Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Trwydded Berfformio i Blant/ Trwydd y Gwarchodwr

Trwydded Berfformio i Blant

Mae trwyddedau perfformiad yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth - Rheoliadau Plant (Perfformiad a Gweithgareddau) (Cymru) 2015

Yn ôl y ddeddfwriaeth hon, mae'n ofynnol i'r holl blant, o fabanod nes eu bod yn hyn nag oed ysgol gorfodol, gael eu trwyddedu gan yr Awdurdod Addysg Lleol lle maent yn byw, i gymryd rhan mewn perfformiad.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Drwyddedau Perfformiad ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae angen dychwelyd ffurflenni wedi'u llenwi i:

Tim Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd, Canolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ

Cymeradwyaeth Corff o Bersonau (CCB)

 Mewn rhai achosion, gall trefnydd ymgeisio am Gymeradwyaeth Corff o Bersonau (CCB) gan yr awdurdod lleol lle cynhelir eu perfformiad(au). Mae CCB yn cynnwys yr holl blant ar unwaith felly nid oes angen trwyddedau unigol.

Dyma'r gofynion allweddol:

  • Nid yw plant yn derbyn unrhyw dâl ac nid oes unrhyw un arall yn derbyn tâl er mwyn i'r plentyn gymryd rhan.
  • Nid oes angen i blant dreulio amser i ffwrdd o'r ysgol ar gyfer yr ymarferion neu'r perfformiad
  • Mae'n rhaid i'r sefydliad ddangos bod ganddo systemau cadarn ac effeithiol i ddiogelu plant yn ystod ymarferion a pherfformiadau.

Os na chaiff y gofynion hyn eu bodloni, bydd angen trwyddedi unigol.

Gall awdurdod osod amodau sy'n sicrhau lles y plant a gall ddiddymu cymeradwyaeth os nad yw'r rhain yn cael eu bodloni.

Trwydded y Gwarchodwr

Mae Gwarchodwr yn berson a drwyddedir i ofalu am blentyn neu blant sy'n gweithio yn y byd adloniant. Bydd Gwarchodwr yn sicrhau nad yw unrhyw blentyn neu blant dan ei ofal yn gweithio gormod o oriau heb seibiannau cywir, bod addysg yn cael ei darparu mewn rhai amgylchiadau ac y gofelir am ddiogelwch, cysur a lles y plentyn/plant.

Mae'n ofyniad cyfreithiol, pryd bynnag y mae plant o oed ysgol gorfodol yn cymryd rhan mewn perfformiad neu adloniant cyhoeddus dan drwydded a roddir gan yr Awdurdod Addysg Lleol, mae'n rhaid iddynt gael eu goruchwylio ar bob adeg, oni bai eu bod dan oruchwyliaeth uniongyrchol rhiant neu diwtor cytunedig.

Mae rhagor o wybodaeth mewn perthynas â Gwarchodwyr wedi'i gynnwys yn y ddogfen Canllawiau Llywodraeth Cymru 'Cadw Perfformwyr Ifanc yn Ddiogel', isod.

Sut mae cofrestru fel Hebryngwr?

Mae gan unrhyw berson dros 18 mlwydd oed yr hawl i wneud cais i ddod yn Hebryngwr Trwyddedig i'r Awdurdod Lleol.
Er mwyn gwneud hyn mae rhaid cydymffurfio â'r meini prawf canlynol:

  • Cyflwyno ‘Ffurflen Gais Trwydded Hebryngwr' wedi'i chwblhau'n llawn
  • Os yw'r hebryngwr yn wirfoddolwr (hy nid yw'n cael ei dalu am ddyletswyddau hebrwng) yna rhaid cwblhau'r ffurflen 'Datganiad Gwirfoddoli'
  • Ymgymryd â chwblhau cais ar-lein am 'Dystysgrif Datganiad Uwch'
  • Darparu dogfennau adnabod penodol
  • Darparu dau ffotograff maint pasbort diweddar
  • Cyflwyno dau gyfeirnod boddhaol
  • Presenoldeb mewn sesiwn hyfforddi hebryngwyr gan yr awdurdod (Cynhelir sesiynau hyfforddiant unwaith bob chwarter; darperir manylion pan fyddwch yn cyflwyno cais)
  • Ymwybyddiaeth o'r ddeddfwriaeth berthnasol
  • Ymwybyddiaeth o amddiffyn plant
  • Presenoldeb mewn cyfweliad â Swyddog Trwyddedu Plant Castell-nedd Port Talbot

I'r rhai sydd am gyflwyno cais am Drwydded Berfformio, cwblhewch y Ffurflen Gais Trwydded Berfformio isod.

Rhaid cyflwyno ceisiadau am drwydded 3 mis cyn dechrau'r perfformiad. Rhaid cwblhau ceisiadau o fewn 3 mis o ddyddiad cyflwyno'r cais.

  • Cais Am Gymeradwyaeth Fel Hebryngwr Ar Gyfer Plant Mewn Adloniant (DOCX 48 KB)

    i.Id: 4681
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: Cais Am Gymeradwyaeth Fel Hebryngwr Ar Gyfer Plant Mewn Adloniant
    mSize: 48 KB
    mType: docx
    i.Url: /media/ayffb0jp/chaperone-licence-application-form-welsh.docx

  • Datganiad Trwydded Hebryngwr (Gwirfoddolwr) (DOCX 40 KB)

    i.Id: 4682
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: Datganiad Trwydded Hebryngwr (Gwirfoddolwr)
    mSize: 40 KB
    mType: docx
    i.Url: /media/bvbmrvss/chaperone-volunteer-declaration-cymraeg.docx

  • Ffurflen Ganiatâd i Wirio Statws Ar-lein y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DOCX 47 KB)

    i.Id: 4684
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: Ffurflen Ganiatâd i Wirio Statws Ar-lein y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
    mSize: 47 KB
    mType: docx
    i.Url: /media/itkc20lz/dbs-update-service-consent-form-cymraeg.docx

Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau