyn neu gorff yn cael effaith niweidiol barhaus neu ddi-baid ar ansawdd bywyd y rhai yn yr ardal leol a bod yr ymddygiad yn afresymol.

Mae hysbysiad gwarchod y gymuned yn gosod unrhyw un o'r gofynion canlynol ar yr unigolyn neu'r corff sy’n ei dderbyn:

  1. gorfod rhoi'r gorau i wneud pethau penodol
  2. gorfod gwneud pethau penodol
  3. gorfod cymryd camau rhesymol i gyflawni canlyniadau penodol

Byddant yn cael eu rhoi dim ond os yw'r troseddwr wedi cael rhybudd ysgrifenedig y bydd yr hysbysiad yn cael ei gyflwyno os na fydd eu hymddygiad yn newid a hwythau wedi cael digon o amser i wneud y newidiadau hynny'n rhesymol, ac eto eu bod wedi dewis peidio â gwneud hynny.

Mae person sy'n derbyn hysbysiad gwarchod y gymuned ac sy'n methu â chydymffurfio ag ef yn cyflawni trosedd.

Erlyniad

Gall erlyniad arwain at ganlyniadau difrifol i fusnes neu unigolyn: cosbau ariannol, cofnod troseddol, cyhoeddusrwydd anffafriol, effaith andwyol ar sefyllfa fasnachu’r busnes ac mewn rhai achosion colli eu rhyddid hyd yn oed. Am y rhesymau hyn, nid ar chwarae bach y mae penderfyniad i erlyn yn cael ei wneud ac fel arfer mae'n cael ei gadw ar gyfer y troseddau mwy difrifol.

Wrth benderfynu a ddylid cychwyn achos rhoddwn ystyriaeth yn arbennig i God Gwasanaeth Erlyn y Goron sy'n ei gwneud yn ofynnol i asesu dwy elfen sy’n cael eu hadnabod fel y prawf tystiolaethol a'r prawf budd y cyhoedd.

Mae'r prawf tystiolaethol yn mynnu bod y dystiolaeth i gefnogi erlyniad yn cael ei ystyried yn dderbyniol mewn llys, yn ddibynadwy ac o ansawdd a dyfnder digonol i roi siawns realistig o euogfarn. Fel rhan annatod o'r broses hon, rhoddir ystyriaeth i unrhyw amddiffyniad statudol a allai fod ar gael a llwyddiant tebygol amddiffyniad o'r fath.

Diben prawf budd y cyhoedd, yn fras, yw ystyried nifer o ffactorau sy'n cefnogi'r farn ei bod er budd y cyhoedd i fwrw ymlaen. Mae'r ffactorau perthnasol hyn wedi'u hamlinellu yn y paragraff isod. Ffactor ychwanegol sy'n arbennig o berthnasol i erlyniad yw a fydd yr euogfarn yn arwain at ddedfryd neu gosb sylweddol, gan gynnwys fforffedu nwyddau nad ydynt yn cydymffurfio, atafaelu enillion y drosedd, anghymhwyso cyfarwyddwyr y cwmni a/neu iawndal i'r dioddefwr. Rhoddir ystyriaeth hefyd i unrhyw effaith y gallai erlyniad ei chael ar iechyd corfforol neu feddyliol y dioddefwr, yn amodol ar ddifrifoldeb y drosedd.

Wrth gymhwyso prawf budd y cyhoedd, nid yw’n fater o bwyso a mesur y ffactorau ar bob ochr yn unig. Byddwn yn penderfynu ym mhob achos unigol ar faint o werth i’w roi i'r ffactorau perthnasol ac yn asesu'r sefyllfa’n gyffredinol, sy'n cyd-fynd â'r dull a amlinellir yn y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron.

Mewn achosion lle bydd achos cyfreithiol yn cael ei gychwyn, rydym yn rhoi ystyriaeth i hawl y diffynnydd i gael y mater wedi’i gyflwyno gerbron y Llysoedd heb oedi gormodol. Mae'r hyn sy'n gyfystyr ag oedi gormodol yn cael ei bennu yn ôl y dyddiad y daeth y drosedd i'r amlwg, cyfraniad y diffynnydd i'r oedi, cymhlethdod y drosedd a/neu'r ymchwiliad a difrifoldeb y drosedd.

