Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ymweliadau addysg ailgylchu

Gall ein tîm ddarparu sgyrsiau addysg ailgylchu ac ymweliadau ar gyfer ysgolion a grwpiau cymunedol.

Rydym yn ymroddedig i annog a gwella ymdrechion ailgylchu. Rydym yn ymweld ag ysgolion a chymunedau yn rheolaidd i:

  • hyrwyddo pwysigrwydd ailgylchu
  • darparu arweiniad ar sut i ailgylchu’n effeithiol

Sgyrsiau ysgol gynradd

Rydym yn cynnig cyflwyniadau, gweithgareddau, a fideos i addysgu disgyblion am:

  • effaith gwastraff ar yr amgylchedd
  • beth y gellir neu na ellir ei ailgylchu
  • pwysigrwydd ailgylchu
  • beth sy’n digwydd i’n sbwriel a’n hailgylchu ar ôl iddo gael ei gasglu

Rydym hefyd yn hapus i ddylunio rhaglen benodol ar gyfer eich anghenion neu ddiddordebau, megis:

  • lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu
  • llygredd plastig
  • gwastraff bwyd

Gallwn gynnig y rhain naill ai i ymgynulliad neu ddosbarth unigol.

*

Cerbydau Trydan Ailgylchu (TrEV)

Helpu'r disgyblion i ddeall sut mae ailgylchu yn cael ei gasglu!

Gellir trefnu'r Cerbyd Trydan Ailgylchu (TrEV) i ymweld ag ysgolion. Byddwn yn dangos ac yn trafod gwahanol adrannau o'n lorïau ailgylchu.

Mae'r ymweliadau hyn yn amodol ar ba bryd mae'r cerbyd ar gael.
*

Sgyrsiau grŵp cymunedol

Rydym yn cynnig cyflwyniadau, gweithgareddau a fideos i addysgu cymunedau am:

  • effaith gwastraff ar yr amgylchedd
  • beth y gellir neu na ellir ei ailgylchu
  • pwysigrwydd ailgylchu
  • beth sy'n digwydd i'n sbwriel a'n hailgylchu ar ôl iddo gael ei gasglu
*

Digwyddiadau cymunedol

Gallwn fynychu digwyddiadau ar draws y fwrdeistref i:

  • hyrwyddo pwysigrwydd ailgylchu
  • rhoi arweiniad ar sut i ailgylchu'n effeithiol
  • cynnig gweithgareddau difyr a di-dâl i blant
  • darparu offer ailgylchu am ddim i drigolion ei gasglu
*

Ôl-gerbyd ailgylchu addysgol

Rydyn ni wedi troi hen uned arddangos segur yn rhywbeth hwyliog a chyffrous i hybu ailgylchu o fewn cymunedau.

Mae gennym ni:

  • fideos addysgol
  • gweithgareddau difyr a rhad ac am ddim i blant
  • gwybodaeth am effaith gwastraff ar yr amgylchedd
  • beth y gellir neu na ellir ei ailgylchu
  • offer ailgylchu am ddim i drigolion ei gasglu
*

Ymweliadau ysgolion ar orsaf drosglwyddo

Ar gael i'w drefnu o ddechrau 2025

Gallwn ddarparu ar gyfer ymweliadau dosbarth ysgol â'n Gorsaf Drosglwyddo. Yn addas ar gyfer dosbarthiadau a hoffai weld beth sy'n digwydd i'w gwastraff ac ailgylchu ar ôl iddo gael ei gasglu gan ein criwiau.

Yn ystod yr ymweliad, byddwch yn:

  • cael taith o amgylch yr orsaf drosglwyddo
  • gweld (ac arogli ! ) sut mae deunyddiau yn cael eu dadlwytho o'r lorïau
  • cymryd rhan mewn sesiynau rhyngweithiol llawn hwyl yn ein hystafell ddosbarth.

O lwyfan gwylio, bydd plant yn cael y cyfle i:

  • gweld lle mae'r lorïau sbwriel ac ailgylchu yn dadlwytho
  • gweld ein peiriannau yn didoli'r ailgylchu
  • deall sut mae adnabod deunyddiau yn hanfodol i'r broses o ailgylchu

Bydd y dosbarth yn cael ei rannu'n grwpiau fydd yn cylchdroi o fewn gweithgareddau. Bydd un grŵp yn mynd i'r llwyfan gwylio. Bydd y grŵp arall yn mynd i'n hardal ystafell ddosbarth. Bydd o leiaf un aelod o’n tîm ac athro yn goruchwylio pob grŵp.

Gallwn ddarparu ar gyfer un dosbarth o uchafswm o 35 o blant fesul ymweliad. Bydd yr ymweliad yn para tua 2 awr. 

Rhaid i blant fod o leiaf 7 oed.

Mae mynediad i'r anabl i'r ystafell ddosbarth. Nid oes mynediad i'r anabl ar gael ar y llwyfan gwylio.

*

Archebu

Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw un o'r uchod, e-bostiwch recycle4NPT@npt.gov.uk. Bydd ein tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac argaeledd.