Bagiau gwyn
Darganfyddwch pa eitemau y gallwch eu rhoi yn eich bagiau ailgylchu gwyn. Cesglir y rhain yn wythnosol.
Bag gwyn ar gyfer plastig/tuniau/caniau (bag 1)
Mae eitemau'n mynd yn rhydd, nid mewn bagiau plastig.
Dim ond eitemau glân a roddir i mewn - rinsio plastigau, hambyrddau bwyd a thuniau
Yn cynnwys
- Pateli plastig e.e. shampŵ, cannydd
- Tybiau, potiau a hambyrddau bwyd plastig
- Topiau neu gaeadau poteli plastig
- (tynnwch o'r botel)
- Tuniau & Caniau
- Caeadau a chapiau metel o jariau a photeli
- Caniau erosol
- Ffoil glân (wedi'i gywasgu)
- Hambyrddau bwyd ffoil glân
Peidiwch â chynnwys
- Polystyren (Bin ag olwynion/sachau du)
- Pecynnu creision
- Ffilm blastig (gan gynnwys papur lapio paledi)
- Pecynnu bwyd anifeiliaid anwes
- Potiau neu hambyrddau planhigion
- Plastigion caled a theganau, cambrenni neu ddodrefn gardd
- Cynwysyddion olew injan neu baent
- Casys CD/DVD
- Cynwysyddion rhannol lawn
- Tuniau paent
- Caeadau erosol plastig
- Ffoil plastig (e.e. pecynnu creision)
- Bagiau siopa
- Pecynnu swigod
Bag gwyn ar gyfer cardboard (bag 2)
Mae eitemau'n mynd yn rhydd, nid mewn bagiau plastig.
Rhaid torri pecynnu cardbord mawr yn ddarnau neu mi fydd yn rhy fawr i fynd ar ein cerbydau casglu
Yn cynnwys
- Bocsys cardbord
- Cardbord rhychiog
- Pecynnu prydau parod
- Bocsys grawnfwyd
- Tiwbiau rholiau toiled/cegin
- Cardiau cyfarch
- Blychau wyau
- Cartonau diod e.e. llaeth/sudd
- Cartonau cawl
Peidiwch â chynnwys
- Ffilm blastig - tynnwch lle bo hynny'n bosibl
- Cartonau sydd wedi'u golchi allan