Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Derbyniadau meithrin ysgolion

Mae ysgolion cynradd yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cynnig darpariaeth feithrin rhan amser.

Pryd all plant ddechrau meithrinfa

Gall plant gael mynediad i le feithrin rhan amser o ddechrau'r tymor yn dilyn eu trydydd pen-blwydd neu'r diwrnod ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed ar yr amod fod digon o le yn y feithrinfa

Nid yw mynychu Dosbarth Meithrin yn rhoi hawl awtomatig plentyn i le mewn dosbarth derbyn yn yr un ysgol. Bydd yn rhaid i'w cyflwyno ar gyfer derbyn i'r dosbarth derbyn yn yr ysgol yr hoffech i'ch plentyn ei mynychu cais ar wahân.

Sut i wneud cais am le mewn ysgol

Bydd ceisiadau ar gyfer y plant hynny a fydd yn 3 oed rhwng:

  • 1 Medi 2025 a 31 Awst 2026

ar gael gan y Tîm Derbyniadau o 7 Hydref 2024.

Rhaid i'r ffurflenni cais yn cael ei ddychwelyd erbyn 14 mis Mawrth 2025.

Mae’r system ar-lein bellach ar gau a bydd rhaid cyflwyno ceisiadau ar bapur.

Sylwer y bydd yr holl geisiadau sy’n dod i law ar ôl y dyddiad cau’n cael eu prosesu fel ceisiadau hwyr.

cyn i chi ddechrau

Ar gyfer derbyn plant i ysgolion ffydd, cysylltwch â'r ysgolion yn uniongyrchol:

  • Alderman Davies yr Eglwys yng Nghymru Cynradd
  • Eglwys-yng-Nghymru Bryncoch Cynradd
  • Babanod Gatholig San Joseff
  • Ysgol Gynradd St Joseph Gatholig (Castell-nedd)
  • Ysgol Gynradd Gatholig St Therese

Gallwch hefyd lwytho a llenwch y ffurflen isod.

Llawrlwytho

  • Cais am dderbyn i ddosbarth Meithrin 2024-2025 (DOCX 59 KB)

Mae angen i chi ddychwelyd at:

Ysgol y Swyddfa Derbyn
Canolfan Ddinesig Port Talbot Castell-nedd Port Talbot SA13 1PJ pref

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r Tîm Derbyniadau Ysgolion:

Tîm Derbyniadau Ysgolion
(01639) 763580 (01639) 763580 voice +441639763580
(01639) 763730 (01639) 763730 voice +441639763730

Y cynnig gofalplant ar gyfer Castell-nedd Port Talbot

Mae'r Cynnig Gofal Plant i Gymru'n darparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant am ddim ar gyfer plant 3 a 4 oed y mae eu rhieni'n gymwys ac yn gweithio, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Mae'r cynnig yn cynnwys cyfuniad o'r ddarpariaeth Meithrin Cyfnod Sylfaen bresennol (sydd ar gael i bob plentyn 3 a 4 oed) a gofal plant ychwanegol a ariennir.

Caiff yr holl geisiadau am y Cynnig Gofal Plant eu prosesu gan Dîm Cynnig Gofal Plant Cyngor Castell-nedd Port Talbot.  Am fwy o wybodaeth, ewch i www.nptfamily.com 

Cwestiynau cyffredin

Dylech roi'ch cyfeiriad parhaol presennol lle rydych yn byw ar adeg llenwi'r ffurflen. Ystyrir mai cyfeiriad cartref y plentyn yw eiddo preswyl sy'n unig neu'n brif breswylfa'r plentyn. Ar adeg y cais, rhaid cael prawf o breswylio parhaol yn yr eiddo perthnasol. Lle bo tystiolaeth ddogfennol yn cadarnhau bod gofal yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng rhieni mewn cyfeiriadau ar wahân, a hynny'n dderbyniol gan yr awdurdod lleol, rhaid i rieni enwi'r cyfeiriad a fydd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion dyrannu lle ysgol.

Os byddwch yn rhestru un ysgol yn unig, ni allwch fod yn siŵr y caiff eich plentyn le yno ac, os byddwch yn aflwyddiannus, ni fyddwn yn gwybod beth fyddai eich ail neu drydydd dewis. Rydym yn argymell yn gryf y dylech nodi mwy nag un dewis. Nid yw gwneud hynny'n lleihau'ch cyfle i gael yr ysgol sy'n ddewis cyntaf i chi.

Mae rhywfaint o wybodaeth yn y llawlyfr i rieni. Gallwch hefyd gysylltu â'r ysgol y mae gennych ddiddordeb ynddi i gael copi o'i phrosbectws, a fydd yn rhoi mwy o fanylion i chi am yr ysgol. Gallwch hefyd ofyn am gael ymweld â'r ysgol a siarad â'r pennaeth.

Ydych. Wrth wneud cais am ysgol mewn awdurdod lleol arall, dylech gysylltu â'r cyngor perthnasol er mwyn cael ffurflen gais a chyflwyno'r cais yn uniongyrchol iddo.

Rhaid cyflwyno cais ar ffurflen bapur i dîm derbyniadau Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer unrhyw blentyn sydd am fynd i ysgol yn y sir.

Rhaid cyflwyno unrhyw newidiadau yn ysgrifenedig i'r tîm derbyniadau p'un a ydynt wedi digwydd cyn neu ar ôl y dyddiad cau.