Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu 2024
Caiff Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (CHTh) eu hethol yn ddemocrataidd bob pedair blynedd.
Disgwylir i'r etholiad nesaf sydd wedi'i drefnu gael ei gynnal ddydd Iau 2 Mai 2024.
Mae Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu (SCAH) yn gyfrifol am gynnal yr etholiad cyffredinol mewn maes penodol. Mae eu rolau yn cynnwys:
- cysylltu ag ymgeiswyr ac asiantau
- coladu canlyniad yr etholiad yn dilyn dilysu a chyfrif pleidleisiau
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi'i benodi fel yr awdurdod SCAH arweiniol ar gyfer ardal Heddlu De Cymru.
Dod o hyd i wybodaeth am yr ymgeiswyr wy’n sefyll.
Amserlen digwyddiadau allweddol
Digwyddiad | Dyddiad |
---|---|
Hysbysiad o Etholiad | 25 Mawrth 2024 |
Dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau | 5 Ebrill 2024 (4yp) |
Briffio ymgeiswyr ac asiantiaid | 11 Mawrth (3:30yp-4:30yp) |
Anfon cardiau pleidleisio | 26 Mawrth 2024 |
Cyhoeddi datganiad am y bobl a enwebwyd | 8 Ebrill 2024 (4yp) |
Dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio | 16 Ebrill 2024 |
Dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio | 17 Ebrill 2024 |
Anfon pleidleisiau drwy'r post | 18-19 Ebrill 2024 |
Briffio ymgeiswyr ac asiantiaid | 18 Ebrill 2024 (11yb – 12yp) |
Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr | 24 Ebrill 2024 (5yp) |
Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy | 24 Ebrill 2024 (5yp) |
Diwrnod pleidleisio | 2 Mai 2024 (7yb – 10yp) |
Gwybodaeth bellach a hysbysiadau swyddogol
Mae ardal heddlu De Cymru yn cynnwys yr ardaloedd awdurdod lleol canlynol:
Cofrestru i bleidleisio
Er mwyn pleidleisio mewn etholiad CHTh mae'n rhaid i chi:
- fod wedi cofrestru i bleidleisio
- yn 18 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad ('diwrnod pleidleisio')
- bod yn ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig, cymwys o'r Gymanwlad neu'r UE
- bod yn preswylio mewn cyfeiriad yng Nghymru neu Loegr (ac eithrio Llundain)
- peidio â chael eich gwahardd yn gyfreithiol rhag pleidleisio
Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein:
Y dyddiad cau i gofrestru yw hanner nos, nos Fawrth 16 Ebrill 2024.
Os nad ydych yn siŵr a ydych eisoes wedi'ch cofrestru i bleidleisio, cysylltwch â'r swyddfa gwasanaethau etholiadol:
Pleidleisio drwy'r post
Os oes angen i chi bleidleisio drwy'r post yn yr etholiad hwn, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol am ragor o wybodaeth.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy'r post, neu i ganslo neu newid pleidlais drwy'r post bresennol yn yr etholiad hwn yw 5pm dydd Mercher 17 Ebrill.
Rheolau newydd ar gyfer trafod pleidleisiau drwy'r post
Mae rheolau newydd wedi'u cyflwyno ynghylch trafod pleidleisiau drwy'r post:
- bydd cyfyngiad ar nifer y pleidleisiau drwy'r post y gall person gyflwyno'n bersonol mewn gorsaf bleidleisio neu yn swyddfeydd y cyngor
- bydd cyfyngiad ar nifer y pleidleisiau drwy'r post y gall person gyflwyno'n bersonol mewn gorsaf bleidleisio neu yn swyddfeydd y cyngor
- os yw person yn cyflwyno mwy na phum pecyn pleidleisio drwy'r post ar gyfer etholwyr eraill, gwrthodir yr holl bleidleisiau drwy'r post (ac eithrio pecyn y person ei hun)
- bydd angen i unrhyw un sy'n cyflwyno pleidleisiau drwy'r post yn bersonol gwblhau ffurflen 'dychwelyd dogfennau pleidleisio drwy'r post'.
- felly, ni allwn dderbyn pleidleisiau drwy'r post sy'n cael eu gadael yn y blwch llythyrau yn swyddfeydd y cyngor mwyach
- bydd unrhyw bleidleisiau drwy'r post sy'n cael eu gadael mewn unrhyw un o adeiladau'r cyngor heb fod y ffurflen 'dychwelyd dogfennau pleidleisio drwy'r post' wedi'i llenwi yn cael eu gwrthod
- byddem felly'n argymell bod pleidleisiau drwy'r post yn cael eu dychwelyd atom drwy'r Post Brenhinol cyn gynted â phosib cyn y diwrnod pleidleisio
Pleidleisio drwy ddirprwy
Os hoffech i rywun arall bleidleisio ar eich rhan yn yr etholiad hwn, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol am ragor o wybodaeth.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm, ddydd Mercher 24 Ebrill.
Os, ar ôl 5pm ar 24 Ebrill, y cewch eich hun mewn sefyllfa lle na allwch bleidleisio'n bersonol, oherwydd rhesymau gwaith neu feddygol, gall fod hawl gennych i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng.
Cysylltwch â'r tîm Gwasanaethau Etholiadol i gael rhagor o wybodaeth.
Hunaniaeth Pleidleisiwr
Mae hi bellach yn ofyniad i gyflwyno dull adnabod sy'n cael ei dderbyn wrth bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys y mathau o ddulliau adnabod sy'n cael eu derbyn, ewch i'n tudalen ID Pleidleisiwr.
Rôl Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Caiff Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu eu hethol gan y cyhoedd i ddal y Prif Gwnstabl a'r heddlu i gyfrif. Mae hyn i bob pwrpas yn gwneud yr heddlu'n atebol i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Maent yn gweithio mewn partneriaeth ar draws ystod o asiantaethau, yn lleol ac yn genedlaethol, i sicrhau ymagwedd unedig at atal a lleihau troseddau.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am rôl y Comisiynydd a’i bwerau a’i gyfrifoldebau.
Gwybodaeth i ddarpar ymgeiswyr
Mae canllawiau ac adnoddau helaeth i ymgeiswyr ac asiantiaid i'w cael ar wefan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn cynnwys:
- yr hyn y mae angen i chi ei wybod cyn sefyll mewn etholiad
- gwariant ymgeiswyr
- ymgyrchu
- enwebiadau
- pleidleisiau drwy'r post
- diwrnod Pleidleisio
- gwirio a Chyfrif
- ar ôl yr etholiad
Dogfennau briffio ymgeiswyr
Mae'r Swyddfa Gartref hefyd wedi cyhoeddi cyfres o ddogfennau briffio y gall ymgeiswyr CHTh gyfeirio atynt os dymunant fel ffynhonnell gyfeirio.