Ffactorau Perthnasol wrth ystyried Camau Gorfodi

Mae'r ffactorau canlynol yn berthnasol wrth ystyried pa rai o'r opsiynau gorfodi uchod yw'r rhai mwyaf priodol i'w cymryd. Yn y broses o wneud penderfyniadau, byddwn yn ystyried p'un ai ac/neu i ba raddau:

  • mae’r sefydliad neu'r unigolyn yn ymddangos yn barod i unioni'r sefyllfa’n gyflym
  • roedd y drosedd wedi digwydd o ganlyniad i gamgymeriad neu gamddealltwriaeth gwirioneddol
  • mae hanes o dorri rheolau honedig blaenorol tebyg gan yr un sefydliad neu unigolyn
  • mae cyngor blaenorol wedi cael ei gymryd o ddifri a gweithredwyd arno
  • mae yna fygythiad i iechyd y cyhoedd, diogelwch y cyhoedd neu'r amgylchedd
  • mae yna fygythiad o anfantais economaidd sylweddol i ddefnyddwyr neu fusnesau eraill
  • Mae'r dioddefwr yn rhan o grŵp agored i niwed, er enghraifft, plant, pobl anabl neu'r henoed
  • cafodd y drosedd ei hysgogi gan ryw fath o wahaniaethu
  • mae'r drosedd yn digwydd yn eang gyda'r potensial i effeithio ar nifer o unigolion
  • mae'r sefydliad neu'r unigolyn wedi gweithredu'n fwriadol, yn esgeulus neu gyda rhagfwriad
  • mae'r sefydliad neu'r unigolyn wedi torri safle o awdurdod neu ymddiriedaeth
  • mae sail i gredu bod y drosedd yn debygol o gael ei hailadrodd
  • fel mater o bolisi cyhoeddus, mae'n ddymunol bwrw ymlaen â chamau gorfodi

Camau gweithredu o dan Ddeddf Enillion Troseddau 2002

Mewn achos o gollfarn droseddol, mae'n agored i'r awdurdod mewn rhai amgylchiadau wneud cais am orchymyn o dan Ddeddf Enillion Troseddau 2002. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn darparu ar gyfer atafaelu eiddo ac asedau os gellir dangos bod diffynnydd wedi elwa o drosedd. Mewn achosion priodol, byddwn yn ystyried a oes angen cynnal ymchwiliad i faterion ariannol y diffynnydd er mwyn dilyn gorchymyn atafaelu. Ni fyddwn yn ystyried y ffaith y gall camau gweithredu Enillion Troseddu fod ar gael neu beidio wrth benderfynu a ddylid erlyn ai peidio.

Gorfodi ein Swyddogaethau yn Safleoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Fel Gwasanaeth, mae'n ofynnol i ni hefyd archwilio safleoedd a reolir gan yr Awdurdod hwn neu sy'n eiddo iddo.

Byddwn yn trin arolygiadau o'r fath fel ag y byddem yn trin arolygiadau ar unrhyw fusnes arall yn ardal y Fwrdeistref Sirol, gan gymryd camau i sicrhau, pan fyddwn yn canfod nad ydynt yn cydymffurfio, bod hyn yn cael ei godi ar unwaith ar ôl yr arolygiad, gyda'r Pennaeth Gwasanaeth perthnasol drwy ein Pennaeth Gwasanaeth ni. Byddwn yn gweithio gyda'r Adrannau hynny i gywiro diffyg cydymffurfio mewn modd agored a thryloyw, gan sicrhau bod yr un lefel o gydymffurfiaeth yn cael ei chyflawni ag y byddem yn ei disgwyl gan unrhyw fusnes arall yn ein hardal.

Rhyddid Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ymdrin â mynediad at wybodaeth swyddogol. Yn ogystal, mae rheoliadau hefyd sy'n rhoi mynediad at wybodaeth amgylcheddol h.y. Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Mae'r ddeddfwriaeth hon yn rhoi hawl gyffredinol i'r cyhoedd gael mynediad at wybodaeth a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus. Wrth ymateb i geisiadau, mae gofynion gweithdrefnol wedi'u nodi yn y ddeddfwriaeth y mae'n rhaid i awdurdod eu dilyn gan gynnwys yr amserlen ar gyfer darparu'r wybodaeth. Mae yna hefyd eithriadau dilys rhag cyflenwi gwybodaeth y gallai’r awdurdod eu cymhwyso o dan amgylchiadau penodol, sydd wedi'u diffinio'n gyfreithiol.

