Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Urddas Mislif CNPT

Ers 2019 mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru a elwir yn 'Grant Urddas Mislif', i helpu i fynd i’r afael â thlodi mislif ledled Cymru.

Bydd yn helpu i wneud Cymru'n genedl sy'n falch o'r mislif ac yn sicrhau mynediad at gynhyrchion mislif heb embaras na chywilydd.

Mae pob ysgol gynradd ac uwchradd yng Nghastell-nedd Port Talbot yn derbyn cyllid i ddarparu cynnyrch mislif am ddim i'r rheini mewn angen mewn modd ymarferol ac urddasol.

Ble gallaf gael hyd i'r cynnyrch?

Mae'r grant yn cefnogi ein cymunedau drwy ddarparu adnoddau am ddim drwy bwyntiau cymorth allweddol.

Gallwch gasglu'ch cynnyrch mislif am ddim o wahanol leoliadau ledled y sir, fel a ganlyn:

Os ydych chi neu rywun yn eich cartref yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r cynhyrchion mislif sydd eu hangen arnoch, siaradwch â'ch Cysylltwr Cymunedol:

Gwasanaeth Cysylltwyr Cymunedol
(01792) 812825 (01792) 812825 voice +441792812825

Pa gynnyrch sydd ar gael?

Mae ystod o gynnyrch ar gael i ddiwallu anghenion pawb:

  • tamponau
  • cwpanau mislif
  • nicers mislif
  • padiau

Y nod yw darparu cynhyrchion sy'n helpu'r amgylchedd, gan gynnwys opsiynau y gellir eu hailddefnyddio a heb blastig.

Sefydliadau cymunedol

Os ydych chi'n:

  • sefydliad
  • prosiect
  • busnes

yng Nghastell-nedd Port Talbot, a hoffech gefnogi'r prosiect drwy ddod yn 'fan dosbarthu', cysylltwch â'r:

Gwasanaeth Cysylltwyr Cymunedol
(01792) 812825 (01792) 812825 voice +441792812825

Dolenni defnyddiol