Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cwestiynau cyffredin derbyniadau ysgolion

Pryd gall fy mhlentyn ddechrau yn yr ysgol?

Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae plant yn dechrau yn yr ysgol gynradd (amser llawn) yn y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 4 oed.

Mae holl ysgolion cynradd Castell-nedd hefyd yn cynnig addysg feithrin rhan-amser yn yr ysgol y gall plant fynychu y diwrnod ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed os oes lle i gael yn y dosbarth meithrin.

Pryd dylwn i wneud cais am le ysgol?

Derbyniadau meithrin ysgolion

The application forms must be returned by 15th March 2024.

Mae furflenni cais ar gael ar gyfer y plant hynny a fydd yn 3 oed rhwng:

  • 1 Medi 2023 a 31 Awst 2024

ar gael gan y Tîm Derbyniadau o 3 Hydref 2022.

Rhaid i'r ffurflenni cais yn cael ei ddychwelyd erbyn 18 mis Mawrth 2023.

Derbyniadau ysgolion cynradd neu ysgolion uwchradd

Mae’r system ar-lein bellach ar gau a bydd rhaid cyflwyno ceisiadau ar bapur.

Ydw i'n gallu gwneud cais am le ysgol ar-lein?

Ydych. Gallwch wneud cais ar-lein am le ym mhob ysgol gymunedol wrth drosglwyddo i ddosbarth Derbyn, o ysgol fabanod i ysgol iau ac i ysgol gyfun ym mis Medi. Gan gynnwys St Joseph's RC School & 6th Form.

Os hoffech wneud cais am le mewn ysgol a gynhelir yn wirfoddol arall gan gynnwys: Alderman Davies CIW Primary, Bryncoch CIW Primary, St Joseph's RC Infant School, St Joseph's RC Junior School, St Joseph's RC Primary School a St Therese's RC Primary School cysylltwch â'r ysgol yn uniongyrchol i gael ffurflen gais.

Os hoffech wneud cais am le meithrin mewn unrhyw ysgol gymunedol neu am newid ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd (trosglwyddo yn y flwyddyn ysgol), cysylltwch â'r tîm derbyniadau'n uniongyrchol i gael y ffurflenni cais perthnasol.

Yn dilyn hynny, os ydych yn dymuno gwneud cais ar ôl y dyddiad cau, cysylltwch â'r tîm derbyniadau yn uniongyrchol i gael y ffurflenni cais perthnasol.

Pa gyfeiriad dylwn ei roi ar fy ffurflen gais?

Dylech roi'ch cyfeiriad parhaol presennol lle rydych yn byw ar adeg llenwi'r ffurflen. Ystyrir mai cyfeiriad cartref y plentyn yw eiddo preswyl sy'n unig neu'n brif breswylfa'r plentyn. Ar adeg y cais, rhaid cael prawf o breswylio parhaol yn yr eiddo perthnasol. Lle bo tystiolaeth ddogfennol yn cadarnhau bod gofal yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng rhieni mewn cyfeiriadau ar wahân, a hynny'n dderbyniol gan yr awdurdod lleol, rhaid i rieni enwi'r cyfeiriad a fydd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion dyrannu lle ysgol.

Rwy'n gwybod i ba ysgol rwy'n dymuno i'm plentyn fynd iddi. Pam dylwn i ofyn am ysgolion eraill?

Os byddwch yn rhestru un ysgol yn unig, ni allwch fod yn siŵr y caiff eich plentyn le yno ac, os byddwch yn aflwyddiannus, ni fyddwn yn gwybod beth fyddai eich ail neu drydydd dewis. Rydym yn argymell yn gryf y dylech nodi mwy nag un dewis. Nid yw gwneud hynny'n lleihau'ch cyfle i gael yr ysgol sy'n ddewis cyntaf i chi.

Os yw fy mhlentyn yn mynd i ddosbarth meithrin yn un o'r ysgolion o'm dewis, a fydd sicrwydd lle iddo yn y dosbarth derbyn?

Na fydd. Cewch eich ystyried am le mewn dosbarth derbyn mewn ysgol gymunedol yng Nghastell-nedd Port Talbot dim ond os yw'r ffurflen gais berthnasol wedi'i chwblhau. Gan nad yw darpariaeth feithrin mewn ysgolion yn cael ei hystyried yn addysg statudol, caiff eich cais ei ystyried fel pawb arall sydd heb fod mewn dosbarth meithrin. Mae'n hollbwysig eich bod yn cyflwyno cais newydd i ymgeisio am le mewn dosbarth derbyn naill ai ar-lein neu drwy gwblhau'r ffurflen gais.

Rwyf am wneud cais i ysgol gatholig neu'r Eglwys yng Nghymru. Oes rhaid i mi lenwi ffurflen wahanol?

Oes. Mae ysgolion uwchradd, babanod ac iau St Joseff, Ysgol Gynradd Henadur Davies yr Eglwys yng Nghymru, ac Ysgol Bryncoch yr Eglwys yng Nghymru yn gweithredu fel eu hawdurdod derbyn eu hunain. Cysylltwch â'r ysgol berthnasol yn uniongyrchol i gael eu ffurflen dderbyn berthnasol.