Cyfle Cyfartal

Bydd y Polisi hwn yn cael ei weithredu yn unol â pholisi Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar amrywiaeth. Bydd pob penderfyniad yn ddiduedd ac ni fydd hil, gwleidyddiaeth, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol na chredoau crefyddol y troseddwr honedig yn dylanwadu arnynt.

Atodiad 1 – Cyfarwyddiaeth yr amgylchedd cyngor bwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot canllawiau polisi gorfodi LAPPC ac LA-IPPC atal a rheoli llygredd awdurdodau lleol

1.0 Introduction

  • 1.01 Pwrpas polisi gorfodi Atal a Rheoli Llygredd Awdurdodau Lleol (LAPPC) ac Atal a Rheoli Llygredd Integredig Awdurdodau Lleol (LA-IPPC) yw diogelu'r amgylchedd ac atal niwed i iechyd pobl. Yn arbennig, drwy atal neu leihau’r sylweddau llygredig a ryddheir i'r aer (ar gyfer gosodiadau a reoleiddir gan LAPPC) ac i’r aer, y tir a dŵr (ar gyfer gosodiadau LA-IPPC) yn sgil gweithgareddau penodol a ragnodir gan Atodlen 1, Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 (Rheoliadau TA). Mae'r rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000.
  • Cyflawnir hyn fel a ganlyn:
  1. Cynnal archwiliadau rhagweithiol mor aml ag sy’n ofynnol yn ôl gweithdrefn asesu risg y llywodraeth i sicrhau cydymffurfiaeth â'r gofynion deddfwriaethol ac amodau’r trwyddedau
  2. Cymryd camau gorfodi tryloyw a chymesur (gan gynnwys erlyniad lle bo hynny'n briodol) ar gyfer troseddau ac/neu achosion o dorri’r rheoliadau
  • 1.03 Ysgrifennwyd y Canllawiau Polisi Gorfodi LAPPC ac LA-IPPC hyn gan ystyried Cod statudol y Rheoleiddwyr sydd wedi’i gyhoeddi o dan Adran 23, Deddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006

2.0 Pwerau Gorfodi

Mae'r pwerau gorfodi sydd ar gael ar gyfer LAPPC ac LA-IPPC yn perthyn i'r prif gategorïau canlynol:

2.01 Ar gyfer atal:

  • Hysbysiadau Atal Dros Dro
  • Hysbysiadau Gorfodi
  • Hysbysiadau sy'n gofyn am wybodaeth
  • pŵer i atal/unioni llygredd
  • dirymu trwyddedau

2.02 Ar gyfer troseddau:

  • llythyr rhybuddio
  • rhybudd ffurfiol
  • erlyniad

2.03 Pwerau Atodol:

Mae pwerau atodol yn cynnwys:

  • pwerau i gael mynediad i safleoedd a’u harchwilio
  • cymryd samplau
  • gwneud copïau o wybodaeth
  • cael atebion i gwestiynau ac ati

3.0 Lefel y camau gorfodi

  • 3.01 Gall difrifoldeb troseddau amrywio'n fawr. Ar un pen o'r raddfa, gallai gweithred arwain at lygredd aer difrifol, gan beri bygythiad i iechyd pobl. Ar y pen arall, gallai amodau gweinyddol y drwydded gael eu torri e.e. methu â chyflwyno cofnodion yn y fformat cywir, lle nad oes unrhyw ganlyniadau uniongyrchol i'r amgylchedd
  • 3.02 Wrth ddod i benderfyniad ar y camau gorfodi mwyaf priodol, bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r canlynol:

Yr effaith amgylcheddol

Mae maint yr effaith amgylcheddol yn dangos i ba raddau mae'r troseddwr wedi methu â rhoi ar waith, cynnal neu gadw at weithdrefnau neu systemau addas i atal y digwyddiad ac/neu ragweld y canlyniadau o fethu â gwneud hynny. Yn gyffredinol, po fwyaf yw'r effaith neu'r effaith bosibl, y mwyaf yw'r tebygolrwydd o erlyniad.

Natur y drosedd

Gall y math o drosedd fod mor ddifrifol o ran natur neu o ran yr effaith ar allu'r Cyngor i reoleiddio'n effeithiol, fel y bydd angen erlyniad i ymdrin â’r mater.

