Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Derbyniadau ysgolion meithrin

Mae derbyniadau ysgolion meithrin ar gyfer 2025-2026 bellach ar agor.

Dylid cwblhau a dychwelyd ceisiadau ar-lein a phapur erbyn 14 Mawrth 2025.

Bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu trin fel ceisiadau hwyr.

Gwnewch gais ar-lein

Gallwch wneud cais am le mewn ysgol feithrin 2025-2026 ar-lein.

Gwneud cais drwy'r post

Gallwch hefyd lawrlwytho a llenwi'r ffurflen gais isod:

Lawrlwythwch

  • Cais derbyn i ysgol feithrin 2025-2026 (DOCX 58 KB)
  • Cais derbyn i ysgol feithrin 2024-2025 (DOCX 59 KB)
Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau

Dychweliadau'r post

Bydd angen i chi ddychwelyd y ffurflen gais bapur i:

Swyddfa Derbyn yr Ysgol
Canolfan Ddinesig Port Talbot Castell-nedd Port Talbot SA13 1PJ pref

Cadarnhad lle

Byddwn yn rhoi gwybod i rieni ac ysgolion sydd â lleoedd wedi’u cadarnhau ar 16 Mai 2025.

Lle meithrin rhan amser

Mae ysgolion cynradd yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cynnig darpariaeth feithrin ran-amser.

Cyn belled â bod lle yn y dosbarth, gall plant gael lle meithrin rhan amser o:

  • ddechrau’r tymor yn dilyn eu trydydd penblwydd
  • y diwrnod ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed

Nid yw mynychu dosbarth meithrin yn rhoi'r hawl awtomatig i blentyn gael lle mewn dosbarth derbyn yn yr un ysgol.

Bydd angen cyflwyno cais ar wahân ar gyfer derbyniad i’r dosbarth derbyn yn yr ysgol y dymunwch i’ch plentyn ei mynychu.

Cynnig Gofal Plant

O dan y Cynnig Gofal Plant i CNPTgallech hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r Tîm Derbyn i Ysgolion:

Tîm Derbyn i Ysgolion
(01639) 763580 (01639) 763580 voice +441639763580
(01639) 763730 (01639) 763730 voice +441639763730

Cwestiynau cyffredin

Dylech roi'ch cyfeiriad parhaol presennol lle rydych yn byw ar adeg llenwi'r ffurflen. Ystyrir mai cyfeiriad cartref y plentyn yw eiddo preswyl sy'n unig neu'n brif breswylfa'r plentyn. Ar adeg y cais, rhaid cael prawf o breswylio parhaol yn yr eiddo perthnasol. Lle bo tystiolaeth ddogfennol yn cadarnhau bod gofal yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng rhieni mewn cyfeiriadau ar wahân, a hynny'n dderbyniol gan yr awdurdod lleol, rhaid i rieni enwi'r cyfeiriad a fydd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion dyrannu lle ysgol.

Os byddwch yn rhestru un ysgol yn unig, ni allwch fod yn siŵr y caiff eich plentyn le yno ac, os byddwch yn aflwyddiannus, ni fyddwn yn gwybod beth fyddai eich ail neu drydydd dewis. Rydym yn argymell yn gryf y dylech nodi mwy nag un dewis. Nid yw gwneud hynny'n lleihau'ch cyfle i gael yr ysgol sy'n ddewis cyntaf i chi.

Na fydd. Cewch eich ystyried am le mewn dosbarth derbyn mewn ysgol gymunedol yng Nghastell-nedd Port Talbot dim ond os yw'r ffurflen gais berthnasol wedi'i chwblhau. Gan nad yw darpariaeth feithrin mewn ysgolion yn cael ei hystyried yn addysg statudol, caiff eich cais ei ystyried fel pawb arall sydd heb fod mewn dosbarth meithrin. Mae'n hollbwysig eich bod yn cyflwyno cais newydd i ymgeisio am le mewn dosbarth derbyn naill ai ar-lein neu drwy gwblhau'r ffurflen gais.

