Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Hawlio budd-daliadau

Mae gwasanaethau cefnogi a chyfrifwyr budd-daliadau annibynnol ar gael all eich helpu chi i weld pa fudd-daliadau lles y gallech chi eu hawlio.

Help gyda chael gafael ar fudd-daliadau

  • Tîm Hawliau Lles – gall Tîm Hawliau Lles y Cyngor gynghori a chefnogi pobl i wneud hawliad am bob budd-dal lles ac apeliadau Tribiwnlys. Mae'r tîm hefyd yn cynnwys Cynghorwyr Budd-daliadau Macmillan penodedig sy'n cefnogi cleifion canser a'u teuluoedd gyda'u budd-daliadau, gan ddarparu cyngor tebyg ar fudd-daliadau, yn ogystal â Grantiau Macmillan.
  • Gall Cyngor ar Bopeth eich helpu gyda thaliadau budd-daliadau lles a chyngor am arian.
  • Hawliwch yr hyn sydd i fod i chi – Os ydych chi’n ansicr ynghylch pa fudd-daliadau y gallwch chi eu hawlio, gall Advicelink Cymru eich helpu i wirio a hawli beth sy’n ddyledus i chi.
  • Cyfrifwyr budd-daliadau – defnyddiwch gyfrifydd budd-daliadau annibynnol i ddysgu: pa fudd-daliadau allech chi eu cael, sut i’w hawlio, a sut fyddai eich budd-daliadau’n cael eu heffeithio pe baech chi’n dechrau gweithio

Mathau o fudd-daliadau

Mae amryw fudd-daliadau lles y gallech chi fod yn gymwys i’w derbyn.

  • Credyd Cynhwysol – dyma fudd-dal i helpu gyda chostau byw os ydych chi ar incwm isel, allan o waith neu’n methu â gweithio.
  • Cefnogaeth gyda threth y cyngor – help gyda thalu eich bil treth y cyngor
  • Credyd pensiwn – mae Credyd Pensiwn yn rhoi arian ychwanegol i chi i helpu gyda’ch costau byw os ydych chi dros oedran y Pensiwn Gwladol ac ar incwm isel.
  • Lwfans Gweinihelp gyda chostau ychwanegol os oes gennych anabledd sy’n ddigon difrifol nes peri fod angen rhywun arnoch i ofalu amdanoch.
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)help gyda chostau byw ychwanegol os oes gennych y ddau hyn: cyflwr neu anabledd corfforol neu feddyliol hirdymor, ac anhawster gwneud rhai tasgau beunyddiol neu fynd o gwmpas oherwydd eich cyflwr.
  • Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai – help tuag at gostau tai ar gyfer pobl sydd fwyaf mewn angen.
  • Sense - dosbarthu grantiau o £500 i bobl ag anableddau cymhleth sydd ar incwm isel ac sy'n byw yng nghartref y teulu.