Bwriad

Fel arfer, erlyniad fydd yn ymdrin â throseddau sy'n cael eu cyflawni'n fwriadol, yn ddi-hid, yn esgeulus neu'n ddiofal neu er budd ariannol. Gall camau gorfodi llai fod yn briodol os yw'r Cyngor yn fodlon bod y drosedd wedi'i chyflawni'n anfwriadol, neu ei bod wedi digwydd o ganlyniad i gamgymeriad gwirioneddol neu wedi codi yn sgil argyfwng.

Hanes blaenorol

Er y bydd y camau i'w cymryd yn dibynnu ar amgylchiadau pob achos, rhoddir ystyriaeth hefyd i ddifrifoldeb, nifer ac amlder unrhyw gamau gorfodi blaenorol a’r math o gamau gorfodi a ddefnyddiwyd. Lle mae'r gweithredwr yn gyfrifol am nifer o osodiadau neu weithgareddau, yna bydd hanes blaenorol un safle yn berthnasol i'r broses o wneud penderfyniadau ar y lleill os yw'r amgylchiadau'n golygu y dylai'r gweithredwr fod wedi dysgu o gamau gorfodi blaenorol. Ar gyfer gweithredwyr sydd eisoes wedi derbyn rhybudd ffurfiol, bydd angen erlyniad fel arfer i ymdrin ag unrhyw droseddau dilynol.

Ymddygiad y troseddwr

Fel arfer, bydd erlyniad yn digwydd os yw’r troseddwr:

  • wedi gwrthod derbyn camau gorfodi amgen
  • heb wneud unrhyw ymgais i leihau na chywiro effeithiau neu effeithiau posibl y drosedd
  • wedi rhwystro ymchwiliadau
  • wedi diystyru cyngor neu ganllawiau ffurfiol y Cyngor wrth gyflawni'r drosedd
  • wedi gweithredu'n anonest wrth geisio atal neu oedi camau gorfodi

Effaith atal

Fel arfer, bydd erlyniad yn digwydd os yw'n debygol o fod yn ffordd angenrheidiol neu effeithiol o atal y troseddwr rhag ailadrodd y drosedd.

Rhagweladwyedd

Mae pwysigrwydd atal yn cael ei gydnabod gan y ddeddfwriaeth sy'n gosod dyletswydd ar weithredwr i ragweld canlyniadau posibl eu gweithredoedd (neu ddiffyg gweithredu), neu fethiant neu ddiffygion systemau a gweithdrefnau’r gweithredwr. Pan fo’r drosedd a/neu ei chanlyniadau amgylcheddol yn rhagweladwy, ac na chymerwyd unrhyw gamau osgoi ac/neu atal a’u bod wedi methu ag ystyried amodau'r drwydded, bydd erlyniad yn digwydd fel arfer. Gellir ystyried camau gorfodi eraill os:

  • digwyddodd y drosedd er iddynt gymryd camau ataliol
  • na ellid yn rhesymol fod wedi rhagweld y drosedd
  • digwyddodd y drosedd o ganlyniad i offer diffygiol na ellid yn rhesymol fod wedi ei nodi na'i ragfynegi
  • achoswyd y drosedd gan ymyrraeth trydydd parti na ellid bod wedi gwarchod yn ei erbyn

Mae cydweithredu â'r Cyngor, adrodd am y digwyddiad yn brydlon, gwaith lliniaru a chymorth cyflym ac effeithiol yn unrhyw ymchwiliad i gyd yn ffactorau a fydd yn cael eu dwyn i gof wrth ystyried pa lefel o gamau gorfodi sy'n briodol ar gyfer unrhyw ddigwyddiad penodol. Bydd y ffactorau sy'n berthnasol a'r gwerth sy’n cael ei roi i bob un o'r pwyntiau uchod yn dibynnu ar amgylchiadau penodol pob achos.

4.0 Cadw cofnodion

Bydd cofnodion yn cael eu cadw o'r holl erlyniadau, rhybuddion ffurfiol, rhybuddion a hysbysiadau statudol.