Oes, mae gan Ysgol Uwchradd Sant Joseff, Ysgol Babanod, Iau a Gynradd Sant Joseff, St Therese, Henadur Davies AGC a Bryncoch AGC eu hawdurdod derbyn eu hunain. Cysylltwch â'r ysgol berthnasol yn uniongyrchol am eu ffurflen dderbyn berthnasol.

Mae rhywfaint o wybodaeth yn y llawlyfr i rieni. Gallwch hefyd gysylltu â'r ysgol y mae gennych ddiddordeb ynddi i gael copi o'i phrosbectws, a fydd yn rhoi mwy o fanylion i chi am yr ysgol. Gallwch hefyd ofyn am gael ymweld â'r ysgol a siarad â'r pennaeth.

Ydych. Wrth wneud cais am ysgol mewn awdurdod lleol arall, dylech gysylltu â'r cyngor perthnasol er mwyn cael ffurflen gais a chyflwyno'r cais yn uniongyrchol iddo.

Rhaid cyflwyno cais ar ffurflen bapur i dîm derbyniadau Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer unrhyw blentyn sydd am fynd i ysgol yn y sir.

Rhaid cyflwyno unrhyw newidiadau yn ysgrifenedig i'r tîm derbyniadau p'un a ydynt wedi digwydd cyn neu ar ôl y dyddiad cau.

Bydd eich llythyr dyrannu yn esbonio'r rheswm pam nad oedd yn bosibl cynnig lle i chi yn yr ysgol o'ch dewis. Nid oes hawl statudol o dan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 i apelio yn erbyn gwrthodiadau meithrin. Bydd enw'ch plentyn os nodir hefyd yn cael ei gynnwys ar restr aros ar gyfer eich ysgol ddewisol, sy'n golygu y byddwn yn ystyried eich plentyn ar gyfer unrhyw leoedd a ddaw ar gael ar ôl y dyraniad cychwynnol. Fodd bynnag, nid oes unrhyw sicrwydd y daw lle ar gael neu y byddwch yn cael lle os ydyw.

Os bydd mwy o blant ar y rhestr aros na'r lleoedd sydd ar gael, byddwn yn dyrannu'r lleoedd i'r rhai sy'n bodloni'r meini prawf derbyn orau. Mae'r un meini prawf yn cael eu defnyddio yn y broses ddyrannu gyntaf.

Mae'n bosibl bod yr e-bost wedi cael ei atal gan fesurau gwrth-sbam a roddwyd ar waith gan eich darparwr gwasanaeth rhyngrwyd neu gan eich gosodiadau yn eich cleient e-bost.

Chwiliwch i weld a yw'r e-bost perthnasol wedi'i gam-nodi fel 'sothach' ac wedi'i roi yn y ffolder sothach os ydych yn defnyddio Outlook/Outlook Express. Os ydych yn siŵr bod yr e-bost heb ei anfon atoch chi, cysylltwch â'ch darparwr i weld a oes modd olrhain yr e-bost i ddarganfod beth sydd wedi digwydd.

Y darparwyr gwasanaeth sy'n dioddef fwyaf o'r broblem o nodi e-byst allweddol yn sbam mewn camgymeriad yw aol.com, hotmail.com, hotmail.co.uk, yahoo.co.uk, yahoo.com a btinternet.com.

E-bostiwch admissions@npt.gov.uk yn gofyn am ailosod eich cyfrinair. Bydd e-bost newydd yn cael ei gynhyrchu a'i anfon i'ch cyfeiriad e-bost cofrestredig gyda dolen i'w hailosod.

Mewngofnodwch gyda'ch hen gyfeiriad a dewis 'Change my login details'.

Rhowch eich cyfeiriad yn y blychau cyfeiriad.

Rydych yn gallu gwneud cais dros efeilliaid, tripledi etc gan ddefnyddio'r system dderbyniadau ar-lein, ond RHAID sicrhau eich bod yn cyflwyno cais ar wahân ar gyfer pob plentyn.