Sut gallaf gael mwy o wybodaeth am ysgol gynradd, fabanod, iau neu gyfun benodol?

Mae rhywfaint o wybodaeth yn y llawlyfr i rieni. Gallwch hefyd gysylltu â'r ysgol y mae gennych ddiddordeb ynddi i gael copi o'i phrosbectws, a fydd yn rhoi mwy o fanylion i chi am yr ysgol. Gallwch hefyd ofyn am gael ymweld â'r ysgol a siarad â'r pennaeth.

Ydw i'n gallu gwneud cais am ysgol mewn awdurdod lleol arall?

Ydych. Wrth wneud cais am ysgol mewn awdurdod lleol arall, dylech gysylltu â'r cyngor perthnasol er mwyn cael ffurflen gais a chyflwyno'r cais yn uniongyrchol iddo.

Beth yw'r drefn os nad ydw i'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot ond am i'm plentyn fynd i ysgol yn y sir?

Rhaid cyflwyno cais ar ffurflen bapur i dîm derbyniadau Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer unrhyw blentyn sydd am fynd i ysgol yn y sir.

Beth os yw'r wybodaeth rwyf wedi'i chyflwyno ar y ffurflen gais yn newid?

Rhaid cyflwyno unrhyw newidiadau yn ysgrifenedig i'r tîm derbyniadau p'un a ydynt wedi digwydd cyn neu ar ôl y dyddiad cau.

Beth dylwn ei wneud os nad ydw i'n cael y lle roeddwn i'n ei ddymuno?

Bydd eich llythyr dyrannu lle yn esbonio paham nad oedd yn bosib cynnig lle i chi yn eich ysgol o ddewis a'r broses ar gyfer apelio yn erbyn y penderfyniad. Bydd enw'ch plentyn, os yw wedi'i nodi, hefyd yn cael ei gynnwys ar restr aros yn eich ysgol o ddewis, sy'n golygu y byddwn yn ystyried eich plentyn ar gyfer unrhyw leoedd a fydd ar gael ar ôl y dyrannu cyntaf.  Fodd bynnag, nid oes sicrwydd y bydd lle yn dod yn wag na chwaith y cewch le os bydd un ar gael.

Os daw lleoedd gwag, ac mae mwy o blant ar y rhestr aros na'r lleoedd sydd ar gael, sut mae'r lleoedd sydd ar gael yn cael eu dyrannu?

Os bydd mwy o blant ar y rhestr aros na'r lleoedd sydd ar gael, byddwn yn dyrannu'r lleoedd i'r rhai sy'n bodloni'r meini prawf derbyn orau. Mae'r un meini prawf yn cael eu defnyddio yn y broses ddyrannu gyntaf.

Rwyf wedi cwblhau'r ffurflen ar-lein i gofrestru ond nid wyf wedi derbyn e-bost eto

Mae'n bosibl bod yr e-bost wedi cael ei atal gan fesurau gwrth-sbam a roddwyd ar waith gan eich darparwr gwasanaeth rhyngrwyd neu gan eich gosodiadau yn eich cleient e-bost.

Chwiliwch i weld a yw'r e-bost perthnasol wedi'i gam-nodi fel 'sothach' ac wedi'i roi yn y ffolder sothach os ydych yn defnyddio Outlook/Outlook Express. Os ydych yn siŵr bod yr e-bost heb ei anfon atoch chi, cysylltwch â'ch darparwr i weld a oes modd olrhain yr e-bost i ddarganfod beth sydd wedi digwydd. 

Y darparwyr gwasanaeth sy'n dioddef fwyaf o'r broblem o nodi e-byst allweddol yn sbam mewn camgymeriad yw aol.com, hotmail.com, hotmail.co.uk, yahoo.co.uk, yahoo.com a btinternet.com.

Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair

Ewch i dudalen mewngofnodi'r dudalen croeso, cliciwch ar “Forgotten your password?” a rhowch eich enw defnyddiwr. Caiff e-bost newydd ei gynhyrchu a'i anfon i'ch cyfeiriad e-bost cofrestredig ynghyd â dolen i ailosod manylion y cyfrinair.

Beth os ydw i'n newid fy nghyfeiriad e-bost?

Mewngofnodwch gyda'ch hen gyfeiriad a dewis 'Change my login details'.

Dwi ddim yn gallu dod o hyd i'm cyfeiriad ar restr gyfeiriadau'r gwymplen

Rhowch eich cyfeiriad yn y blychau cyfeiriad.

Ydw i'n gallu defnyddio'r un cyfrif i gyflwyno mwy nag un cais (e.e. cais dros efeilliaid neu frodyr a chwiorydd mewn grwpiau blwyddyn gwahanol)

Rydych yn gallu gwneud cais dros efeilliaid, tripledi etc gan ddefnyddio'r system dderbyniadau ar-lein, ond RHAID sicrhau eich bod yn cyflwyno cais ar wahân ar gyfer pob plentyn.