5.1 Hysbysiad gorfodi (Rheoliad TA 36)

Bydd hysbysiad sy'n gofyn am gymryd camau i sicrhau cydymffurfiaeth ag amodau hysbysiad gorfodi fel arfer yn cael ei gyflwyno yn y sefyllfaoedd canlynol:

  1. Lle mae un neu fwy o amodau'r drwydded wedi cael eu torri, neu'n debygol o gael eu torri, ac y byddai hynny’n debygol o arwain at effaith amgylcheddol isel ac/neu y bu hanes o rybuddion perthnasol
  2. Lle mae'r amodau sy'n cael eu torri, neu sy’n debygol o gael eu torri, yn atal rheoleiddio effeithiol ac mae rhybuddion perthnasol blaenorol wedi'u rhoi e.e. methu â darparu data monitro, cynnal a chadw offer, cynnal darpariaeth ariannol

5.2 Hysbysiad atal dros dro (Rheoliad 37)

Bydd Hysbysiad Atal Dros Dro i atal y Drwydded Amgylcheddol yn cael ei gyflwyno lle mae perygl o lygredd difrifol. Mae hyn yn berthnasol p'un a yw'r gweithredwr wedi torri amod trwydded ai peidio. Bydd yr hysbysiad yn cael ei dynnu'n ôl unwaith y bydd y Cyngor yn fodlon bod y camau sy'n ofynnol gan yr hysbysiad wedi'u cymryd i gael gwared ar y risg sydd ar fin digwydd o lygredd difrifol. Gellir cyflwyno Hysbysiad Atal hefyd lle mae'r gweithredwr wedi methu â thalu'r Ffi Gynhaliaeth Flynyddol am y Drwydded Amgylcheddol.

5.3 Pwer y rheoleiddiwr i atal neu unioni llygredd (Rheoliad TA 57)

  • 5.3.1 Os yw'r Cyngor o'r farn bod gweithredu’r gosodiad neu’r offer symudol, neu ei weithredu mewn modd penodol, yn achosi perygl o lygredd difrifol, gall y cyngor drefnu bod camau’n cael eu cymryd i ddileu’r risg honno e.e. cael gwared ar gemegau neu eu gwneud yn ddiogel neu sicrhau bod gwaith diogelwch yn cael ei gyflawni
  • 5.3.2 Pan fo'r Cyngor yn amau neu'n fodlon bod trosedd wedi'i chyflawni o dan reoliad 38(1), (2) neu (3) gan achosi llygredd neu fod yn debygol o achosi llygredd, gall y cyngor drefnu i gamau gael eu cymryd i unioni effeithiau'r llygredd ac adennill y gost o gymryd y camau hynny gan y gweithredwr. Bydd y gweithredwr yn cael gwybod am y camau i'w cymryd i unioni effeithiau'r llygredd
  • 5.3.3 Pan fo’r Cyngor yn amau bod trosedd fel yr un a nodir uchod yn cael ei chyflawni neu wedi'i chyflawni a bod llygredd yn cael neu wedi'i achosi o ganlyniad i hynny, bydd darpariaethau paragraff 5.3.2 yn berthnasol

5.4 Hysbysiad dirymu (Rheoliad TA 22 a 23)

Bydd Hysbysiad Dirymu fel arfer yn cael ei ystyried mewn achosion lle mae mesurau gorfodi eraill wedi'u defnyddio'n drwyadl i'r pwynt lle mae'r Cyngor yn fodlon ar un o'r canlynol:

  1. ni all y gweithredwr weithredu'r gosodiad yn unol ag amodau'r drwydded
  2. mae deiliad y drwydded wedi peidio â bod yn weithredwr y gosodiad a gwmpesir gan y drwydded
  3. mae'r gweithgaredd a ganiateir wedi peidio â gweithredu, neu nid yw'r ddeddfwriaeth bellach yn berthnasol i'r math hwnnw o weithgaredd, na maint neu natur y gweithgaredd
  4. mae'r gweithredwr wedi methu â thalu’r ffioedd cynhaliaeth blynyddol

6.0 Hysbysiad o hawliau apelio statudol

Mae'r hawliau apelio statudol wedi'u nodi yn yr hysbysiad.

