Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Derbyniadau ysgolion uwchradd

Mae derbyniadau i ysgolion uwchradd ar gyfer 2025-2026 bellach ar agor.

Dylid cwblhau a dychwelyd ceisiadau ar-lein a phapur erbyn 29 Tachwedd 2024.

Bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu trin fel ceisiadau hwyr.

Gwnewch gais ar-lein

Gallwch wneud cais am le mewn ysgol uwchradd 2025-2026 ar-lein.

Os hoffech wneud cais am le mewn ysgol uwchradd bresennol, cyfeiriwch at Dderbyniadau yn ystod y Flwyddyn.

Gwnewch gais drwy'r post

Gallwch hefyd lawrlwytho a chwblhau'r ffurflen gais isod:

Lawrlwythwch

  • Cais derbyn i ysgolion uwchradd 2025-2026 (DOCX 59 KB)

Dychweliadau'r post

Bydd angen i chi ddychwelyd y ffurflen gais bapur i:

Swyddfa Derbyn yr Ysgol
Canolfan Ddinesig Port Talbot Castell-nedd Port Talbot SA13 1PJ pref

Cadarnhad lleoliad ac apeliadau

Byddwn yn rhoi gwybod i rieni ac ysgolion sydd â lleoedd wedi’u cadarnhau ar 3 Mawrth 2025.

Gallwch apelio o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad hwn.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r Tîm Derbyn i Ysgolion:

Tîm Derbyn i Ysgolion
(01639) 763580 (01639) 763580 voice +441639763580
(01639) 763730 (01639) 763730 voice +441639763730

Ysgol a gynorthwyir yn wirfoddol

Gallwch hefyd wneud cais ar-lein i gael eich derbyn i'r ysgol uwchradd (Blwyddyn 7) ar gyfer Ysgol Gatholig Sant Joseff a'r 6ed dosbarth.

Cwestiynau cyffredin

Dylech roi'ch cyfeiriad parhaol presennol lle rydych yn byw ar adeg llenwi'r ffurflen. Ystyrir mai cyfeiriad cartref y plentyn yw eiddo preswyl sy'n unig neu'n brif breswylfa'r plentyn. Ar adeg y cais, rhaid cael prawf o breswylio parhaol yn yr eiddo perthnasol. Lle bo tystiolaeth ddogfennol yn cadarnhau bod gofal yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng rhieni mewn cyfeiriadau ar wahân, a hynny'n dderbyniol gan yr awdurdod lleol, rhaid i rieni enwi'r cyfeiriad a fydd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion dyrannu lle ysgol.

Os byddwch yn rhestru un ysgol yn unig, ni allwch fod yn siŵr y caiff eich plentyn le yno ac, os byddwch yn aflwyddiannus, ni fyddwn yn gwybod beth fyddai eich ail neu drydydd dewis. Rydym yn argymell yn gryf y dylech nodi mwy nag un dewis. Nid yw gwneud hynny'n lleihau'ch cyfle i gael yr ysgol sy'n ddewis cyntaf i chi.

Na fydd. Cewch eich ystyried am le mewn dosbarth derbyn mewn ysgol gymunedol yng Nghastell-nedd Port Talbot dim ond os yw'r ffurflen gais berthnasol wedi'i chwblhau. Gan nad yw darpariaeth feithrin mewn ysgolion yn cael ei hystyried yn addysg statudol, caiff eich cais ei ystyried fel pawb arall sydd heb fod mewn dosbarth meithrin. Mae'n hollbwysig eich bod yn cyflwyno cais newydd i ymgeisio am le mewn dosbarth derbyn naill ai ar-lein neu drwy gwblhau'r ffurflen gais.

Oes, mae gan Ysgol Uwchradd Sant Joseff, Ysgol Babanod, Iau a Gynradd Sant Joseff, St Therese, Henadur Davies AGC a Bryncoch AGC eu hawdurdod derbyn eu hunain. Cysylltwch â'r ysgol berthnasol yn uniongyrchol am eu ffurflen dderbyn berthnasol.

Mae rhywfaint o wybodaeth yn y llawlyfr i rieni. Gallwch hefyd gysylltu â'r ysgol y mae gennych ddiddordeb ynddi i gael copi o'i phrosbectws, a fydd yn rhoi mwy o fanylion i chi am yr ysgol. Gallwch hefyd ofyn am gael ymweld â'r ysgol a siarad â'r pennaeth.

Ydych. Wrth wneud cais am ysgol mewn awdurdod lleol arall, dylech gysylltu â'r cyngor perthnasol er mwyn cael ffurflen gais a chyflwyno'r cais yn uniongyrchol iddo.

Rhaid cyflwyno cais ar ffurflen bapur i dîm derbyniadau Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer unrhyw blentyn sydd am fynd i ysgol yn y sir.

Rhaid cyflwyno unrhyw newidiadau yn ysgrifenedig i'r tîm derbyniadau p'un a ydynt wedi digwydd cyn neu ar ôl y dyddiad cau.

Bydd eich llythyr dyrannu lle yn esbonio paham nad oedd yn bosib cynnig lle i chi yn eich ysgol o ddewis a'r broses ar gyfer apelio yn erbyn y penderfyniad. Bydd enw'ch plentyn, os yw wedi'i nodi, hefyd yn cael ei gynnwys ar restr aros yn eich ysgol o ddewis, sy'n golygu y byddwn yn ystyried eich plentyn ar gyfer unrhyw leoedd a fydd ar gael ar ôl y dyrannu cyntaf. Fodd bynnag, nid oes sicrwydd y bydd lle yn dod yn wag na chwaith y cewch le os bydd un ar gael.

Os bydd mwy o blant ar y rhestr aros na'r lleoedd sydd ar gael, byddwn yn dyrannu'r lleoedd i'r rhai sy'n bodloni'r meini prawf derbyn orau. Mae'r un meini prawf yn cael eu defnyddio yn y broses ddyrannu gyntaf.

Mae'n bosibl bod yr e-bost wedi cael ei atal gan fesurau gwrth-sbam a roddwyd ar waith gan eich darparwr gwasanaeth rhyngrwyd neu gan eich gosodiadau yn eich cleient e-bost.

Chwiliwch i weld a yw'r e-bost perthnasol wedi'i gam-nodi fel 'sothach' ac wedi'i roi yn y ffolder sothach os ydych yn defnyddio Outlook/Outlook Express. Os ydych yn siŵr bod yr e-bost heb ei anfon atoch chi, cysylltwch â'ch darparwr i weld a oes modd olrhain yr e-bost i ddarganfod beth sydd wedi digwydd.

Y darparwyr gwasanaeth sy'n dioddef fwyaf o'r broblem o nodi e-byst allweddol yn sbam mewn camgymeriad yw aol.com, hotmail.com, hotmail.co.uk, yahoo.co.uk, yahoo.com a btinternet.com.

E-bostiwch admissions@npt.gov.uk yn gofyn am ailosod eich cyfrinair. Bydd e-bost newydd yn cael ei gynhyrchu a'i anfon i'ch cyfeiriad e-bost cofrestredig gyda dolen i'w hailosod.

Mewngofnodwch gyda'ch hen gyfeiriad a dewis 'Change my login details'.

Rhowch eich cyfeiriad yn y blychau cyfeiriad.

Rydych yn gallu gwneud cais dros efeilliaid, tripledi etc gan ddefnyddio'r system dderbyniadau ar-lein, ond RHAID sicrhau eich bod yn cyflwyno cais ar wahân ar gyfer pob plentyn.