7.0 Camau gorfodi - Yn ymwneud ag Ymchwiliadau (A108-110 Deddf yr Amgylchedd 1995 a Rheoliad TA 38)

  • 7.1 Wrth gynnal ymchwiliadau i droseddau, bydd swyddogion yn cydymffurfio â darpariaethau perthnasol Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, Deddf Gweithdrefnau ac Ymchwiliadau Troseddol 1996, Deddf Pwerau Ymchwilio 2016 a'r Cod Ymarfer a wnaed oddi tanynt. Fel arfer, bydd erlyniad yn digwydd o dan yr amgylchiadau canlynol:
  1. rhwystro Person Awdurdodedig
  2. dynwared swyddog awdurdodedig
  3. methu ag ateb cwestiynau
  4. methu â darparu samplau
  5. methu â darparu gwybodaeth berthnasol.
  6. atal person arall rhag ymddangos gerbron swyddog awdurdodedig nac ateb unrhyw gwestiynau
  7. gwneud datganiad neu gofnod ffug neu gamarweiniol yn fwriadol neu'n ddi-hid

8.0 Camau gorfodi - Troseddau penodol (Rheoliad TA 38)

  • 8.1 Gweithredu Heb Drwydded (Rheoliad TA 38(1)
  • 8.1.1 Fel arfer, bydd erlyniad yn digwydd am y drosedd o weithredu proses heb drwydded. Fodd bynnag, ar gyfer troseddau cyntaf sy’n cael dim effaith neu effaith isel neu effaith bosibl, a phan gyflwynir cais o fewn amserlen fer, bydd rhybudd neu rybudd ffurfiol fel arfer yn cael ei gynnig oni bai bod rhesymau arbennig dros erlyn e.e. cydweithrediad gwael
  • 8.2 Peidio â Chydymffurfio ag Amodau Trwyddedau (Rheoliad TA 38(2)
  • 8.2.1 Lle mae diffyg cydymffurfio wedi achosi neu’n debygol o achosi effaith amgylcheddol ddifrifol neu roedd y gweithredwr wedi diystyru amodau trwydded yn fwriadol neu’n ddi-hid, gan gynnwys y rhai a awgrymir gan y Technegau Gorau Ar Gael gweddilliol (e.e. gweithredu mewn modd di-hid), yna bydd erlyniad fel arfer yn digwydd
  • 8.2.2 Lle mae'r diffyg cydymffurfio wedi achosi neu’n debygol o achosi effaith sylweddol, yna'r ymateb arferol fydd erlyn neu roi rhybudd ffurfiol, gan ddibynnu ar ffactorau eraill, e.e. cydweithrediad y troseddwr, gwaith adfer dilynol, neu hanes o droseddu. Fel arfer, bydd erlyniad yn digwydd pan fo rhybudd blaenorol perthnasol neu rybudd ffurfiol wedi'i roi
  • 8.2.3 Lle nad yw’r diffyg cydymffurfio wedi arwain at unrhyw effaith o gwbl neu os yw’n debyg o achosi effaith gymharol isel ar yr amgylchedd, yna llythyr rhybuddio neu hysbysiad gorfodi fydd yr ymateb arferol oni bai bod amgylchiadau eraill yn ei gwneud yn ofynnol i gymryd camau gweithredu mwy cadarn e.e. hanes blaenorol, bwriad, agwedd y troseddwr ac ati
  • 8.3 Peidio â Chydymffurfio â Rhybudd Statudol (Rheoliad TA 38(3)) Fel arfer, bydd erlyniad yn digwydd pan fydd gweithredwr yn methu â chydymffurfio â Hysbysiad Gorfodi, Hysbysiad Atal Dros Dro, Hysbysiad Amrywiad, neu Hysbysiadau sy'n gofyn am wybodaeth. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir caniatáu i weithredwr gael amser estynedig i gydymffurfio â Hysbysiad Gorfodi lle mae’r amgylchiadau y tu hwnt i'w reolaeth.

9.0 Cyffredinol

  • 9.1 dylid darllen y Canllawiau Polisi hyn ar y cyd â’r Polisi Gorfodi ar gyfer Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach
  • 9.2 lle bo angen, caiff y Canllawiau Polisi hyn eu dehongli yn unol â'r ddeddfwriaeth ym mharagraff 1.01 ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall sy'n bodoli ar y pryd

10.0 Diwygiadau yn y Dyfodol

Bydd y Cyngor hwn yn adolygu'r canllawiau polisi hyn yn ôl y gofyn, ac yn unol â newidiadau i ddeddfwriaeth neu i bolisi'r Cyngor.